Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd, gall cymorth cyfreithiol dalu am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr i'ch cynrychioli yn y llys. Mae amodau penodol y mae angen i chi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Mynnwch wybod a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cynrychiolaeth mewn achos troseddol.
Gall cyfreithiwr neu fargyfreithiwr helpu i baratoi eich achos a siarad ar eich rhan
Efallai y bydd angen cyfreithiwr neu fargyfreithiwr arnoch i'ch cynrychioli yn y llys ynadon neu yn Llys y Goron pan gewch eich cyhuddo o drosedd. Gallant helpu i baratoi eich amddiffyniad cyn i chi fynd i'r llys a siarad ar eich rhan yn ystod treial.
Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu costau'r cyfreithiwr neu'r bargyfreithiwr:
I gael gwybod a allwch gael cymorth cyfreithiol i dalu am hyn, bydd angen i chi roi'r canlynol i'ch cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr:
Pan fyddwch yn ymweld â'ch cyfreithiwr neu'ch bargyfreithiwr am y tro cyntaf, dylech fynd â'ch dalen gyhuddo, eich gwŷs neu unrhyw bapurau eraill y mae'r heddlu neu'r llys wedi'u rhoi i chi, gyda chi.
Dylech hefyd fynd â phrawf o unrhyw fudd-daliadau neu incwm rydych yn ei gael, fel llythyrau hysbysiad o ddyfarniad budd-dal neu slip cyflog diweddar.
Os ydych yn hunangyflogedig, dylech fynd â'ch cyfrifon diweddaraf (y mae'n rhaid iddynt fod o'r 18 mis diwethaf) neu ffurflen dreth lawn.
Os yw eich achos yn Llys y Goron, bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth i'ch cynghorydd cyfreithiol o'ch asedau 'cyfalaf', fel eiddo rydych yn berchen arno.
Mae'r prawf Budd Cyfiawnder yn cadarnhau a ddylech gael eich cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim
Bydd eich cyfreithiwr yn cadarnhau p'un a yw eich math o achos yn golygu y dylech gael eich cynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys am ddim. Rydych yn debygol o basio'r prawf hwn os gallai un o'r canlynol ddigwydd i chi:
Bydd eich cyfreithiwr yn cadarnhau eich sefyllfa ariannol (er enghraifft, eich incwm a'ch cynilion) i weld a allwch fforddio eich cynrychiolaeth gyfreithiol eich hun.
Byddwch yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth cyfreithiol os yw un o'r canlynol yn wir:
Os yw gwrandawiad eich achos yn llys yr ynadon
Os nad ydych yn pasio'r prawf modd yn awtomatig, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn y llys ynadon o hyd:
Incwm dros ben yw'r swm sydd gennych yn weddill ar ôl i chi dalu eich biliau hanfodol.
Os yw eich incwm dros ben yn fwy na £283 y mis, bydd yn rhaid i chi dalu eich biliau cyfreithiol eich hun.
Os yw gwrandawiad eich achos yn Llys y Goron
Os nad ydych yn pasio'r prawf modd yn awtomatig, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn Llys y Goron o hyd:
Os yw eich incwm misol dros ben yn £283 neu fwy bydd yn rhaid i chi dalu 90 y cant ohono tuag at ffioedd cyfreithiol am hyd at bum mis. Neu gallwch dalu'r swm cyfan ymlaen llaw.
Mae pryd mae angen i chi ad-dalu cymorth cyfreithiol, os o gwbl, yn dibynnu ar y math o lys sydd wedi delio â'ch achos a'ch amgylchiadau ariannol.
Os byddwch yn eich cael yn euog yn y llys ynadon, nid oes angen i chi ad-dalu'r cymorth cyfreithiol.
Os byddwch yn eich cael yn euog yn Llys y Goron, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r cymorth cyfreithiol i gyd, neu ran ohono, os oes gennych fwy na £30,000 mewn 'cyfalaf'. Mae 'cyfalaf' yn golygu, er enghraifft, eich incwm, eich cynilion, eich eiddo a'ch buddsoddiadau. Siaradwch â'ch cyfreithiwr i gael rhagor o gyngor.
Gallwch gael gwybodaeth am ddelio â'ch problemau cyfreithiol yn Gymraeg drwy ddilyn y ddolen isod.