Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio - os ydych yn anghytuno â dyfarniad Llys y Goron

Os ydych yn anghytuno â dyfarniad Llys y Goron, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad yn y Llys Apêl. Mae sawl peth y mae angen i chi eu gwybod ymlaen llaw, felly dylech gael cyngor cyfreithiol. Mynnwch wybod sut i apelio i'r Llys Apêl.

Dyfarniadau, collfarnau a dedfrydau - beth maent yn ei olygu

Dyfarniad yw penderfyniad y llys sy'n nodi p'un a ydych yn euog neu'n ddieuog o drosedd.

Collfarn yw pan fyddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o'r drosedd.

Dedfryd yw'r gosb sydd ei hangen ym marn y llys yn seiliedig ar y drosedd y gwnaethoch ei chyflawni - er enghraifft, dirwy neu ddedfryd o garchar.

Pryd y gallwch apelio i'r Llys Apêl

Efallai y byddwch yn gallu apelio i'r Llys Apêl os bydd un o'r canlynol yn wir:

  • rydych yn cael eich collfarnu yn Llys y Goron ac yn anghytuno â'r dyfarniad
  • cawsoch eich collfarnu yn y llys ynadon yn wreiddiol, gwnaethoch apelio yn Llys y Goron a cholli'r apêl honno

Beth y gallwch apelio yn ei erbyn

Os ydych yn apelio yn erbyn eich collfarn, bydd angen tystiolaeth newydd arnoch fel arfer

Os gwnaethoch bledio'n ‘ddieuog’ yn eich treial, gallwch apelio yn erbyn eich collfarn a/neu eich dedfryd.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich collfarn, bydd angen tystiolaeth neu ffeithiau newydd arnoch fel arfer. Er enghraifft, efallai bod gennych dyst nad oedd yn bresennol yn y treial gwreiddiol a allai gefnogi eich achos.

Efallai y bydd modd apelio hefyd am fod rhywbeth wedi mynd 'o'i le' yn y treial. Fel arfer, mae hyn yn golygu na chafodd un o weithdrefnau pwysig y llys ei dilyn yn briodol.

Os gwnaethoch bledio'n ‘euog’ yn eich treial, dim ond yn erbyn eich dedfryd y byddwch yn gallu apelio fel arfer. Efallai y gallwch apelio yn erbyn eich collfarn - dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud hyn.

Os na fydd unrhyw dystiolaeth newydd, dim ond yn erbyn eich dedfryd y gallwch apelio.

Cael cyngor cyfreithiol cyn apelio

Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn apelio. Bydd eich cynghorydd cyfreithiol yn trafod yr achos ac yn dweud wrthych p'un a oes gennych reswm da dros apelio ai peidio.

Sut i apelio

Mae gennych hawl i ofyn am apêl ond nid yw hyn yn golygu o reidrwydd y byddwch yn cael caniatâd i apelio.

Mae'r broses sylfaenol fel a ganlyn.

1. Rydych yn cysylltu â Llys y Goron

Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i Lys y Goron drwy gwblhau Ffurflen NG (Hysbysiad a Sail). Nodwch pam fod y gollfarn a/neu'r ddedfryd yn anghywir yn eich barn chi.

Dylech wneud hyn o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch eich collfarnu.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich collfarn, rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i ddyddiad eich collfarn - hyd yn oed os cawsoch eich dedfrydu yn ddiweddarach.

Os mai dim ond yn erbyn eich dedfryd yr ydych am apelio, mae'r cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y dyddiad y cawsoch eich dedfrydu.

Os byddwch yn colli'r dyddiad terfyn 28 diwrnod, siaradwch â'ch cynghorydd cyfreithiol.

Gallwch gael y ffurflen gan Lys y Goron lleol neu o'r ddolen isod.

2. Mae'r Swyddfa Apeliadau Troseddol yn cael y ffurflen

Mae Llys y Goron yn anfon y ffurflen i'r Swyddfa Apeliadau Troseddol, sy'n rhan o'r Llys Apêl, yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain.

Bydd un barnwr (barnwr 'unigol') yn penderfynu a allwch apelio yn seiliedig ar y manylion ar y ffurflen.

Gallwch stopio eich apêl unrhyw bryd Rhaid defnyddio'r ffurflen isod i wneud hyn.

3. Rydych yn canfod p'un a allwch apelio ai peidio

Gall y barnwr unigol wneud y canlynol:

  • gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio
  • rhoi caniatâd i chi apelio ac anfon eich achos i'r Llys Apêl 'llawn'
  • peidio â gwneud penderfyniad ac anfon eich achos i'r Llys Apêl llawn

Mae'r Llys Apêl llawn yn cynnwys tri barnwr.

4. Os bydd y barnwr unigol yn gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio

Bydd penderfyniad y barnwr unigol yn cael ei anfon atoch yn ysgrifenedig.

Os na fyddwch yn cael caniatâd i apelio, gallwch 'adnewyddu' eich cais. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn am ganiatâd i apelio gan y llys llawn. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod i gael penderfyniad y barnwr unigol.

Os na fyddwch yn cael caniatâd i apelio yr eildro, efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Mynnwch fwy o wybodaeth am hyn yn yr adran 'Os byddwch yn colli neu os na roddir caniatâd i chi i apelio' isod.

5. Os byddwch yn cael caniatâd i apelio

Ymdrinnir â'ch achos yn y Llys Apêl llawn o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os bydd y barnwr unigol yn rhoi caniatâd i chi apelio, neu
  • os byddwch yn adnewyddu eich cais a bod y llys llawn yn rhoi caniatâd i chi apelio

6. Caiff dyddiad newydd ei drefnu ar gyfer gwrandawiad

Cewch wybod yn ysgrifenedig pryd bydd dyddiad y gwrandawiad.

Mae'r llys llawn yn ystyried eich achos ac yn penderfynu a oedd eich collfarn wreiddiol:

  • yn 'anniogel' - byddwch yn ennill eich apêl
  • yn gywir - rydych yn colli'ch apêl a daw'r broses i ben

Os byddwch yn ennill eich apêl

Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich collfarn bydd yn cael ei 'gwrthdroi'. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn ddieuog o'r drosedd y bu'n rhaid i chi sefyll prawf amdani ac ni fydd eich dedfryd yn gymwys mwyach.

Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich dedfryd, caiff ei lleihau - er enghraifft, cyfnod byrrach yn y carchar.

Fel arfer, caiff unrhyw gostau cyfreithiol eu talu yn ôl i chi ac efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am iawndal. Gall eich cynghorydd cyfreithiol helpu gyda hyn.

Os bydd y llys yn penderfynu cael aildreial

Hyd yn oed os caiff collfarn ei gwrthdroi, weithiau bydd y Llys Apêl yn penderfynu y dylai'r unigolyn gael aildreial. Er enghraifft, mae'n teimlo bod yr unigolyn wedi'i ddyfarnu'n euog o ganlyniad i dystiolaeth a gafodd ei chaniatáu yn y treial blaenorol o bosibl.

Gall y Llys Apêl benderfynu y dylai'r un dystiolaeth gael ei chlywed gerbron rheithgor.

Os byddwch yn colli neu os na roddir caniatâd i chi apelio

Os byddwch yn colli eich apêl, erys y gollfarn wreiddiol (ni fydd yn newid). Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys ychwanegol.

Os bydd y llys llawn yn gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio, fel arfer mae'r broses yn dod i ben.

Os bydd tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg

Mae'n bosibl y daw tystiolaeth newydd i'r amlwg na chafodd ei chyflwyno yn ystod y gwrandawiad apêl nac ar yr adeg y gwrthodwyd rhoi caniatâd i chi apelio.

Os felly, efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (y Comisiwn). Corff annibynnol yw'r Comisiwn (nid yw'n gysylltiedig â'r Llys Apêl).

Ni all y Comisiwn newid yr hyn a ddigwyddodd yn yr apêl ond gall gytuno y dylai eich achos gael ei anfon yn ôl i'r Llys Apêl.

Dylech siarad â'ch cynghorydd cyfreithiol am hyn.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU