Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ad-dalu cymorth cyfreithiol a chyfrannu at eich costau cyfreithiol

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw gymorth cyfreithiol a gewch neu dalu rhywfaint o arian tuag at gostau cyfreithiol eich achos. Mae hyn yn dibynnu ar ba fath o broblem sydd gennych a'ch sefyllfa ariannol. Mynnwch wybod pryd a sut y bydd yn rhaid i chi helpu i dalu eich costau cyfreithiol o bosibl.

Pam y bydd yn rhaid i chi helpu i dalu am eich achos o bosibl

Os cewch gymorth cyfreithiol, caiff eich cyfreithiwr neu'ch cynghorydd cyfreithiol ei dalu'n uniongyrchol - ni chewch unrhyw arian eich hun i dalu'r biliau cyfreithiol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o'r costau cyfreithiol o hyd, hyd yn oed os cewch gymorth cyfreithiol. Mae hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol a'r math o broblem sydd gennych.

Bydd unrhyw daliadau y bydd yn rhaid i chi eu talu tuag at eich cymorth cyfreithiol yn seiliedig ar y wybodaeth ariannol a roddwyd gennych i'ch cynghorydd cyfreithiol. Ni fydd yn rhaid i bawb wneud taliadau. Bydd eich cynghorydd cyfreithiol yn dweud wrthych os oes rhaid i chi wneud taliadau, faint ydynt a sut y gallwch eu talu.

Beth y dylai eich cynghorydd cyfreithiol ei egluro

Rhaid i'ch cynghorydd cyfreithiol egluro i chi sut a pham y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'r cymorth cyfreithiol o bosibl. Rhaid iddo roi taflen o'r enw 'Talu am eich cymorth cyfreithiol' i chi. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gallwch ei lawrlwytho.

Dywedwch wrth eich cynghorydd os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, hyd yn oed os nad oes rhaid i chi helpu i dalu eich costau cyfreithiol. Gallai newidiadau yn eich sefyllfa ariannol olygu y bydd yn rhaid i chi ddechrau gwneud taliadau, neu y bydd gwerth eich taliadau yn mynd i fyny neu i lawr.

Os na fyddwch yn dweud wrth eich cyfreithiwr am newid i'ch sefyllfa ariannol, gallech golli eich cymorth cyfreithiol i gyd. Gelwir hyn yn 'dirymu eich tystysgrif' ac mae'n golygu y byddai'n rhaid i chi ad-dalu'r holl arian a gawsoch yn gymorth cyfreithiol.

Sut i wneud taliadau tuag at gost eich achos

Os bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw arian eich hun, mae tair ffordd y gallwch wneud hyn:

  • cyfandaliad o'ch cynilion (a elwir yn 'gyfraniad cyfalaf')
  • taliadau misol o'ch incwm nes y daw eich achos i ben (a elwir yn 'gyfraniad incwm')
  • ad-dalu costau os cewch (neu os byddwch yn dal eich gafael ar) arian neu eiddo drwy ennill eich achos (a elwir yn 'daliad statudol')

Wrth wneud taliadau tuag at gost eich achos, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio un o'r dulliau hyn, neu bob un ohonynt.

Os dyfernir arian i chi o ganlyniad i'ch achos

Os byddwch yn ennill arian neu'n dal eich gafael ar arian o ganlyniad i'ch achos ac y cawsoch gymorth cyfreithiol, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r holl gymorth cyfreithiol, neu rywfaint ohono. Yn y sefyllfa hon, gall cymorth cyfreithiol weithredu fel benthyciad. Gelwir hwn yn 'daliad statudol'.

Gallwch ad-dalu eich cymorth cyfreithiol yn ddiweddarach os gwnaethoch ddefnyddio unrhyw arian a ddyfarnwyd i chi i brynu cartref. Gallwch ddewis talu'r swm sy'n ddyledus gennych mewn taliadau rheolaidd neu drwy wneud un taliad ar unrhyw adeg am y swm cyfan.

Tra bod arian yn ddyledus gennych, efallai y codir llog ar y swm sy'n weddill.

Os dyfernir eiddo i chi o ganlyniad i'ch achos neu os byddwch yn dal eich gafael ar eiddo

O ganlyniad i'ch achos, efallai y cewch gadw eiddo neu ennill eiddo y byddwch yn ei ddefnyddio fel cartref. Efallai y gallwch oedi cyn ad-dalu eich cymorth cyfreithiol drwy gofrestru arwystl ar eich eiddo. Mae'n golygu bod gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol hawl i gyfran o werth eich eiddo.

Sut y caiff eich costau cyfreithiol eu cyfrifo

Caiff biliau pob cyfreithiwr eu hasesu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu'r llys ar ddiwedd yr achos. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod bil y cyfreithiwr yn deg.

Rhaid i'ch cyfreithiwr ddangos ei fil i chi cyn y caiff ei asesu. Dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr os nad ydych wedi gweld y bil ar ddiwedd eich achos. Efallai y bydd bil eich cyfreithiwr yn lleihau ar ôl iddo gael ei asesu.

Help a chyngor yn Gymraeg

Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cael gwybod mwy am gymorth cyfreithiol os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Allweddumynediad llywodraeth y DU