Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth cyfreithiol - cyflwyniad

Mae cymorth cyfreithiol yn gynllun sy'n helpu pobl i dalu am y gost o gael cyngor cyfreithiol. Rhaid i chi fodloni amodau penodol i fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Cael gwybod sut mae cymorth cyfreithiol yn gweithio a pha gostau cyfreithiol y gall helpu gyda hwy.

Beth yw cymorth cyfreithiol?

Cynllun sy'n helpu pobl i dalu am gyngor cyfreithiol yw cymorth cyfreithiol. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol os byddwch yn bodloni amodau penodol. Ymhlith y rhain mae:

  • y math o broblem sydd gennych
  • eich amgylchiadau ariannol
  • faint o help sydd ei angen arnoch

Efallai na fydd cymorth cyfreithiol yn talu am holl gostau eich achos. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian a gewch fel cymorth cyfreithiol os byddwch yn ennill unrhyw arian neu eiddo o'ch achos.

Cymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol

Os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd, mae cael cymorth cyfreithiol yn wahanol i'w gael ar gyfer achos nad yw'n un troseddol (sifil). Os ydych yn wynebu cael eich holi gan yr heddlu, cael eich cyhuddo o drosedd neu fynd i'r llys, holwch sut y gallwch gael help.

Sut i gael cymorth cyfreithiol

Dylech holi a allwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'ch problem. Mae amodau penodol y mae angen i chi eu bodloni i gael cymorth cyfreithiol a bydd yn rhaid i chi wneud cais drwy gynghorydd cyfreithiol.

Problemau y gallech gael cymorth cyfreithiol ar ei gyfer

Dim ond ar gyfer rhai mathau o broblemau mewn meysydd penodol o'r gyfraith y gellir cael cymorth cyfreithiol. Gallai'r problemau hyn gynnwys:

  • budd-daliadau lles, fel problem gyda Lwfans Ceisio Gwaith
  • camau gweithredu yn erbyn yr heddlu, fel cael eich arestio ar gam
  • esgeulustra clinigol, fel hawliadau yn erbyn meddyg neu ddeintydd
  • gofal cymunedol, fel hawliadau yn erbyn gwasanaethau cymdeithasol am beidio â gofalu am berson hŷn
  • cyfraith defnyddwyr a chontract cyffredinol, fel ansawdd gwael nwyddau neu wasanaethau
  • trosedd, fel cael help yn y llys os cewch eich cyhuddo o drosedd
  • dyled, fel cyngor cyfreithiol os ydych wedi cael eich datgan yn fethdalwr
  • addysg, fel achosion cyfreithiol ynghylch addysg ar gyfer anghenion arbennig
  • cyflogaeth, fel hawliadau sy'n ymwneud â diswyddo annheg neu wahaniaethu nad yw tribiwnlys yn delio â hwy
  • teulu, fel gwahanu ac ysgaru
  • tai, fel problemau rydych wedi'u cael wrth brynu neu werthu cartref
  • mewnfudo a chenedligrwydd, fel cael eich alltudio o'r DU
  • iechyd meddwl, fel cael help i aelod o'r teulu neu ffrind
  • cyfraith gyhoeddus, fel herio penderfyniad awdurdod lleol

Problemau na allwch gael cymorth cyfreithiol ar eu cyfer

Fel arfer, ni allwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer y problemau canlynol:

  • anaf personol
  • mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth
  • niwed anghyfrifol i eiddo
  • trawsgludo (trosglwyddo eiddo'n gyfreithiol pan fyddwch yn prynu neu'n gwerthu tŷ neu fflat)
  • anghydfodau ynghylch ffiniau
  • llunio ewyllys
  • difenwad (enllib ac athrod) neu gelwydd maleisus (lledaenu celwyddau am bobl yn fwriadol)

Y lefelau gwahanol o gymorth cyfreithiol - am beth maent yn talu

Mae lefelau gwahanol o gymorth cyfreithiol i dalu am gostau cyfreithiol gwahanol. Bydd lefel y cymorth cyfreithiol a gewch yn dibynnu ar eich achos.

Help Cyfreithiol

Mae Help Cyfreithiol yn talu am y gost o gael cyngor arbenigol. Mae hyn yn cynnwys eich cynghorydd cyfreithiol yn egluro eich hawliau a'r opsiynau gwahanol sydd gennych i ddatrys eich problem. Gall hefyd gynnwys y gost o rywun yn negodi ar eich rhan, gan sicrhau y gorfodir penderfyniad cyfreithiol cyfredol neu baratoi achos ysgrifenedig.

Help yn y Llys

Mae Help yn y Llys yn talu am gynghorydd i siarad ar eich rhan mewn llys sifil os nad oes angen i chi amddiffyn eich hun. Er enghraifft, os ydych wedi cytuno bod arnoch arian i rywun ond bod angen i chi drefnu sut a phryd i dalu'r ddyled.

Cyfryngu Teuluol

Gall Cyfryngu Teuluol dalu am gyfryngwr annibynnol i geisio eich helpu i ddatrys anghydfodau teuluol heb orfod mynd i'r llys. Er enghraifft, gall eich helpu i gytuno ar gontract gyda'ch plant os bydd eich perthynas yn dod i ben.

Help Teuluol

Mae Help Teuluol yn talu am help neu gynrychiolaeth ar gyfer anghydfodau teuluol. Er enghraifft, gall eich helpu i lunio unrhyw gytundebau cyfreithiol rhyngoch chi a'ch partner neu'ch priod. Fodd bynnag, nid yw'n talu am y gost o rywun yn siarad ar eich rhan nac yn eich cynrychioli mewn gwrandawiad neu apêl derfynol yn y llys.

Cynrychiolaeth Gyfreithiol

Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn helpu gyda'r costau sy'n gysylltiedig â mynd â mathau penodol o achosion sifil i'r llys neu'r tribiwnlys. Mae'n cynnwys cost cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn siarad ar eich rhan i'ch amddiffyn. Cael gwybod mwy am Gynrychiolaeth Gyfreithiol drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Cael help cyfreithiol ar frys

Ar gyfer achosion brys - er enghraifft, i gadw eich hun a'ch plant yn ddiogel rhag camdriniaeth - efallai y gallwch gael cynrychiolaeth gyfreithiol ar frys. Dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol a gall wneud y cais am gynrychiolaeth gyfreithiol ar frys i chi.

Cael cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Caiff cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ei reoli gan y Scottish Legal Aid Board a'r Northern Ireland Legal Services Commission.

Cymorth cyfreithiol ar gyfer problem dramor

Dim ond ar gyfer problem dramor ar gyfer achosion sifil y gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol. Ni fyddwch yn cael cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion troseddol dramor. I gael gwybod a allwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer problem dramor, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.

Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.

Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cael gwybod mwy am gymorth cyfreithiol os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Allweddumynediad llywodraeth y DU