Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhaglenni i atal pobl ifanc rhag troseddu

Weithiau mae ffyrdd gwell o atal pobl ifanc rhag ymddwyn yn wael a chyflawni troseddau na'u hanfon i'r llys. Cynhelir rhaglenni atal troseddau o fewn cymunedau lleol, a gallant gynnwys rhieni a theuluoedd. Mynnwch wybod beth yw'r rhaglenni hyn a sut maent yn gweithio.

Rhaglenni atal troseddau ieuenctid - eu diben

Y nod yw eich helpu cymaint â phosibl i gadw allan o drafferth

Mae llawer o raglenni atal troseddau ieuenctid sy'n delio â phobl ifanc sydd naill ai wedi bod mewn trafferth, neu sydd 'mewn perygl o droseddu'.

Mae bod 'mewn perygl o droseddu' yn golygu ei bod yn edrych fel y gallech gyflawni trosedd. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw'r heddlu wedi dweud y drefn wrthych yn swyddogol neu os nad ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd cyn hyn.

Ymhlith y problemau a allai eich rhoi mewn perygl o droseddu mae:

  • problemau yn yr ysgol
  • problemau gartref
  • aelodau o'r teulu neu bobl o'ch cwmpas sydd wedi troseddu
  • problemau gydag alcohol neu gyffuriau

Os cewch eich anfon ar raglen atal troseddau ieuenctid, bydd fel arfer yn delio â rhai o'r problemau hyn, neu bob un ohonynt. Mae'r cyfan yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi'i wneud, a beth yw eich cefndir.

Y nod yw eich helpu cymaint â phosibl i gadw allan o drafferth.

Sut y cewch eich rhoi ar raglen atal troseddau ieuenctid

Gallwch gael eich anfon i un o'r rhaglenni hyn - neu eich 'cyfeirio' ati - mewn sawl ffordd. Gallai eich ysgol, gweithiwr cymdeithasol neu hyd yn oed eich rhieni eich cyfeirio. Fel arfer cewch eich cyfeirio gan yr heddlu neu'r tîm troseddau ieuenctid.

Cynhelir y rhan fwyaf o'r rhaglenni atal troseddau ieuenctid gan dîm troseddau ieuenctid lleol y cyngor. Gallant hefyd gael eu cynnal gan sefydliadau lleol eraill fel elusennau ieuenctid.

Asesiadau gan y tîm troseddau ieuenctid

Cyn i unrhyw beth ddigwydd, bydd y tîm troseddau ieuenctid yn cynnal asesiad. Bydd yn sicrhau mai eich anfon ar un o'r rhaglenni hyn yw'r peth gorau i'w wneud. Cewch eich cynnwys yn yr asesiad a gofynnir cryn dipyn o gwestiynau i chi am eich bywyd a'ch cefndir.

Bydd y wybodaeth hon yn helpu i benderfynu pa fath o raglen fyddai o'r budd mwyaf i chi. Mae mynd ar un o'r rhaglenni hyn yn wirfoddol. Mae'n rhaid i chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr fod yn fodlon ar bopeth wrth i chi fynd ymlaen.

Sut bethau yw rhaglenni atal troseddau

Mae gan bob rhaglen atal troseddau enwau gwahanol, ac maent yn gwneud pethau gwahanol. Bydd rhai yn golygu y byddwch mewn grwpiau gyda phobl ifanc eraill, ac weithiau dim ond chi ac oedolyn arall fydd yno.

Rhaglenni cynhwysiant ieuenctid

Mae rhaglenni cynhwysiant ieuenctid wedi'u hanelu at blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed. Maent yn rhoi rhywle diogel i chi lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill a chael cyngor ar yr ysgol neu swyddi.

Gallant bara am gyfnodau penodol, neu gallwch barhau i fynd iddynt am gyhyd ag y bydd eu hangen arnoch.

Paneli cynhwysiant a chymorth ieuenctid

Mae paneli cynhwysiant a chymorth ieuenctid wedi'u hanelu at blant rhwng 8 a 13 oed. Mae'r paneli yn cynnwys pobl o'ch cymuned leol - er enghraifft, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Byddant yn gweithio gyda chi a'ch teulu i feddwl am ffyrdd o'ch helpu i gadw allan o drafferth. Gelwir hwn yn 'gynllun ymyrraeth', ac mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb gytuno arno, gan gynnwys chi.

SPLASH Cymru

Yng Nghymru, cynhelir y rhaglenni hyn yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u hanelu at blant a phobl ifanc rhwng 13 a 17 oed ac maent yn cynnwys gweithgareddau amrywiol i helpu pobl ifanc i osgoi trosedd ac ymddygiad gwael.

Mentora

Unigolyn sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yw mentor, sy'n gwirfoddoli i dreulio amser yn eich helpu. Bydd yno i'ch annog a'ch cefnogi, a'ch helpu i ddelio ag unrhyw broblemau a allai fod gennych. Bydd yn rhywun y gallwch ddibynnu arno a siarad ag ef yn breifat, ac ni fydd yn gysylltiedig â'r heddlu na'ch ysgol.

Byddwch yn gweithio allan rhai pethau yr hoffech eu cyflawni, fel gwneud yn well yn yr ysgol, a bydd y mentor yn eich helpu i wneud hynny. Ni fydd hyn yn digwydd yn gyflym - bydd yn rhaid i chi ddod i adnabod eich gilydd, felly gallech fod gyda'ch mentor am gyfnod hir.

Weithiau mae hon yn ffordd well o lawer o helpu pobl ifanc sydd mewn trafferth na'u hanfon ar raglen gweithgarwch. Byddwch yn cael mentor os yw'n addas i chi.

Cynnwys rhieni a theuluoedd

Os byddwch yn mynd i drafferth, efallai y gofynnir i'ch rhieni neu'ch gofalwyr fynd ar raglen rhianta. Fel arfer, gofynnir iddynt fynd iddynt yn wirfoddol, ond weithiau bydd yn rhaid iddynt fynd. Nod y cyrsiau hyn yw magu eu hyder fel rhiant, a sicrhau nad oes unrhyw beth maent yn ei wneud yn gwneud i chi fynd i drafferth.

Sut mae gwaith y rhaglenni hyn yn newid o un unigolyn i'r llall. Caiff unrhyw raglen ei gwneud mewn ffordd sy'n addas i chi a'ch rhieni.

Additional links

Cyngor cyfreithiol ar hawliau plant

Cyngor cyfreithiol am ddim ynghylch plant a’r gyfraith gan y Ganolfan Gyfreithiol Plant (cyngor rhadffôn)

Allweddumynediad llywodraeth y DU