Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cewch eich holi gan yr heddlu neu os bydd yn eich cyhuddo o drosedd, mae gennych hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim. Gallwch gael cyngor ar unrhyw adeg, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu nad ydych am ei gael i ddechrau. Mynnwch wybod sut i gael help cyfreithiol os cewch eich holi neu eich cyhuddo a ble i'w gael.
Gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich arestio
Mae gennych hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim (cymorth cyfreithiol) os bydd yr heddlu yn eich holi am drosedd:
Os gwnaethoch ddweud nad oeddech am gael cyngor cyfreithiol, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.
Ar gyfer troseddau llai difrifol (fel bod yn afreolus) efallai y cynigir cyngor cyfreithiol i chi dros y ffôn gan y Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol Uniongyrchol. Mae'r sefydliad hwn yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim ac mae'n annibynnol ar yr heddlu.
Ymhlith y ffyrdd eraill o gael cyngor cyfreithiol mae:
Dim ond cyfreithwyr sydd â 'chontract troseddol' gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol all eich helpu am ddim. Dylech chi neu'r heddlu gadarnhau hyn gyda'r cyfreithiwr pan gaiff ei ffonio.
Aros am gyngor cyfreithiol
Dim ond mewn achosion difrifol y gall yr heddlu wneud i chi aros am gyngor cyfreithiol, ac yna dim ond os bydd uwch swyddog yn cytuno.
Y cyfnod hiraf y gellir gwneud i chi aros cyn cael cyngor cyfreithiol yw 36 awr ar ôl cyrraedd yn yr orsaf heddlu. Mae hyn yn cynyddu i 48 awr yn achos terfysgaeth a amheuir.
Ar ôl i chi ofyn am gyngor cyfreithiol, fel arfer ni ddylai'r heddlu eich holi nes eich bod wedi cael y cyngor.
Mae gennych hawl i gael treial teg a dylech bob amser gael cyngor cyfreithiol os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd.
Mae pob achos yn mynd i'r llys ynadon yn gyntaf.
Caiff achosion difrifol, fel lladrad neu losgi bwriadol, eu trosglwyddo i Lys y Goron ar ôl gwrandawiad mewn llys ynadon.
Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn i chi fynd i'r gwrandawiad yn y llys ynadon os yw'n bosibl.
Gallwch barhau i ddefnyddio'r un cynghorydd cyfreithiol a roddodd gyngor i chi yn yr orsaf heddlu os hoffech wneud hynny.
Gallwch gael help i dalu am gyfreithiwr i baratoi eich amddiffyniad a'ch cynrychioli yn y llys
Help gyda chostau eich amddiffyniad - 'Cynrychiolaeth'
Efallai y byddwch yn gymwys i gael 'Cynrychiolaeth'. Mae hwn yn fath o gymorth cyfreithiol sy'n talu am gyfreithiwr i baratoi eich amddiffyniad a'ch cynrychioli yn y llys. Bydd hefyd yn eich helpu gyda materion fel mechnïaeth (lle gallwch gael eich rhyddhau cyn eich treial).
I fod yn gymwys i gael Cynrychiolaeth, bydd angen i'ch achos fodloni'r prawf 'Budd Cyfiawnder' a bydd angen i chi fodloni amodau ariannol penodol.
Dod o hyd i gyfreithiwr neu fargyfreithiwr
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio adnodd 'Dod o hyd i gyfreithiwr' Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Os yw eich achos yn fwy cymhleth neu ddifrifol, efallai y bydd angen bargyfreithiwr arnoch a all eich cynrychioli yn y llys. Os oes gennych gyfreithiwr, bydd fel arfer yn awgrymu bargyfreithwyr addas i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i fargyfreithiwr gan ddefnyddio Cyfeiriadur Mynediad Cyhoeddus Cyngor y Bar.
Dod o hyd i gyfreithiwr sy'n gwneud gwaith 'pro bono'
Mae rhai bargyfreithwyr a chyfreithwyr yn gwirfoddoli i ddelio ag achosion am ddim. Gelwir hyn yn waith 'pro bono', sy'n golygu 'er lles y cyhoedd'. Fel arfer dim ond os na allwch fforddio i dalu am gynrychiolaeth ac na allwch gael cymorth cyfreithiol y byddant yn gwneud hyn.
Er mwyn dod o hyd i gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sy'n gwneud gwaith pro bono, rhaid i chi fynd drwy asiantaeth gynghori, fel Cyngor ar Bopeth neu Ganolfan y Gyfraith.
Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y ddolen isod.