Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan garcharor lai o hawliau na rhywun nad yw wedi torri'r gyfraith, ond mae gan bob carcharor hawliau cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud â sut y cânt eu trin. Mynnwch wybod pa hawliau sydd gan garcharor a sut y gall carcharor, neu rywun y mae'n ei adnabod, gwyno am ei driniaeth yn y carchar.
Mae gan garcharorion hawliau sylfaenol na ellir eu tynnu oddi wrthynt
Mae gan garcharorion hawliau cyfreithiol sylfaenol na ellir eu tynnu oddi wrthynt. Ymhlith y rhain mae:
Rhoddir taflen i garcharorion am eu hawliau pan fyddant yn cyrraedd y carchar.
Gallwch ddarllen mwy am hawliau dynol a hawliau cydraddoldeb gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Mae hawl gan garcharor i weld cyfreithiwr. Caiff cyfarfod ei gynnal o fewn golwg swyddog carchar ond allan o'i glyw.
Mae hawl gan garcharorion i ffonio cyfreithiwr neu ysgrifennu ato hefyd.
Mae sgyrsiau ffôn a llythyrau rhwng y carcharor a'i gyfreithiwr yn breifat.
Mae gan garcharorion yr hawl i deimlo'n ddiogel. Dylai carcharorion sy'n cael eu bwlio, sy'n cael eu bygwth neu y mae rhywun yn ymosod arnynt roi gwybod i staff y carchar ar unwaith.
Gallant wneud hyn yn gyfrinachol (yn breifat).
Mae'n rhaid i garchardai ddilyn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Mae hon yn diogelu pawb sy'n anabl - gan gynnwys carcharorion anabl a charcharorion â chyflwr iechyd meddwl.
Pan fydd carcharor yn cyrraedd y carchar gyntaf, gofynnir iddo am y cymorth sydd ei angen arno a pha 'addasiadau rhesymol' y gall y carchar eu gwneud.
Mae addasiadau rhesymol yn helpu carcharorion anabl i ddefnyddio cyfleusterau a gwasanaethau'r carchar, drwy ddarparu pethau fel a ganlyn:
Mae staff 'caplaniaeth' ar gael ym mhob carchar i helpu carcharorion i arddel eu ffyrdd neu'u crefydd. Mae staff yn sicrhau bod man ar gael i garcharorion fynd iddo er mwyn gweddïo neu gynnal cyfarfodydd crefyddol. Mae'n rhaid i bob carchar:
Mae gan garcharor yr hawl i gael yr un gofal iechyd â rhywun y tu allan i'r carchar. Mae gan bob carchar dimau gofal iechyd i ofalu am garcharorion ac mae ysbytai mewn llawer o garchardai.
Mae gan garcharorion nad ydynt yn siarad Saesneg yr hawl i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd a chyfieithu.
Gall carchardai ddarparu gwersi Saesneg hefyd.
Gall staff y carchar esbonio sut y gall carcharor drefnu gwasanaethau a chyrsiau addysgol.
Dylai gwybodaeth fod ar gael mewn nifer o ieithoedd am fywyd y carchar.
Mae carchardai yn cadw gwybodaeth am bob carcharor, gan gynnwys:
Gall carcharor dalu £10 i gael copi o'r wybodaeth hon. Bydd angen iddynt lenwi 'Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth'.
Gall staff y carchar egluro sut y gall carcharor drefnu hyn.
Mae sawl ffordd y gall rhywun gwyno am ei driniaeth yn y carchar.
Cwyno i staff y carchar neu Fwrdd Monitro Annibynnol
Gall carcharor gwyno drwy:
Mae'r Bwrdd Monitro Annibynnol yn gorff ar wahân i'r Gwasanaeth Carchardai a'r cyhoedd yw'r aelodau. Mae'n monitro sut y caiff carchardai lleol eu rhedeg.
Yr Ombwdsman Carchardai a Phrawf
Os bydd carcharor yn dal i fod yn anfodlon ar ddiwedd y broses gwyno, gall gysylltu â'r Ombwdsman Carchardai a Phrawf (yr Ombwdsman).
Mae'r Ombwdsman yn annibynnol ar y Gwasanaeth Carchardai. Dim ond ar ôl i'r broses fewnol (fel y nodir uchod) wedi'i chwblhau a bod y gŵyn yn dal heb ei datrys y gall yr Ombwdsman ymchwilio i gŵyn.
Caniateir i'r Ombwdsman weld gwybodaeth y Gwasanaeth Carchardai am y carcharor. Mae'n rhaid i'r carcharor roi caniatâd i'r Ombwdsman weld ei gofnodion meddygol.