Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio - os ydych yn anghytuno â dyfarniad y llys ynadon

Os ydych yn anghytuno â dyfarniad y llys ynadon, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae sawl peth y mae angen i chi eu gwybod cyn apelio, felly dylech gael cyngor cyfreithiol. Mynnwch wybod sut i apelio a beth i'w wneud os bydd gwrandawiad apêl.

Dyfarniadau, collfarnau a dedfrydau - beth maent yn ei olygu

Dyfarniad yw penderfyniad y llys sy'n nodi p'un a ydych yn euog neu'n ddieuog o drosedd.

Collfarn yw pan fyddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o'r drosedd.

Dedfryd yw'r gosb sydd ei hangen ym marn y llys yn seiliedig ar y drosedd y gwnaethoch ei chyflawni - er enghraifft, dirwy neu ddedfryd o garchar.

Gallwch apelio yn erbyn eich collfarn, eich dedfryd neu'r ddwy.

Rhaid i'ch collfarn fod wedi'i gwneud mewn llys ynadon yng Nghymru neu Loegr (neu lys sirol yng Ngogledd Iwerddon).

Beth y gallwch apelio yn ei erbyn

Dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried apelio

Os gwnaethoch bledio'n ‘ddieuog’ yn eich treial gwreiddiol, gallwch apelio yn erbyn eich collfarn a/neu eich dedfryd.

Os gwnaethoch bledio'n ‘euog’ yn eich treial gwreiddiol, gallwch apelio yn erbyn eich dedfryd. Efallai y bydd yn bosibl apelio yn erbyn eich collfarn - dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud hyn.

Cael cyngor cyfreithiol cyn apelio

Mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol cyn apelio. Bydd cynghorydd cyfreithiol yn trafod yr achos ac yn dweud wrthych p'un a oes gennych reswm da dros apelio ai peidio.

Os ydych ar incwm isel (er enghraifft, os ydych yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau), efallai y bydd y cyngor hwn am ddim.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad y llys ynadon

Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad y llys ynadon bydd 'llys uwch', sef Llys y Goron, yn ymdrin â'ch apêl.

Bydd barnwr ac o leiaf dau ynad yn penderfynu a ddylent gadarnhau'r dyfarniad gwreiddiol ai peidio. Cynhelir gwrandawiadau apêl yn gyhoeddus heb reithgor fel arfer.

Mae'r broses fel a ganlyn.

1. Rydych yn anfon ffurflen apelio i'r llys ynadon

Rydych yn cwblhau ffurflen hysbysiad am apêl a'i dychwelyd i'r llys ynadon lle y cafodd y treial gwreiddiol ei gynnal.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich dedfryd, rhaid i hynny gael ei wneud o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch eich dedfrydu.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich collfarn, rhaid i hynny gael ei wneud o fewn 21 diwrnod i ddyddiad eich dedfryd. 'Dyddiad eich dedfryd' yw'r dyddiad y cafodd y ddedfryd ei rhoi neu'r dyddiad y cafodd ei gohirio, p’un bynnag sy’n dod gyntaf.

Os byddwch yn colli'r dyddiad terfyn 21 diwrnod, siaradwch â'ch cynghorydd cyfreithiol.

2. Mae proses y llys yn dechrau

Bydd y llys ynadon yn cofnodi eich bod am apelio. Caiff 'Hysbysiad am Apêl' ei anfon i Lys y Goron lleol.

3. Mae Llys y Goron yn cysylltu â chi ynglŷn â'r gwrandawiad apêl

Mae Llys y Goron yn gwneud cynlluniau i ystyried eich apêl. Byddwch yn cael llythyr ymhen ychydig wythnosau sy'n dweud wrthych ble a phryd y caiff ei chynnal - fel arfer Llys y Goron agosaf.

Ar yr adeg hon, gallwch benderfynu stopio eich apêl os na fyddwch am barhau. Os felly, rhaid dweud wrth y llys ynadon lle y cafodd eich treial gwreiddiol ei gynnal.

4. Dechrau'r gwrandawiad apêl

Mae gwrandawiadau apêl yn amrywio o ran hyd, ac maent fel arfer yn para rhwng un a thri diwrnod.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich collfarn, gall yr un dystiolaeth o'r treial gwreiddiol gael ei defnyddio.

Fel arall, os oes gennych dystiolaeth newydd - fel tyst nad oedd yn bresennol yn y treial gwreiddiol - gallai hyn gael ei defnyddio i ategu eich achos.

Os ydych yn apelio yn erbyn eich dedfryd, mae gennych gyfle i ddweud wrth y llys pam fod y ddedfryd yn anghywir yn eich barn chi.

Os byddwch yn ennill eich apêl

Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich collfarn bydd yn cael ei 'gwrthdroi', ac ni fydd eich dedfryd yn gymwys mwyach.

Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich dedfryd, caiff ei lleihau - er enghraifft, dirwy lai neu gyfnod byrrach yn y carchar.

Fel arfer, caiff unrhyw gostau cyfreithiol eu talu yn ôl i chi ac efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am iawndal. Gall eich cynghorydd cyfreithiol helpu gyda hyn.

Os byddwch yn colli eich apêl

Os byddwch yn colli eich apêl, erys y gollfarn wreiddiol (ni fydd yn newid). Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys ychwanegol.

Os na fyddwch yn cytuno â phenderfyniad Llys y Goron, efallai y byddwch yn gallu apelio i lys uwch, sef y Llys Apêl.

Gweler 'Apelio - os ydych yn anghytuno â dyfarniad Llys y Goron' i gael gwybod sut i wneud hyn.

Os bydd eich apêl yn methu a bod tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg

Ar ôl i Lys y Goron wrthod eich apêl, mae'n bosibl y daw tystiolaeth newydd i'r amlwg na chafodd ei chyflwyno yn ystod yr ailwrandawiad. Os felly, efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (y Comisiwn). Efallai y bydd yn penderfynu ailystyried yr apêl.

Ni all y Comisiwn newid yr hyn a ddigwyddodd yn yr apêl, ond efallai y bydd yn cytuno y dylai eich achos gael ei anfon yn ôl i Lys y Goron. Yna bydd ailwrandawiad arall.

Corff annibynnol yw'r Comisiwn (nid yw'n gysylltiedig â Llys y Goron).

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU