Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o gyrsiau a chyfleoedd gwaith ar gael yn y carchar i helpu carcharorion i gael sgiliau a chymwysterau newydd. Gallant hefyd helpu carcharorion i gael swydd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mynnwch wybod am y mathau o gyrsiau a hyfforddiant y gall carcharorion eu cyflawni yn y carchar.
Gall carcharor weithio mewn swydd a chael cymwysterau addysgol ar yr un pryd. Er enghraifft, gallent gyflawni cwrs hyfforddi mewn paentio ac addurno a mynd i ddosbarthiadau darllen hefyd.
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan gyflogwyr
Yn fuan ar ôl cyrraedd y carchar, bydd carcharor yn siarad â staff addysg y carchar am gyrsiau a hyfforddiant. Bydd y staff yn asesu gwybodaeth a sgiliau presennol y carcharor.
Yn dilyn hyn, caiff Cynllun Dysgu Unigol ei lunio. Gallai gynnwys dysgu:
Gall Cynllun Dysgu Unigol hefyd gynnwys dysgu sgil fel:
Efallai y bydd carcharorion hefyd yn gallu cyflawni cwrs 'dysgu o bell' - er enghraifft, cwrs y Brifysgol Agored.
Gall staff addysg helpu carcharorion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt wrth ddysgu, er enghraifft, y rheini sydd ag anhawster neu anabledd dysgu.
Cymwysterau
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan gyflogwyr y tu allan i'r carchar, fel:
Gellir defnyddio cymwysterau i barhau ag addysg ar ôl gadael y carchar.
Mae llawer o garchardai yn rhoi'r cyfle i garcharorion weithio wrth iddynt fwrw eu dedfryd o garchar.
Ymhlith y mathau o waith mae:
Caiff y math hwn o waith ei wneud yng ngweithdai'r carchar.
Gall carcharorion hefyd weithio yn y carchar ei hun - er enghraifft, yn y ceginau, golchdai, gerddi a thrwy lanhau celloedd a landins.
Mae rhai carchardai yn cynnal eu clybiau swyddi eu hunain. Mae'r rhain yn helpu carcharorion i:
Gelwir gweithio i'r gymuned leol ger y carchar yn 'gweithio allan'. Mae hyn yn rhoi cyfle i garcharorion penodol fagu eu hyder cyn iddynt adael y carchar.
Dim ond os bydd y carchar o'r farn bod y canlynol yn wir y gall carcharor wneud gwaith cymunedol:
Os bydd y carcharor mewn carchar agored neu ar ddiwedd ei ddedfryd, gallai weithio'n wirfoddol a symud i waith â thâl.
Gweler 'Mathau o garchardai a chategorïau diogelwch' i gael gwybod mwy am garchardai agored.
Gweler 'Pryd y gall carcharor fod yn gymwys i gael ei ryddhau' i gael gwybodaeth am pryd y gellir rhyddhau carcharor am gyfnodau byr.