Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch gael cyngor cyfreithiol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i'ch helpu i dalu am gostau cyfreithiol. Gallwch gael gwybod ble i fynd i gael help a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn siarad â chynghorydd cyfreithiol.
Dylech holi a allwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'ch problem. Cynllun sy'n helpu pobl i dalu am gyngor cyfreithiol yw cymorth cyfreithiol. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol os byddwch yn bodloni amodau penodol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Rhif ffôn: 0845 345 4 345
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00 am i 8.00 pm. Dydd Sadwrn 9.00 am i 12.30 pm.
Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim ar eich problemau cyfreithiol a'r ffordd orau o ddelio â hwy gan y sefydliadau a restrir isod.
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol roi help neu gyngor cyfreithiol am ddim dros y ffôn. Gall helpu gyda phroblemau sy'n ymwneud â theulu, dyledion, tai, cyflogaeth, addysg, budd-daliadau lles a chredydau treth.
Bydd yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd cyfreithiol arbenigol. Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau a all helpu o hyd.
Ffôn: 0845 345 4 345
Oriau agor: O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am ac 8.00pm. Dydd Sadwrn rhwng 9.00am a 12.30pm.
Bydd galwadau i Gyngor Cyfreithiol Cymunedol yn costio 4 ceiniog y funud o linell tir BT. Bydd galwadau o ffonau symudol fel arfer yn costio mwy. Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gall eich ffonio'n ôl.
Gallwch hefyd decstio 'legalaid' a'ch enw i 80010 a bydd Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn eich ffonio'n ôl o fewn 24 awr.
Cyngor ar Bopeth
Gall Cyngor ar Bopeth eich helpu gyda phroblemau cyfreithiol, problemau sy'n ymwneud ag arian a phroblemau eraill drwy ddarparu gwybodaeth am ddim a chyngor cyfrinachol o dros 3,200 o leoliadau ledled y wlad.
Canolfannau Cyfraith
Os oes rhywun yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn, gallwch gael cyngor annibynnol am ddim gan Ganolfan y Gyfraith yn eich ardal leol.
Cael cyngor cyfreithiol yn Iaith Arwyddion Prydain
Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar (RAD), yn rhoi cyngor cyfreithiol arbenigol ac annibynnol yn Iaith Arwyddion Prydain. Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwe-gamera ar eu gwefan i gael cyngor cyfreithiol.
Cael cyngor cyfreithiol os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf
Mae gan linell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol wasanaeth cyfieithu am ddim i gael cyngor cyfreithiol mewn 170 o ieithoedd.
Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Bengali, Pwyleg a Gujarati.
Mae angen cyngor cyfreithiol arbenigol ar rai problemau cyfreithiol. Gallai'r rhain gynnwys problemau gyda thai, arian neu faterion defnyddwyr. Bydd cyngor arbenigol yn helpu i ddatrys eich problem mewn ffordd fwy effeithiol. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i sefydliadau sy'n cynnig cyngor arbenigol.
Gallwch gael help a chyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol. Gallant drafod yr opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi a'ch helpu i baratoi eich achos os oes angen iddo fynd i'r llys.
Pan fyddwch yn siarad â'ch cynghorydd am y tro cyntaf, dylech gofio fynd â'r wybodaeth ganlynol gyda chi:
Os ydych o'r farn y gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, dylech hefyd fynd â'r wybodaeth ganlynol gyda chi:
Dylai eich cynghorydd cyfreithiol egluro'r canlynol i chi:
Cyn i chi adael y cyfarfod, dylech wybod y canlynol:
Rhaid i chi ddweud popeth am eich achos wrth eich cynghorydd cyfreithiol, fel y gall eich helpu yn y ffordd orau bosibl. Cedwir unrhyw wybodaeth a roddir gennych yn breifat ac yn gyfrinachol.
Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.