Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofal iechyd yn y carchar

Mae carcharorion yn cael yr un gofal iechyd, triniaeth a chyngor ag unrhyw un y tu allan i'r carchar. Mae gan bob carchar dimau gofal iechyd i ofalu am garcharorion. Cael gwybod mwy am ba ofal iechyd sydd ar gael, cofnodion iechyd, meddyginiaeth a sut y caiff triniaeth ei threfnu.

Mathau o ofal iechyd yn y carchar

Mae gan lawer o garchardai welyau cleifion mewnol ar gyfer carcharorion

Mae gan bob carchar dîm gofal iechyd - a gaiff ei redeg gan y GIG fel arfer. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • nyrsys a meddygon
  • optegwyr
  • deintyddion
  • fferyllwyr
  • timau iechyd meddwl

Nid oes gan garchardai ysbytai, ond mae gan lawer ohonynt welyau cleifion mewnol ar gyfer carcharorion sydd eu hangen.

Mae pob triniaeth iechyd am ddim, gan gynnwys triniaeth ddeintyddol a gweld optegydd - cyhyd â'i bod am resymau meddygol ac wedi'i chymeradwyo gan feddyg.

Beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn cyrraedd y carchar gyntaf

Pan fydd carcharorion yn cyrraedd y carchar gyntaf, gofynnir iddynt am eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl. Maent yn cael y cyfle i ddweud wrth y tîm gofal iechyd ar unwaith pa gymorth sydd ei angen arnynt, os o gwbl.

Yna rhoddir archwiliad mwy cyffredinol i'r carcharorion, fel arfer o fewn wythnos i gyrraedd y carchar.

Help a chymorth arbennig

Gall carcharorion gael help a chymorth arbennig hefyd os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae ganddynt broblemau cyffuriau neu alcohol
  • mae ganddynt HIV neu AIDS
  • mae ganddynt gyflwr iechyd meddwl
  • maent yn anabl neu mae ganddynt anhawster dysgu

Trefnu gofal iechyd yn y carchar

Gall y tîm gofal iechyd drin y rhan fwyaf o broblemau iechyd yn y carchar. Os yw carcharor yn sâl, dylai siarad â staff y carchar.

Os na all y tîm gofal iechyd drin rhywbeth, gall y meddyg:

  • drefnu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol (arbenigwr mewn cyflwr meddygol penodol) ddod i weld y carcharor
  • trefnu triniaeth mewn ysbyty allanol - gallai hyn fod yn ysbyty sy'n arbenigo mewn math penodol o driniaeth neu ofal

Gall carcharor sydd â chyflwr iechyd meddwl difrifol gael ei symud i ysbyty seiciatrig o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.

Meddyginiaeth a phresgripsiynau

Os yw carcharorion eisoes yn cymryd meddyginiaeth cyn mynd i'r carchar:

  • mae'n rhaid iddynt ddweud wrth nyrs/meddyg y carchar pan fyddant yn cyrraedd - ni allant fynd â meddyginiaeth i mewn i'r carchar gyda nhw
  • gallant barhau i'w chymryd - os yw meddyg y carchar yn rhagnodi'r feddyginiaeth
  • byddant yn cael y feddyginiaeth gan fferyllydd y carchar

Yn dibynnu ar ba feddyginiaeth ydyw, efallai y bydd y carcharorion yn gallu ei chadw gyda nhw yn eu cell.

Beth sy'n digwydd os yw carcharor yn gwrthod triniaeth feddygol

Gall carcharorion wrthod unrhyw driniaeth feddygol, gan gynnwys triniaeth seiciatrig.

Gall y tîm gofal iechyd ddewis rhoi triniaeth i rywun os nad yw'r unigolyn yn gallu gwneud y penderfyniad hwn ei hun. Er enghraifft, os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu.

Lle y bo'n bosibl, bydd y tîm gofal iechyd yn trafod hyn gyda theulu'r carcharor yn gyntaf.

Cofnodion iechyd - beth sy'n digwydd iddynt

Mae'r tîm gofal iechyd yn cadw cofnodion o iechyd carcharor - ac unrhyw driniaeth a gaiff yn y carchar.

Fel arfer ni fydd gan y carchar gofnodion iechyd carcharor o'r tu allan i'r carchar pan fydd yn cyrraedd gyntaf.

Gall y tîm gofal iechyd ofyn i feddyg y carcharor ei hun am ei gofnodion iechyd, ond dim ond os yw'r carcharor yn cytuno ar hynny.

Gall carcharor ofyn am gael gweld ei gofnodion iechyd unrhyw bryd.

Os oes gan garcharor broblem cyffuriau neu alcohol

Bydd y tîm gofal iechyd yn helpu carcharorion â phroblemau cyffuriau neu alcohol

Os oes gan garcharor broblem cyffuriau neu alcohol pan fydd yn mynd i mewn i'r carchar, bydd y tîm gofal iechyd yn trefnu triniaeth. Nod pob triniaeth yw bod y carcharor yn rhoi'r gorau i gyffuriau.

Caiff cymryd neu gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ei wahardd mewn carchardai.

Carcharorion sy'n ferched a gofal iechyd

Mae gan bob carchar i ferched 'Glinigau Merched Iach' sydd â'r un gwasanaethau â'r rheini y tu allan i'r carchar.

Gall merched sy'n garcharorion ofyn am gael gweld meddyg neu nyrs sy'n ferch - er na fydd bob amser yn bosibl (er enghraifft, mewn achos brys).

Mae carcharorion beichiog yn cael yr un gofal iechyd ag unrhyw un y tu allan i'r carchar (gan wasanaethau mamolaeth lleol y GIG).

Os bydd carcharor yn cwyno am ei ofal iechyd

Os nad yw carcharor yn fodlon ar y gofal iechyd mae'n ei gael yn y carchar, gall gwyno. Gall staff y carchar egluro sut mae'n gallu gwneud hyn.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU