Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall pryd y caiff rhywun ei ryddhau o'r carchar ddibynnu ar sawl peth, fel y math o ddedfryd ac os gwnaeth dreulio amser ar remánd. Mynnwch wybod mwy am yr hyn sy'n effeithio ar ryddhau carcharor a beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn ôl yn y gymuned ar ôl cael ei ryddhau.
Ymhlith y pethau sy'n helpu i benderfynu pryd y caiff carcharor ei ryddhau mae'r canlynol:
Bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu pryd y gellir rhyddhau carcharorion penodol yn ddiogel
Bydd y Bwrdd Parôl yn adolygu achosion rhai carcharorion sy'n gymwys i gael eu rhyddhau. Mae'n gorff annibynnol sy'n penderfynu pryd y gellir rhyddhau carcharorion penodol yn ddiogel.
Fel arfer, caiff carcharor sy'n bwrw dedfryd benodol ei ryddhau'n awtomatig hanner ffordd drwy'r ddedfryd. Er enghraifft, yn gyffredinol caiff rhywun sydd wedi'i ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar ei ryddhau ar ôl blwyddyn.
Mathau penodol o droseddau a gyflawnwyd cyn 4 Ebrill 2005
Mae'n rhaid i garcharor sy'n bwrw dedfryd benodol wneud cais i'r Bwrdd Parôl os yw'r ddau bwynt canlynol yn gymwys. Mae:
Os yw carcharor yn bwrw dedfryd amhenodol, caiff ei achos ei anfon yn awtomatig i'r Bwrdd Parôl ar adeg benodol. Bydd hyn yn digwydd rhwng chwech a naw mis cyn diwedd tariff y carcharor (y cyfnod gofynnol y mae'n rhaid i garcharor ei dreulio yn y carchar).
Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid bod y carcharor yn bwrw un o'r dedfrydau canlynol:
Gall y Bwrdd Parôl benderfynu ar y canlynol mewn gwrandawiad:
Os caiff carcharor ei ddedfrydu i ddedfryd benodol o 12 mis neu fwy, treulir ail hanner y ddedfryd yn y gymuned. Dyma beth yw ystyr 'ar drwydded'.
Mae bod ar drwydded yn golygu bod yn rhaid iddo fodloni amodau penodol - fel cadw draw oddi wrth ddioddefwr y drosedd.
Os bydd yn torri unrhyw amodau neu'n cyflawni trosedd arall, gallai fynd yn ôl i'r carchar i fwrw ei ddedfryd.
Bydd y Gwasanaeth Prawf yn goruchwylio (rheoli) y carcharor.
'Cyrffyw Cadw yn y Cartref' - beth ydyw
Weithiau gall carcharorion a ddedfrydir i rhwng tri mis a phedair blynedd yn y carchar gael eu rhyddhau cyn y pwynt hanner ffordd 'arferol'. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn rhaid iddynt gadw at gyrffyw.
Mae bod ar gyrffyw yn golygu bod yn rhaid iddynt fod mewn man penodol ar adeg benodol - fel arfer eu cartref eu hunain rhwng 7.00 pm a 7.00 am.
Os na fyddant yn glynu at reolau'r cyrffyw, gellir eu hanfon yn ôl i'r carchar.
Weithiau gall carcharorion gael eu rhyddhau am y dydd neu dros nos mewn amgylchiadau arbennig
Efallai y caniateir i garcharorion adael y carchar am gyfnodau byr. Gelwir hyn yn 'rhyddhau â thrwydded dros dro’. Yn gyffredinol gall carcharorion wneud cais am hyn tuag at ddiwedd eu hamser yn y carchar.
Gall staff y carchar egluro sut i wneud hyn a sut y caiff y carcharor ei oruchwylio (rheoli) y tu allan i'r carchar.
Ni fydd y carchar yn rhyddhau rhywun os, er enghraifft, bydd o'r farn y gall beri risg i'r cyhoedd.
Mae mathau gwahanol o ryddhau y gall carcharor wneud cais amdanynt.
Rhyddhad dydd er mwyn adsefydlu
Bydd 'rhyddhad dydd er mwyn adsefydlu' yn rhyddhau carcharor yn ystod y dydd. Er enghraifft, i fynd i'r gwaith neu gadw mewn cysylltiad â'i deulu.
Rhyddhad dros nos er mwyn adsefydlu
Yn gyffredinol bydd 'rhyddhad dros nos er mwyn adsefydlu' yn caniatáu i'r carcharor dreulio'r noson yn y man lle bydd yn byw ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Trwydded diben arbennig
Bydd 'trwydded diben arbennig' yn caniatáu i garcharor adael am ychydig oriau ar gyfer digwyddiad teuluol neu bersonol annisgwyl. Er enghraifft, i fynd i angladd perthynas agos.
Trwydded adsefydlu gofal plant
Bydd 'trwydded adsefydlu gofal plant' yn caniatáu i garcharor dreulio amser gyda'i blentyn neu'i blant. Gall wneud cais am y drwydded hon os mai'r unigolyn hwn fydd prif ofalwr plentyn neu blant o dan 16 oed pan fydd yn gorffen ei ddedfryd o garchar.