Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno am gynghorydd cyfreithiol neu gwmni hawliadau

Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth a ddarperir gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr, gallwch gwyno wrthynt. Os na fydd hynny'n gweithio, gallwch gael help gan ombwdsmon. Os ydych wedi defnyddio cwmni rheoli hawliadau, gall rheoleiddiwr archwilio eich cwyn. Cael gwybod sut i gwyno.

Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar eich cynghorydd cyfreithiol

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch gan eich cynghorydd cyfreithiol, dylech godi'r broblem gydag ef yn gyntaf. Dylech roi'r cyfle iddo ddatrys y broblem cyn i chi gymryd unrhyw gamau pellach.

Gallai'r cynghorydd cyfreithiol fod yn gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr, yn drawsgludiaethwr (rhywun sy'n gwneud gwaith cyfreithiol wrth brynu neu werthu eiddo), neu'n unrhyw un arall sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol.

Efallai ei fod wedi darparu gwasanaeth gwael wrth ddelio â mater cyfreithiol fel ysgariad, wrth werthu tŷ neu hawliad anaf personol.

Gallai hyn ddigwydd am sawl rheswm:

  • methodd â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich achos
  • roedd yn araf yn delio â'ch problem
  • cododd ormod o arian arnoch
  • methodd â dilyn eich cyfarwyddiadau
  • rhoddodd wybodaeth ddryslyd i chi
  • roedd yn anghwrtais

Eglurwch pam nad ydych yn fodlon, a'r hyn rydych am iddo ei wneud.

Efallai y byddwch am gael ymddiheuriad, eich arian yn ôl, neu help ychwanegol os nad yw wedi darparu gwasanaeth llawn. Neu efallai y byddwch am i'r cynghorydd newid y ffordd mae'n gwneud pethau, fel na fydd pobl eraill yn mynd drwy'r un profiad.

Sut i wneud cwyn ffurfiol

Bydd y rhan fwyaf o weithdrefnau cwyno yn gofyn i chi wneud cwyn ysgrifenedig

Os nad ydych yn fodlon ar ymateb eich cynghorydd, yna gallwch wneud cwyn ffurfiol.

Cysylltwch â'r cynghorydd a gofynnwch am gopi o'i weithdrefn gwyno. Dylai egluro:

  • sut i gwyno
  • ble i anfon eich cwyn
  • sut y delir â'ch cwyn

Bydd y rhan fwyaf o weithdrefnau cwyno yn gofyn i chi wneud cwyn ysgrifenedig.

Ysgrifennwch 'Cwyn Ffurfiol' ar frig eich llythyr. Ceisiwch fod yn glir ynglŷn â'r hyn rydych yn cwyno amdano, a'r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd. Sicrhewch eich bod yn cadw copi o'r llythyr ac yn gwneud nodyn o unrhyw alwadau ffôn i'r cyfreithiwr neu'r cwmni cyfreithiol.

Mynd â'ch cwyn ymhellach - cwyno i'r Ombwdsmon Cyfreithiol

Mae'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn sefydliad annibynnol sy'n archwilio cwynion am gyfreithwyr

Mae'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn sefydliad annibynnol sy'n archwilio cwynion am gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.

Os na fydd eich cynghorydd yn ymateb i chi o fewn wyth wythnos, neu os byddwch yn anfodlon ar ei ymateb, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Gallwch hefyd gwyno i'r ombwdsmon os nad ydych wedi cael penderfyniad terfynol o fewn yr amser hwn.

Ni fydd yr ombwdsmon yn cefnogi'r naill ochr na'r llall, ond bydd yn siarad â chi a'r cynghorydd ac yn penderfynu a yw wedi darparu gwasanaeth gwael. Mae'n datrys y rhan fwyaf o broblemau'n anffurfiol, ond gall ymchwilio i achosion mwy cymhleth.

Gallai'r ombwdsmon ofyn i'r cynghorydd cyfreithiol wneud y canlynol:

  • ymddiheuro
  • dychwelyd dogfennau y gallai fod eu hangen arnoch
  • ad-dalu neu leihau eich ffioedd cyfreithiol
  • talu iawndal o hyd at £30,000

Os bydd yr ombwdsmon yn penderfynu nad yw'r cynghorydd wedi darparu gwasanaeth gwael, bydd yn egluro pam.

Os yw'r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad y cynghorydd, gall yr Ombwdsmon Cyfreithiol ei gyfeirio at reoleiddiwr, fel yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Gallwch gysylltu â'r ombwdsmon yn:
Legal Ombudsman
PO Box 6806
Wolverhampton
WV1 9WJ
Ffôn: 0300 555 0333 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.30pm)
E-bost:

enquiries@legalombudsman.org.uk

Sut i gwyno am fusnes rheoli hawliadau

Gelwir busnesau rheoli hawliadau yn drafodwyr hawliadau, rheolwyr hawliadau ac aseswyr hawliadau hefyd. Fe'u defnyddir yn aml i gael iawndal mewn achosion anaf personol.

Os ydych wedi defnyddio busnes rheoli hawliadau ac yn anfodlon ar ei wasanaeth, dylech ddilyn ei weithdrefn gwyno. Dylai fod ar ei wefan, ond gallwch ofyn am gopi.

Os na fyddwch yn clywed gan y cwmni o fewn 8 wythnos o wneud y gŵyn, neu os byddwch yn anfodlon ar yr ymateb, gallwch gysylltu â'r Rheoleiddiwr Rheoli Hawliadau.

Gall y rheoleiddiwr ofyn i'r busnes:

  • ymddiheuro
  • ail-wneud y gwaith heb godi unrhyw dâl
  • ad-dalu ffi

Nid oes ffi am y gwasanaeth, ond ni all y rheoleiddiwr orfodi'r busnes i dalu iawndal.

Gallwch gysylltu â'r rheoleiddiwr yn:

Claims Management Regulator
57-60 High Street
Burton on Trent
Staffordshire
DE14 1JS

E-bost: consumer@claimsregulation.gov.uk

Ffôn: 0845 450 6858

Cwyno am gynghorydd cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os oes gennych gŵyn am gynghorydd cyfreithiol yn yr Alban, dylech gwyno i'r Scottish Legal Complaints Commission.

Os oes gennych gŵyn am gyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Law Society of Northern Ireland.

Help a chyngor yn Gymraeg

Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y dolenni isod.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cael gwybod mwy am gymorth cyfreithiol os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Allweddumynediad llywodraeth y DU