Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os caiff person ifanc ei anfon i orsaf heddlu

Os cewch eich stopio neu'ch arestio gan yr heddlu, mae'n rhaid iddynt roi gwybod i'ch rhieni neu'ch gofalwyr. Ni all yr heddlu eich holi oni bai bod oedolyn arall yn bresennol. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd os cewch eich stopio, eich arestio neu'ch holi gan yr heddlu.

Cael eich stopio neu'ch arestio gan yr heddlu

Os bydd yr heddlu yn galw yn eich cartref, dylent siarad â'ch rhieni yn gyntaf

Gall yr heddlu eich stopio mewn unrhyw le cyhoeddus,

fel ar y stryd neu mewn canolfan siopa, os ydynt o'r farn eich bod wedi bod yn gysylltiedig â throsedd.

Mae'n rhaid iddynt roi'r wybodaeth ganlynol i chi:

  • enw
  • gorsaf heddlu
  • rheswm dros eich stopio

Mae'n rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad i'r heddlu, ond nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau eraill hyd nes eich bod wedi cael cyngor cyfreithiol. Gall yr heddlu eich chwilio os ydynt o'r farn bod gennych gyffuriau neu arf yn eich meddiant.

Os daw'r heddlu i'ch cartref

Os bydd yr heddlu yn galw yn eich cartref, dylent siarad â'ch rhieni neu'ch gofalwyr yn gyntaf. Dylai eich rhieni neu'ch gofalwyr fod gyda chi pan fydd yr heddlu yn siarad â chi.

Efallai y byddwch chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr am gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr cyn ateb unrhyw gwestiynau.

Os daw'r heddlu i'ch ysgol

Ni fydd yr heddlu fel arfer yn eich arestio yn eich ysgol. Os byddant yn gwneud hynny, mae'n rhaid iddynt gael caniatâd y pennaeth, a ddylai fod gyda chi pan fyddwch yn cael eich arestio.

Beth fydd yn digwydd os cewch eich arestio

Os bydd swyddog yr heddlu o'r farn eich bod wedi bod yn gysylltiedig â throsedd, gall eich arestio a mynd â chi i orsaf heddlu. Os ydych o dan 18 oed, mae'n rhaid i'r heddlu ddweud wrth eich rhiant neu'ch gofalwr cyn gynted â phosibl.

Dylai swyddog yr heddlu ddweud wrthych:

  • pam eich bod yn cael eich arestio
  • pa drosedd rydych wedi'i chyflawni, yn ei farn ef
  • nad ydych yn cael gadael

Gall y swyddog ddefnyddio grym rhesymol fel dewis olaf i'ch atal rhag ceisio rhedeg i ffwrdd.

Cyrraedd gorsaf yr heddlu

Os ydych wedi cael eich arestio, eir â chi i'r ddesg gadwraeth yng ngorsaf yr heddlu.

Bydd y swyddog wrth y ddesg, y swyddog cadwraeth, yn dweud wrthych pam eich bod yn cael eich dal.

Dylech ddweud wrth y swyddog cadwraeth beth yw eich:

  • enw
  • oedran
  • cyfeiriad
  • rhif ffôn cartref
  • ysgol

Cewch eich chwilio i sicrhau nad oes gennych unrhyw beth yn eich meddiant na ddylech ei gael, fel arf. Bydd yr heddlu yn cymryd eich eiddo, fel ffonau ac arian, tra byddwch yn yr orsaf. Byddwch yn cael y rhain yn ôl pan gewch eich rhyddhau.

Bydd y swyddog cadwraeth yn cysylltu â'ch rhieni neu'ch gofalwyr. Cynigir help am ddim gan gyfreithiwr i chi. Gallwch ofyn am gael darllen llyfr rheolau'r heddlu, sef y Codau Ymarfer. Mae'n dweud wrthych sut y dylai'r heddlu eich trin.

Cewch eich rhoi mewn ystafell gadw, a fydd fel cell carchar, hyd nes y bydd eich rhieni neu'ch gofalwyr yn cyrraedd. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau gan yr heddlu hyd nes y bydd eich rhieni neu'ch gofalwyr yn cyrraedd. Mae'n debyg y bydd camerâu yn y celloedd a fydd yn recordio sain o bosibl hefyd.

Cael help gan oedolyn priodol

Os na all eich rhiant neu'ch gofalwr ddod i orsaf yr heddlu, bydd rhaid i'r heddlu ofyn i 'oedolyn priodol' fod yno.

Gall fod yn:

  • aelod o'r teulu
  • ffrind dros 18 oed
  • gwirfoddolwr
  • gweithiwr cymdeithasol

Cael eich holi mewn cyfweliad gyda'r heddlu

Os bydd yr heddlu yn eich holi, bydd mewn ystafell gyfweld. Caiff y cyfweliad ei recordio.

Bydd rhiant, gofalwr neu oedolyn priodol arall yno i'ch helpu i ateb y cwestiynau. Gallwch hefyd ofyn am gyfreithiwr. Gallwch siarad â nhw yn breifat ar unrhyw adeg.

Ni allwch gael eich cadw mewn gorsaf heddlu am fwy na 24 awr heb gael eich cyhuddo o drosedd. Gellir ymestyn hyn i 36 awr os bydd un o uwcharolygwyr yr heddlu yn cytuno ar hynny, ac am gyfnod hwy os bydd ynad yn cytuno ar hynny.

Cael eich cyhuddo o drosedd

Bydd yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn penderfynu a ddylech gael eich cyhuddo, yn dibynnu ar b'un a oes digon o dystiolaeth ai peidio.

Os bydd y drosedd y cewch eich arestio amdani yn ddifrifol, fel lladrad neu fwrgleriaeth, neu os ydych eisoes wedi cael eich rhybuddio gan yr heddlu, gallech gael eich cyhuddo.

Os nad oes digon o dystiolaeth, gallai'r heddlu eich rhyddhau a:

  • cheisio casglu mwy o dystiolaeth
  • peidio â chymryd camau pellach

Cyhuddo yw pan fyddwch yn cael eich cyhuddo'n swyddogol o'r drosedd, a bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.

Os nad ydych wedi bod mewn trafferth o'r blaen

Os mai dyma'r tro cyntaf rydych wedi bod mewn trafferth, ac nad yw'r drosedd yn rhy ddifrifol, gallai'r heddlu:

  • dweud y drefn wrthych yn swyddogol - rhoi 'cerydd' i chi
  • rhoi rhybudd i chi
  • gwneud i chi gytuno i ymddwyn yn dda - eich gorfodi i lofnodi contract
  • gofyn i chi gymryd rhan mewn cynhadledd 'cyfiawnder adferol'

Os byddwch mewn trafferth eto, gallech gael eich cyhuddo o drosedd a'ch gorfodi i fynd i'r llys.

Additional links

Cyngor cyfreithiol ar hawliau plant

Cyngor cyfreithiol am ddim ynghylch plant a’r gyfraith gan y Ganolfan Gyfreithiol Plant (cyngor rhadffôn)

Allweddumynediad llywodraeth y DU