Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich dedfrydu gan y llys - trosolwg

Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd, byddwch yn cael dedfryd gan y llys. Gallech gael eich rhyddhau neu gael dirwy, dedfryd gymunedol neu gyfnod yn y carchar. Mynnwch wybod am y mathau gwahanol o ddedfrydau, pam nad yw rhai troseddau'n arwain at achos llys a sut i apelio yn erbyn dedfryd.

Beth yw dedfryd

Dedfryd yw'r gosb sydd ei hangen ym marn y llys yn seiliedig ar y drosedd rydych wedi'ch dyfarnu'n euog ohoni. Barnwr (neu ynad) fydd yn pennu'r ddedfryd.

Sut y pennir dedfrydau

Bydd barnwr (neu ynad) yn ystyried sawl peth wrth bennu dedfryd, gan gynnwys:

  • y math o drosedd a pha mor ddifrifol ydyw
  • a oes gennych gofnod troseddol
  • eich amgylchiadau personol - er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl
  • a ydych wedi cyfaddef eich bod yn euog a phryd y gwnaethoch hynny

Gweler 'Sut y pennir dedfrydau' am fwy o wybodaeth am y ffordd y mae'r llys yn gwneud penderfyniadau.

Mathau o ddedfrydau

Ceir pedwar prif fath o ddedfryd, sef:

  • rhyddhad
  • dirwyon llys
  • dedfrydau cymunedol
  • dedfrydau o garchar

Efallai y cewch orchymyn i wneud pethau eraill fel rhan o'r dedfrydau hyn, neu yn lle'r dedfrydau hyn.

Rhyddhad

Os bydd llys yn penderfynu eich bod yn euog, ond yn penderfynu peidio â'ch cosbi ymhellach, cewch eich 'rhyddhau'. Gellir eich rhyddhau am fân droseddau - er enghraifft, bod yn feddw ac yn afreolus yn gyhoeddus.

Gall y llys benderfynu eich rhyddhau os yw'n penderfynu bod y profiad o fynd i'r llys wedi bod yn ddigon o gosb.

Mae dau fath o ryddhad:

  • rhyddhad diamod - ni chymerir camau pellach gan y llys
  • rhyddhad amodol - ni chymerir camau pellach oni bai eich bod yn troseddu eto o fewn cyfnod penodol o amser

Dirwyon llys

Mae llawer o bobl a gaiff eu collfarnu o drosedd yn cael dirwy. Gallech gael dirwy am:

  • drosedd yrru neu drosedd traffig ffyrdd - er enghraifft, goryrru
  • mân droseddau megis lladrata neu ddifrod troseddol
  • bod heb drwydded deledu

Gweler 'Dirwyon llys' am fwy o wybodaeth am lefelau dirwyon.

Gallech gael dedfryd gymunedol yn hytrach na chael eich anfon i'r carchar

Dedfrydau cymunedol

Yn hytrach na chael dirwy neu gael eich anfon i'r carchar, gallech gael dedfryd gymunedol. Mae dedfrydau cymunedol yn nodi rhai 'gofynion' ar eich cyfer - pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud yn y gymuned neu bethau na chaniateir i chi eu gwneud.

Gall y gofynion gynnwys:

  • gweithio'n ddi-dâl
  • cael triniaeth am ddibyniaeth (er enghraifft, cyffuriau)
  • eich rhwystro rhag mynd i le neu ardal benodol

Gweler 'Dedfrydau cymunedol - trosolwg' am fwy o wybodaeth am y math hwn o ddedfryd.

Dedfrydau o garchar

Gallech gael dedfryd o garchar os yw eich trosedd mor ddifrifol fel mai dedfryd o garchar yw'r unig fath addas o gosb.

Gweler 'Mathau o ddedfrydau o garchar' am fwy o wybodaeth am y math hwn o ddedfryd.

Gorchmynion llys

Gall barnwr (neu ynad) ychwanegu gorchymyn llys arall at eich dedfryd - er enghraifft, gorchymyn iawndal. Gallai gorchymyn iawndal gynnwys, er enghraifft, eich bod yn gorfod talu'r dioddefwr am y difrod a wnaethoch i'w eiddo.

Pan nad yw troseddau'n arwain at achos llys

Nid yw pob trosedd yn arwain at achos llys. Gall yr heddlu neu'r awdurdod lleol ddelio â rhai troseddau llai difrifol.

Efallai y cewch rybudd ffurfiol neu hysbysiad 'cosb benodedig' (lle byddwch yn talu swm penodol o arian).

Ymhlith y troseddau y gellir delio â hwy heb achos llys mae:

  • troseddau parcio
  • teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus heb docyn

Os byddwch yn mynd i drafferth eto neu'n peidio â thalu'r hysbysiad cosb benodedig, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.

Pobl ifanc a dedfrydu

Mae rhai dedfrydau'n wahanol ar gyfer pobl ifanc rhwng deg a dwy ar bymtheg oed. I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran 'Mathau o ddedfrydau y gall pobl ifanc eu cael'.

Apelio yn erbyn dedfryd

Os byddwch yn anghytuno â dedfryd, gallwch apelio yn ei herbyn. Mae'n syniad da cael cyngor gan gynghorydd cyfreithiol cyn dechrau'r broses.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU