Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymweld â phobl ifanc yn y ddalfa

Gall ymweld â pherson ifanc yn y ddalfa helpu'r unigolyn a'i deulu i gadw mewn cysylltiad. Mynnwch wybod sut i ymweld â pherson ifanc yn y ddalfa, a sut y gall teuluoedd gael cymorth ariannol gyda chostau teithio.

Cynllunio ymweliad

Os byddwch yn ymweld â pherson ifanc mewn cartref plant diogel, canolfan hyfforddi ddiogel neu sefydliad troseddwyr ifanc, mae'n rhaid i chi drefnu eich ymweliad gyntaf.

Mae gan bob canolfan ei rheolau ei hun ynghylch ymweliadau felly holwch:

  • pa amseroedd y gallwch ymweld
  • faint o bobl all ymweld
  • pa mor aml y gallwch ymweld
  • pa brawf adnabod sydd ei angen arnoch
  • a oes unrhyw ffurflenni y mae angen i chi eu cwblhau cyn i chi ymweld

Mynnwch wybod mwy am ymweld â rhywun sydd dan glo drwy ddilyn y ddolen 'Ymweld â rhywun yn y carchar' isod.

Pobl eraill a all ymweld

Gall pobl sy'n cefnogi'r person ifanc fel rhan o'u swydd ymweld ar unrhyw adeg. Gallai'r bobl hyn gynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • pobl o'r tîm troseddau ieuenctid
  • swyddogion prawf
  • cynghorwyr cyfreithiol (fel bargyfreithwyr a chyfreithwyr)
  • 'ymwelwyr annibynnol' o'r cyngor lleol

Bydd 'ymwelydd annibynnol' yn ymweld â phobl ifanc sydd mewn gofal, neu sydd ag ychydig iawn o gyswllt â'u teuluoedd, pan fyddant yn y ddalfa. Mae'n rhaid i'r cyngor lleol drefnu'r ymweliad hwn yn fuan ar ôl i'r person ifanc gyrraedd yn y ganolfan ddiogel.

Pwy all ymweld â pherson ifanc a pha mor aml

Os ydych yn aelod o deulu'r person ifanc neu'n ffrind, rydych yn cael gofyn am gael ymweld. Os ydych o dan 18 oed mae'n rhaid i oedolyn ddod gyda chi.

Yn gyffredinol, gallwch ymweld â pherson ifanc unwaith yr wythnos os ydych yn aelod o'r teulu neu'n ffrind. Fodd bynnag, gall hyn amrywio - dylech holi'r ganolfan ddiogel i weld a allwch ymweld yn amlach.

Gall nifer y bobl a all ymweld amrywio, ond yn gyffredinol dim ond tri unigolyn ar y tro a ganiateir. Os ydych am ddod â mwy o bobl, bydd angen i chi gael caniatâd gan y ganolfan ddiogel yn gyntaf.

Cael help gyda chostau teithio

Cofiwch fod yn rhaid i chi drefnu eich ymweliad gydag unrhyw fath o ganolfan ddiogel cyn teithio

Os ydych yn aelod o deulu'r person ifanc gallwch gael help gyda'r costau'r ymweliad. Byddwch yn gwneud hyn drwy hawlio rhywfaint o'r arian yn ôl am bethau fel tocynnau trên neu betrol.

Dim ond ar ôl yr ymweliad y gallwch wneud hawliad, oherwydd bydd yn rhaid i chi brofi i'r tocyn trên neu'r petrol gael ei ddefnyddio i ymweld â pherson ifanc.

Hawliadau teithio ar gyfer ymweld â sefydliad troseddwyr ifanc

Mae'r Gwasanaeth Carchardai yn rhedeg cynllun ar gyfer teuluoedd pobl ifanc sydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc.

Er mwyn hawlio am ymweliad â sefydliad troseddwyr ifanc dylech ffonio'r Gwasanaeth Carchardai ar:

0845 300 1423 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10.15 am a 11.45 am a rhwng 2.15 pm a 3.45 pm).

Hawliadau teithio ar gyfer ymweld â chartrefi plant diogel

Dylech gysylltu â thîm troseddau ieuenctid y person ifanc i hawlio am ymweliad â chartref plant diogel.

Bydd dogfen AVS1 (isod) yn rhoi gwybodaeth i chi am hyn, ac mae angen i chi gwblhau ffurflen AVS2.

Hawliadau teithio ar gyfer ymweld â chanolfan hyfforddi ddiogel

Os byddwch yn ymweld â pherson ifanc mewn canolfan hyfforddi ddiogel, gallwch hawlio am gost:

  • un ymweliad yr wythnos ar gyfer hyd at ddau oedolyn sy'n ymweld (16 oed neu'n hŷn)
  • hyd at dri o blant (15 oed neu'n iau)

Bydd yn talu am:

  • gost tocyn deuffordd ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu danwydd os byddwch yn teithio yn eich cerbyd eich hun
  • costau unrhyw arhosiad dros nos os bydd eich taith yn cymryd amser hir a hynny'n annisgwyl
  • cyfraniad tuag at unrhyw brydau bwyd os ydych oddi cartref am fwy na phum awr

Gall y cynllun helpu gyda chostau gwarchodwr plant cofrestredig os oes gennych blant ifanc na allwch ddod â nhw gyda chi.

Ffoniwch y ganolfan hyfforddi ddiogel rydych yn ymweld â hi ar y rhifau isod. Dylech ofyn am fonitor y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a all ddweud wrthych sut i wneud hawliad.

  • Oakhill: 01908 866 021
  • Hassockfield: 01207 565 619
  • Rainsbrook: 01788 528 806
  • Medway: 01634 823 305

Os na allwch fforddio tocyn trên neu os oes angen help arnoch i archebu tocyn

Os oes angen tocyn trên arnoch cyn i chi fynd, cysylltwch â’r ganolfan hyfforddi ddiogel - - efallai y byddant yn gallu darparu un i chi.

Am gymorth i ymweld â pherson ifanc ar remand, cysylltwch â thîm troseddau ieuenctid y person ifanc.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU