Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
I gael cymorth cyfreithiol mae angen i chi fodloni amodau penodol. Gall cynghorydd cyfreithiol gadarnhau p'un a ydych yn gymwys ai peidio a gwneud cais am y cymorth cyfreithiol ar eich rhan. Mynnwch wybod sut i gael cymorth cyfreithiol a beth y gallwch ei wneud os nad ydych yn gymwys.
Gallwch ddefnyddio'r cyfrifydd cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol ar-lein i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Bydd y cyfrifydd yn gofyn cwestiynau cyffredinol i chi am eich problem a'ch sefyllfa ariannol. Nid yw'n gwarantu y byddwch yn cael cymorth cyfreithiol.
Cael cymorth cyfreithiol os ydych o dan 18 oed
Os ydych o dan 18 oed bydd eich cymhwysedd i gael cymorth cyfreithiol yn dibynnu ar incwm a chyfalaf eich rhiant neu'ch gwarcheidwad. Fodd bynnag, os yw eich problem gyfreithiol rhyngoch chi a'ch rhieni, efallai nad felly y bydd.
Os ydych o'r farn eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, dylech ffonio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Bydd yn cadarnhau eich cymhwysedd unwaith eto ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd cyfreithiol i'ch helpu gyda'ch problem.
Gallwch ffonio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345. Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am ac 8.00pm. Mae'r llinell gymorth hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn rhwng 9.00am a 12.30pm. Bydd galwadau'n costio 4 ceiniog y funud o linell tir BT. Bydd galwadau o ffonau symudol yn costio mwy fel arfer. Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gall eich ffonio'n ôl.
Gallwch hefyd decstio 'legalaid' a'ch enw i 80010 a bydd Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn eich ffonio'n ôl o fewn 24 awr.
Mae'r cyngor yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
Dylech gael y wybodaeth ganlynol gyda chi pan fyddwch yn siarad â chynghorydd cyfreithiol:
Os bydd y cynghorydd cyfreithiol yn penderfynu eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd yn gwneud y cais ar eich rhan. Os bydd y cynghorydd cyfreithiol yn penderfynu eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, byddwch yn dechrau cael help cyfreithiol ar unwaith.
Gallwch gysylltu â chynghorydd cyfreithiol yn uniongyrchol i helpu gyda chael cymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd chwilio ar-lein am gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallech roi cynnig ar y canlynol:
Mae rhai cyfreithwyr neu gynghorwyr cyfreithiol yn cynnig rhai gwasanaethau am ddim. Gelwir hyn yn 'Pro Bono' ac mae'n golygu 'er lles y cyhoedd'. Gall cyfreithwyr neu gynghorwyr cyfreithiol eraill gynnig cyngor i chi am gost is.
Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.