Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd yr Heddlu bob amser yn ceisio darparu gwasanaeth o safon uchel ac ateb cyflym ac effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu. Gall fod adegau pan na fydd hyn yn digwydd neu pryd hoffech chi wneud sylw ar y gwasanaeth yr ydych chi wedi’i gael (gan gynnwys adegau pryd yr hoffech chi gynnig adborth cadarnhaol). Gallwch wneud hyn mewn amryw o ffyrdd.
Gallwch godi materion gyda’ch tîm plismona cymdogaeth:
Bydd yr Heddlu a chi yn cytuno ar sut y gallant leddfu eich pryderon neu ddelio â’ch cwyn ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau. Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich heddlu lleol a’ch tîm plismona cymdogaeth drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Am droseddu
Os nad ydych chi’n dymuno siarad â’ch tîm plismona cymdogaeth, neu os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb yr ydych wedi ei gael, gallwch chi gysylltu â phencadlys eich heddlu.
Gallwch chi hefyd fynd at eich awdurdod heddlu lleol. Gall fod gan wahanol awdurdodau wahanol weithdrefnau ar gyfer delio gyda’ch problem. Ni waeth pa lwybr a ddewiswch chi, dylai rhywun gysylltu â chi o fewn 24 awr gan ddweud wrthych chi beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf.
Am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Os ydych chi'n pryderu ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch chi gysylltu hefyd â’ch cyngor lleol. Mae gan bob cyngor dîm sy’n gweithio gyda’ch tîm plismona cymdogaeth lleol i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ogystal, bydd ganddynt drefn gwyno os nad ydych chi’n hapus.
Gallwch chi siarad hefyd â chydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol eich cyngor am y mater.
Efallai na all rhai materion gael eu datrys gan eich awdurdod heddlu neu eich heddlu lleol, neu efallai nad ydych chi’n teimlo eu bod yn ymateb yn ddigonol i’r materion yr ydych chi wedi eu codi. Efallai y bydd angen math gwahanol o weithredu ar gyfer y sefyllfaoedd hyn.
Os bydd sefyllfaoedd o’r fath yn codi, a bod eich cwyn chi’n ymwneud â pherson sy’n gweithio i’r heddlu, gallwch chi gwyno’n uniongyrchol i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu. Gallwch chi hefyd apelio i’r Comisiwn os nad ydych chi’n credu yr ymchwiliwyd i’ch cwyn yn briodol nac iddi gael ei datrys yn gywir gan eich awdurdod neu eich heddlu lleol.
Corff yw Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y cwynion am yr heddlu.
Os yw eich cwyn chi’n ymwneud â materion eraill, megis y ffordd y caiff eich ardal chi ei phlismona yn gyffredinol, ac os nad ydych chi’n credu ei bod wedi ei datrys yn iawn, gallwch chi ysgrifennu at Brif Gwnstabl eich awdurdod heddlu neu eich heddlu lleol. Mae hyn yn cynnwys materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yna, mae’n bosib y byddant yn dwyn sylw Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu at hyn.
Gall y Comisiwn adolygu nifer fach o achosion i sicrhau fod yr heddlu a’r awdurdodau yn delio â chwynion yn deg ac yn effeithiol.
Am faterion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch chi gysylltu hefyd â’ch cynghorydd lleol, neu ag ombwdsmon llywodraeth leol. Maent yn edrych ar gwynion am gynghorau a rhai awdurdodau eraill.