Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut y gall pobl ifanc gael cyngor a chymorth pan fyddant yn y ddalfa

Os ydych yn y ddalfa, efallai bod gennych bryderon neu broblemau y mae angen i chi eu trafod â rhywun. Yn ogystal â siarad ag aelodau o staff, mae llawer o sefydliadau a all eich helpu. Mynnwch wybod sut y gallwch gael cymorth.

Pobl ifanc a'r ddalfa

Os ydych o dan 18 oed ac yn cael dedfryd o gyfnod yn y ddalfa, cewch eich anfon i un o'r canlynol:

  • cartref plant diogel
  • canolfan hyfforddi ddiogel
  • sefydliad troseddwyr ifanc

Mae'r canolfannau diogel hyn yn wahanol iawn i'r carchardai i oedolion. I ddarllen mwy, dilynwch y ddolen 'Pobl ifanc a'r ddalfa' isod.

Gwasanaethau eiriolaeth

Mae 'eiriolaeth' yn golygu siarad drosoch chi eich hun neu gael rhywun i wneud hyn ar eich rhan. Yn y ddalfa, gallwch ofyn i wasanaeth eiriolaeth am help:

  • os ydych yn teimlo na allwch siarad drosoch chi eich hun
  • os nad ydych yn deall rhywbeth
  • os na allwch gyfleu eich hun yn dda

Caiff gwasanaethau eiriolaeth eu rhedeg gan elusennau plant ac maent yn gyfrinachol. Gallant eich helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi.

Mae eiriolwyr yn ymweld â chanolfannau'n rheolaidd, a gallwch gyfarfod â hwy pan fyddant yn ymweld.

Gallwch eu ffonio hefyd - gweler y tabl isod. Os ydych mewn cartref plant diogel, mae'r rhifau ffôn yn wahanol, felly bydd yn rhaid i chi ofyn i aelod o staff am y rhif.

Gwasanaethau eiriolaeth y gallwch eu ffonio
Ble rydych chi Pwy i'w ffonio

Canolfan Hyfforddi Ddiogel Medway
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Ashfield
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Cookham Wood
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Downview
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Eastwood Park
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Feltham
Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc

Llais - rhadffon 0808 800 5792

Canolfan Hyfforddi Ddiogel Hassockfield
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Hindley
Sefydliad Troseddwyr Ifanc New Hall
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Wetherby

Barnardo's - rhadffon 0808 168 2694

Canolfan Hyfforddi Ddiogel Oakhill
Canolfan Hyfforddi Ddiogel Rainsbrook
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Stoke Heath
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Warren Hill
Sefydliad Troseddwyr Ifanc Werrington

Barnardo's - rhadffon 0808 168 2695

Cymorth sydd ar gael gan staff

Os hoffech, gallwch hefyd siarad ag aelod o staff yn y ganolfan ddiogel. Gallai'r rhain gynnwys:

  • eich swyddog personol
  • caplan
  • gweithiwr cymdeithasol
  • meddyg, nyrs neu weithiwr iechyd arall
  • athro neu gynorthwy-ydd addysgu

Eich swyddog personol yw'r unigolyn sy'n gofalu am eich lles tra byddwch yn y ganolfan ddiogel. Byddwch yn cyfarfod â'r swyddog hwn o fewn eich ychydig ddiwrnodau cyntaf a bydd ar gael am sgwrs pryd bynnag fo'i hangen arnoch.

Mae caplaniaid yn rhoi cymorth moesol ac ysbrydol i bawb yn y ganolfan ddiogel, waeth beth fo'u ffydd. Ond gallwch hefyd ofyn am gael siarad â chaplan eich ffydd eich hun os hoffech wneud hynny.

Mae gan lawer o ganolfannau diogel weithwyr cymdeithasol llawn amser a all helpu gyda phob math o broblemau.

Hefyd, mae nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd eraill ar gael i helpu gydag unrhyw broblemau meddygol sydd gennych. Gall athrawon a chynorthwywyr addysgu'r ganolfan helpu gyda'ch addysg a'ch dysgu.

Cofiwch y dylai fod rhywun ar gael bob amser i siarad â chi. Os nad ydych yn gwybod pwy i ofyn iddo, siaradwch â'r unigolyn rydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus ag ef. Bydd yn gwybod pwy yw'r unigolyn addas a all eich helpu.

Cymorth gan y tîm troseddau ieuenctid

Bydd rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid lleol wedi cysylltu â chi ers i chi fod yn y llys, os nad cyn hynny. Bydd yn parhau i gysylltu â chi pan fyddwch yn y ddalfa, a gallwch gysylltu â'r unigolyn hwn pryd bynnag y byddwch ei angen.

Cymorth gan eich teulu

Gall cadw mewn cysylltiad â'ch teulu fod yn bwysig iawn, a byddwch yn gallu cysylltu â nhw'n rheolaidd. Gallwch hefyd ofyn am i ymweliadau gael eu trefnu iddynt.

Sefydliadau eraill a all helpu

Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai

Rhadffon 0808 802 0060

Gallwch gael help a chyngor ar fod yn y ddalfa gan y sefydliadau isod.

Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai

Mae'n rhoi cyngor i bawb sydd yn y ddalfa, ond ni all roi cyngor cyfreithiol.

Rhadffon 0808 802 0060 (dydd Llun rhwng 3.30 pm a 7.30 pm, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 3.30 pm a 5.30 pm).

The Howard League
Rhadffon 0808 801 0308

The Howard League

Os ydych o dan 18 oed ac yn y ddalfa, efallai y gall yr Howard League gynnig cyngor a help cyfreithiol i chi gyda'ch achos.

Rhadffon 0808 801 0308 (dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 11.00 am a 5.00 pm, dydd Iau rhwng 11.00 am a 7.00 pm).

Nacro
Rhadffon 0800 0181 259

Nacro

Mae'n rhoi gwybodaeth a chyngor ar adsefydlu ar gyfer troseddwyr ifanc a'u teuluoedd.

Rhadffon 0800 0181 259 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm). Gall ffrindiau a theulu ffonio 020 7840 6464 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU