Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle
Tudalen 1 O 4 (bosibl)
Os hoffech chi gael cyngor cyfreithiol cyfrinachol a di-dâl, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich ffonio'n ôl ar amser sy'n gyfleus i chi. Defnyddiwch y ffurflen hon i drefnu i rywun eich ffonio.
Bydd y sawl a fydd yn eich ffonio'n ôl yn gofyn ambell gwestiwn i chi am eich sefyllfa ariannol er mwyn gweld a ydych chi'n gymwys i gael cyngor arbenigol di-dâl.
Os ydych chi'n gymwys ac yn dymuno cael cyngor dros y ffôn, byddwch yn cael eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd cyfreithiol arbenigol ar unwaith - mae'n bosib y bydd y cynghorydd hwn yn ymgymryd â'ch achos.
Os nad ydych chi'n gymwys i gael y gwasanaeth hwn, cewch eich cyfeirio at wasanaethau eraill a fydd yn gallu eich helpu.
Ymysg pethau eraill, gall y cynghorwyr cyfreithiol wneud y canlynol:
Gallwch siarad â'ch cynghorydd yn gyfrinachol cynifer o weithiau ag y bydd angen, nes bod y broblem wedi'i datrys.
Ni chodir tâl arnoch am y gwasanaeth hwn. Caiff y cyngor a'r help a roddir ei ariannu gan gymorth cyfreithiol.