Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth all ddigwydd hyd yn oed os na chaiff person ifanc ei gyhuddo o drosedd

Hyd yn oed os na chewch eich cyhuddo o drosedd, gall yr heddlu gymryd camau yn eich erbyn. Gallant ddweud y drefn wrthych neu roi rybudd i chi, neu gallech gael gorchymyn ymddygiad. Mynnwch wybod beth yw'r rhain a sut y gallant effeithio arnoch.

Pan fyddwch yn mynd i drafferth gyda'r heddlu

Bydd yr heddlu yn ceisio rhoi ail gyfle i chi

Fel arfer bydd yr heddlu yn dweud y drefn wrthych neu'n rhoi rhybudd i chi y tro cyntaf y byddwch yn mynd i drafferth. Byddant yn ceisio rhoi ail gyfle i chi, oni bai ei bod yn drosedd ddifrifol iawn.

Gallai'r heddlu hefyd roi gorchymyn ymddygiad i chi, fel Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO), os cewch eich cyhuddo o fod yn niwsans yn eich cymuned.

Hefyd, gellid gofyn i chi gymryd rhan mewn rhywbeth o'r enw 'cyfiawnder adferol'. Dyma lle mae'n rhaid i chi siarad am yr hyn rydych wedi'i wneud - weithiau gyda'r dioddefwr - a gwneud iawn am y niwed a achoswyd gan y drosedd.

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.

Os cewch gerydd

Os mai dyma'r tro cyntaf i chi fod mewn trafferth, gallai'r heddlu ddweud y drefn wrthych. Gelwir hyn yn 'gerydd'. Mae'n rhaid iddynt roi'r cerydd i chi o flaen eich rhieni neu oedolyn arall, ac mae hyn yn aml yn digwydd mewn gorsaf heddlu.

Bydd yr heddlu yn cadw cofnod o'r cerydd, a dim ond unwaith y dywedir y drefn wrthych. Os byddwch yn mynd i drafferth gyda'r heddlu eto, gallech gael rhybudd terfynol neu gael eich cyhuddo o drosedd.

Efallai y cewch eich cyfeirio at y tîm troseddau ieuenctid lleol, a all eich helpu gyda phroblemau sy'n ymwneud â'r ysgol, iechyd neu dai. Mae hyn er mwyn eich cadw allan o drafferth, a delio â phroblemau a wnaeth i chi fynd i drafferth yn y lle cyntaf.

Os rhoddir rhybudd terfynol i chi

Os byddwch yn mynd i drafferth am drosedd fwy difrifol, neu os ydych eisoes wedi cael cerydd, efallai y bydd yr heddlu yn rhoi rhybudd terfynol i chi. Fel arfer rhoddir hyn i chi yng ngorsaf yr heddlu.

Os cewch eich dal yn gwneud unrhyw beth o'i le eto, gallech gael eich cyhuddo o drosedd a bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.

Pan fyddwch yn cael y rhybudd, bydd rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid lleol yn cysylltu â chi a'ch teulu.

Bydd y tîm yn ceisio eich helpu i gadw allan o drafferth. Os byddwch yn gwrthod gweithio gyda'r tîm, gall gyfrif yn eich erbyn os byddwch yn mynd i'r llys yn ddiweddarach.

Os bydd pobl yn cwyno am eich ymddygiad

Gallwch hefyd fynd i drafferth os cewch eich cyhuddo o ymddygiad gwael yn eich cymdogaeth neu'n gyhoeddus.

Contract ymddygiad derbyniol

Mae hwn yn gytundeb i beidio â chamymddwyn os cewch eich cyhuddo o fod yn niwsans yn eich cymuned. Bydd yn rhaid i chi lofnodi hwn gyda'ch rhieni neu'ch gofalwyr.

Gallech gael ASBO os na fyddwch yn cydymffurfio â'ch cytundeb yn y contract. Os ydych yn byw mewn tŷ wedi'i rentu, gallech hefyd gael eich troi allan.

Gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO)

Gallwch gael ASBO os ydych yn ddeg oed neu'n hŷn.

Gall yr ASBO eich gorchymyn i roi'r gorau i:

  • ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol
  • mynd i leoedd penodol, fel canol y dref neu ardaloedd cyhoeddus eraill
  • treulio amser gyda phobl sy'n adnabyddus fel rhai sy'n creu trafferth

Os byddwch yn cael ASBO, bydd yn para am o leiaf ddwy flynedd. Gallai gael ei adolygu os bydd eich ymddygiad yn gwella. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r ASBO, gellid mynd â chi i'r llys.

Gorchymyn cymorth unigol

Os ydych rhwng deg a dwy ar bymtheg oed a bod gennych ASBO eisoes, gellid gorchymyn i chi gael cyngor gan gwnsler neu fathau eraill o gymorth.

Gelwir hyn yn 'orchymyn cymorth unigol’. Bwriad y gorchmynion yw eich helpu os oes gennych broblemau, fel cymryd cyffuriau neu broblemau'n ymwneud â rheoli dicter.

Os byddwch yn mynd yn groes i'r gorchymyn, gallai dirwy gael ei chodi ar eich rhieni.

Cyrffyw plant lleol

Gallwch hefyd gael eich gwahardd o ardaloedd penodol oni fyddwch gydag oedolyn cyfrifol rhwng 9.00 pm a 6.00 am. Gelwir hyn yn gyrffyw plant lleol.

Additional links

Cyngor cyfreithiol ar hawliau plant

Cyngor cyfreithiol am ddim ynghylch plant a’r gyfraith gan y Ganolfan Gyfreithiol Plant (cyngor rhadffôn)

Allweddumynediad llywodraeth y DU