Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor cyfreithiol am ddim ar broblemau sy'n ymwneud ag arian, tai a defnyddwyr

Os oes gennych broblemau cyfreithiol ac yn poeni am gost help cyfreithiol, gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim. Gall hyn eich helpu i ddeall eich opsiynau ar gyfer datrys y broblem yn well. Mynnwch wybod i ble y gallwch fynd i gael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer problemau sy'n ymwneud â thai, arian a materion ariannol

Cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer problemau sy'n ymwneud â thai, arian a materion ariannol.

Shelter

Mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol ar dai, dyledion, budd-daliadau lles, anghenion o ran gofal ac iechyd (gan gynnwys hawliau a hawliadau anabledd). Yng Nghymru ffoniwch 0845 075 5005, ac yn Lloegr ffoniwch 0808 800 4444.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol am ddim sy'n helpu i setlo anghydfodau rhwng defnyddwyr a busnesau a leolir yn y DU sy'n darparu gwasanaethau ariannol. Er enghraifft, efallai y gall helpu os oes gennych broblem gyda chwmni yswiriant neu fanc.

Moneymadeclear

I gael cyngor annibynnol ar faterion ariannol (er enghraifft, benthyciadau, morgeisi, cynilion, trethi a phensiynau), cysylltwch â Moneymadeclear.

Cysylltu â'r CCCS

0800 138 1111 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm

Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS)

I gael cwnsela cyfrinachol am ddim ar broblemau sy'n ymwneud â dyledion, gan gynnwys cyngor ar gyllidebu a chredyd, cysylltwch â'r CCCS.

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

0808 808 4000 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 9.00 pm, dydd Sadwrn rhwng 9.30 am ac 1.00 pm

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

Mae'r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig help annibynnol a chyfrinachol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'r llinell gymorth a lawrlwytho cyhoeddiadau o'r wefan hefyd.

Cyngor cyfreithiol am ddim ar broblemau sy'n ymwneud â mewnfudo a lloches

I gael cyngor am ddim ar fewnfudo neu loches, gweler y sefydliadau isod.

Cyngor y Ffoaduriaid

Mae Cyngor y Ffoaduriaid yn cynnig gwybodaeth a chyngor i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth i blant sy'n cyrraedd yn y DU ar eu pen eu hunain ac i helpu oedolion i ddod o hyd i waith.

Cymorth Lloches

Mae Cymorth Lloches yn darparu cynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU.

Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaethau Mewnfudo

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaethau Mewnfudo yn gyfrifol am sicrhau bod pob cynghorydd mewnfudo yn bodloni gofynion arfer da.

Y Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo

Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo yn elusen a all gynnig cynrychiolaeth gyfreithiol a chyngor i chi i'ch helpu gyda'ch achos mewnfudo a lloches.

Cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer problemau defnyddwyr

I gael cyngor am ddim ar broblemau defnyddwyr, gweler y sefydliadau isod.

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich cwmni dŵr neu garthffosiaeth yn trin eich cwyn, gallech ofyn i'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ddelio â'ch cwyn.

Y Swyddfa Masnachu Teg

Mae'r Swyddfa Masnachu Teg yn gorfodi cyfraith diogelu defnyddwyr a chyfraith cystadleuaeth. Mae'r wefan yn cynnig cyngor cyffredinol ar hawliau defnyddwyr yn y DU.

Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA)

Mae ABTA yn rheoleiddio asiantau teithio ledled Prydain ac yn helpu i ddiogelu defnyddwyr drwy orfodi rheolau a rheoliadau. Gall gynnig cyngor ar sut i ddatrys problemau y gallech fod yn eu hwynebu gydag asiant teithio.

Cyngor cyfreithiol am ddim ar broblemau sy'n ymwneud ag iechyd ac anafiadau

Gall y sefydliadau canlynol roi cyngor i chi ar unrhyw broblemau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch y gallech fod yn eu hwynebu neu os ydych wedi cael eich anafu.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithio i ddiogelu hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion. Mae hefyd yn sicrhau bod cyflogwyr yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol yn y gweithle.

Cymdeithas y Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL)

Mae gwefan APIL yn cynnig cyngor a gwybodaeth am eich hawliau os ydych wedi cael eich anafu a gall eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol.

Cyngor cyfreithiol am ddim ar broblemau yn y gwaith

Acas

08456 06 16 00 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm, dydd Sadwrn rhwng 9.00 am ac 1.00 pm

Os ydych yn cael problemau yn y gwaith, er enghraifft gyda chyflog neu wahaniaethu, gweler y rhestr isod i weld sefydliadau sy'n cynnig help a chyngor am ddim.

ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafreddu)

Gall Acas ddarparu gwybodaeth gyffredinol am hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth a gall hefyd helpu cyflogeion a chyflogwyr sy'n ymwneud ag anghydfod cyflogaeth i nodi ffyrdd ymarferol o ddatrys y broblem.

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Mae'r llinell gymorth gyfrinachol hon yn darparu help a chyngor ar hawliau cyflogaeth a orfodir gan y llywodraeth. Mae'n darparu gwybodaeth am faterion gan gynnwys hawliau o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweithwyr asiantaeth ac oriau gweithio.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

I gael cyngor a gwybodaeth am wahaniaethu, cydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Help a chyngor yn Gymraeg

Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cael gwybod mwy am gymorth cyfreithiol os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Allweddumynediad llywodraeth y DU