Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan rai carchardai 'uned mam a'i baban' ar gyfer carcharorion sy'n feichiog pan fyddant yn mynd i'r carchar ac sy'n rhoi genedigaeth wrth iddynt fwrw eu dedfryd. Cael gwybod sut mae carcharorion yn gwneud cais i aros mewn uned a beth sy'n digwydd os oes plant ganddynt eisoes pan fyddant yn mynd i'r carchar.
Mae unedau'n gadael i famau gadw babanod gyda nhw am y 18 mis cyntaf
Mae beth sy'n digwydd i blentyn carcharor yn dibynnu ar oedran y plentyn ac ym mha garchar mae'r fam.
Babanod a gaiff eu geni tra bod eu mam yn y carchar
Os yw rhywun yn feichiog, fel arfer mae'n rhaid iddi aros yn llety 'arferol' y carchar gyhyd ag sy'n bosibl cyn yr enedigaeth.
Gwneir trefniadau i'r carcharor roi genedigaeth yn yr ysbyty mamolaeth agosaf at y carchar.
Mae gan rai carchardai 'uned mam a'i baban'. Mae hon yn rhan ar wahân o'r carchar sy'n gadael i famau gadw eu babanod gyda nhw am y 18 mis cyntaf.
Carcharorion â phlant o dan 18 mis
Gall carcharorion sydd eisoes â phlentyn o dan 18 mis oed pan fyddant yn mynd i'r carchar wneud cais i fynd â'r plentyn i'r carchar gyda nhw.
Carcharorion â phlant dros 18 mis
Os oes gan garcharor blant dros 18 mis pan fydd yn mynd i'r carchar, bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud trefniadau i ofalu amdanynt. Gallai hyn gynnwys:
Efallai y bydd yn bosibl i'r carcharor ymweld â'r man lle mae ei phlant yn byw. Os na fydd hyn yn bosibl, efallai y gall y plant ymweld â'u mam yn y carchar.
Gwneir y penderfyniad hwn gan y carchar a'r bobl sy'n gofalu am y plant.
Gall staff y carchar ddweud mwy wrth y carcharor am drefniadau ymweld.
Gall carcharorion wneud cais am le mewn uned mam a'i baban pan fyddant yn mynd i mewn i'r carchar
Gall carcharor wneud cais am le mewn uned mam a'i baban pan fydd yn mynd i mewn i'r carchar. Bydd grŵp o bobl (y 'bwrdd derbyniadau') yn edrych ar achos y carcharor. Byddant yn penderfynu ai aros yn y carchar gyda'r fam yw'r peth gorau i'r plentyn.
Gall y bwrdd derbyniadau gynnwys:
Caiff y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod. Efallai y gofynnir am farn unrhyw arbenigwyr sydd wedi helpu gyda gofal plentyn y carcharor cyn iddi fynd i'r carchar.
Gallai'r unigolyn hwn fod yn:
Bydd y carcharor hefyd yn cael cyfle i siarad yn y cyfarfod.
Beth sy'n digwydd os nad oes lleoedd ar gael
Os nad oes lleoedd ar gael yn y carchar y mae'r fam yn mynd iddo gyntaf, efallai y caiff gynnig lle mewn uned arall.
Os nad oes lleoedd ar gael mewn unrhyw uned, rhaid gwneud trefniadau i ofalu am y plentyn y tu allan i'r carchar. Efallai y bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu helpu os bydd hyn yn digwydd.
Beth fydd yn digwydd os gwrthodir lle i'r carcharor
Os gwrthodir lle i'r carcharor yn yr uned mam a'i baban gyntaf ni all wneud cais am le mewn un arall. Gall y carcharor apelio yn erbyn y penderfyniad - bydd y carchar yn egluro sut y gellir gwneud hyn.
Os yw staff y carchar o'r farn bod lles y plentyn mewn perygl, efallai y bydd rhaid i'r plentyn adael yr uned. Gallai hyn ddigwydd:
Efallai y bydd rhaid i blentyn adael ei fam:
Os oes gan y carcharor ddedfryd o gyfnod hir yn y carchar
Ar gyfer carcharorion sydd â dedfryd o gyfnod hir yn y carchar - er enghraifft, mwy na 18 mis - fel arfer gwneir trefniadau i ofalu am y plentyn y tu allan i'r carchar.
Gwneir y trefniadau hyn ('cynlluniau gwahanu') pan fydd y fam yn mynd i mewn i'r carchar neu'n fuan ar ôl hynny.
Mae gan y carchardai canlynol unedau mam a'i baban:
Mae Carchar EM Holloway yn cymryd plant hyd at naw mis oed.