Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, bydd y llys yn rhoi dedfryd i chi. Bydd y llys yn edrych ar lawer o wybodaeth amdanoch chi a'r drosedd cyn iddo benderfynu pa ddedfryd i'w rhoi i chi. Mynnwch wybod sut y caiff y penderfyniad am eich dedfryd ei wneud.
Os ydych wedi cyfaddef neu wedi cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, bydd y llys yn rhoi 'dedfryd' i chi.
Gallai fod yn ddedfryd rydych yn ei bwrw yn y gymuned, yn hytrach na chael eich rhoi dan glo. Neu gallai fod yn ddedfryd lle cewch eich rhoi dan glo - dedfryd 'yn y ddalfa'.
I gael mwy o wybodaeth am y mathau hyn o ddedfrydau, dilynwch y dolenni 'Dedfrydau cymunedol ar gyfer pobl ifanc' a 'Dedfrydau yn y ddalfa ar gyfer pobl ifanc' isod.
Mae'r gyfraith yn nodi'r amser mwyaf y gallwch fwrw dedfryd. Ni all y llys ddyfarnu mwy na'r terfyn hwn.
I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y llys, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc: mynd i'r llys ar ôl cael eich cyhuddo o drosedd.
Cyn penderfynu ar ddedfryd, mae angen i'r llys gael gwybod eich cefndir
Bydd y math o ddedfryd a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
Cyn penderfynu ar ddedfryd, bydd angen i'r llys ddysgu am eich cefndir. Er mwyn gwneud hyn, bydd yn darllen yr Adroddiad Cyn Dedfrydu. Bydd y llys yn defnyddio'r adroddiad hwn wrth benderfynu pa fath o ddedfryd i'w rhoi.
Y tîm troseddau ieuenctid, a fydd wedi bod yn gysylltiedig â'ch achos, fydd yn ysgrifennu'r adroddiad. Efallai y gofynnir cwestiynau i'ch rheini i'w helpu i gwblhau'r adroddiad.
Weithiau bydd yr adroddiad yn barod gan y tîm troseddau ieuenctid, fel y gall y llys wneud ei benderfyniad ar unwaith.
Efallai y bydd angen mwy o amser ar y tîm troseddau ieuenctid i ysgrifennu'r adroddiad, neu efallai y bydd y llys yn gofyn iddo am fwy o wybodaeth. Gall yr adroddiad gymryd ychydig wythnosau i'w ysgrifennu, felly bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i'r llys eto i gael eich dedfryd. Yn y cyfamser cewch eich rhoi ar 'remánd', a byddwch naill ai'n cael mynd adref (ar 'fechnïaeth') neu byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa. I gael gwybod beth mae bod ar remánd yn ei olygu, dilynwch y ddolen 'Mechnïaeth a remánd i bobl ifanc' isod.
Amgylchiadau y bydd y llys yn eu hystyried
Bydd y llys hefyd yn ystyried unrhyw amgylchiadau 'lliniarol'. Mae hyn yn golygu amgylchiadau a allai fod wedi dylanwadu ar eich ymddygiad, neu'ch arwain i gyflawni'r drosedd.
Gallai'r amgylchiadau hyn gynnwys:
Gallai'r llys roi dedfryd i chi sy'n eich helpu gyda'r pethau hyn. Felly efallai y bydd yn rhaid i chi gael cymorth neu driniaeth, er enghraifft, os oes gennych broblem cyffuriau.
Mae 'apelio' yn erbyn rhywbeth yn golygu eich bod yn anghytuno â hynny ac yn ceisio ei newid.
Os ydych am apelio yn erbyn eich dedfryd, siaradwch â'ch cynghorydd cyfreithiol. Gall roi cyngor i chi ar y tebygolrwydd y byddwch yn llwyddo a pha mor hir y gall gymryd.