Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am apelio yn erbyn collfarn neu ddedfryd am drosedd, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'r costau. Bydd angen i chi holi a oes gennych siawns resymol o ennill apêl yn gyntaf. Mynnwch wybod pryd y gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'ch apêl.
Bydd eich cyfreithiwr yn dweud wrthych os oes rheswm da dros apelio
Os ydych am i gymorth cyfreithiol dalu am gostau apêl yn erbyn collfarn neu ddedfryd, dylech siarad â'ch cynghorydd cyfreithiol yn gyntaf.
Os oedd gennych gyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn eich cynrychioli yn y llys, bydd yn dweud wrthych os yw o'r farn bod rheswm dros apelio. Dylai hefyd ddweud wrthych os yw o'r farn bod siawns dda y byddai apêl yn llwyddo.
Mae'r broses o wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer apêl yn debyg i'r broses ar gyfer y gwrandawiad gwreiddiol yn y llys ynadon.
Bydd angen i'ch cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer cynrychiolaeth mewn apêl.
I gael cymorth cyfreithiol ar gyfer apêl, bydd angen i'ch achos basio'r prawf Budd Cyfiawnder. Cewch ragor o wybodaeth am y prawf Budd Cyfiawnder gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Caiff eich sefyllfa ariannol ei hystyried hefyd - gelwir hyn y 'prawf modd'.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr os yw eich amgylchiadau ariannol wedi newid ers i chi wneud eich cais gwreiddiol ar gyfer eich treial.
Bydd eich cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr yn delio â'ch cais am gymorth cyfreithiol ar eich rhan. Bydd y llys yn dweud wrth eich bargyfreithiwr neu'ch cyfreithiwr os yw eich achos yn pasio'r prawf Budd Cyfiawnder a'r prawf modd.
Yn dibynnu ar ganlyniadau'r prawf modd, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu at gostau eich apêl. Bydd eich cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr yn rhoi gwybod i chi faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu o bosibl.
Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ychwanegol. Mae hyn yn dibynnu ar beth sy'n digwydd yn eich apêl a gallai gynnwys:
Mae rhai cyfreithwyr yn gweithio am ddim - gelwir hyn yn 'pro bono'
Os na fyddwch yn pasio'r prawf Budd Cyfiawnder a'r prawf modd
Os na fyddwch yn pasio naill ai'r prawf Budd Cyfiawnder neu'r prawf modd, bydd yn rhaid i chi dalu eich biliau cyfreithiol eich hun. Neu gallwch weld a fydd cynghorydd cyfreithiol yn fodlon gwneud y gwaith am ddim. Gelwir hyn yn 'pro bono', sy'n golygu 'er lles y cyhoedd'.
Os ydych am ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol sy'n gwneud gwaith pro bono, bydd angen i chi siarad ag asiantaeth fel Cyngor ar Bopeth neu LawWorks.
Mae'r ffordd rydych yn gwneud cais am gymorth cyfreithiol i apelio yn erbyn penderfyniad Llys y Goron yn dibynnu ar y canlynol:
I gael rhagor o gyngor ar b'un a ddylech apelio a sut mae cymorth cyfreithiol yn gweithio, siaradwch â'ch cyfreithiwr.
Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y ddolen isod.