Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w ddisgwyl gan yr heddlu

Pan fyddwch yn dod i gysylltiad â’r heddlu, dylech ddisgwyl gwasanaeth o’r un safon ni waeth ym mha ran o'r wlad yr ydych chi. Rhaid i bob heddlu ddilyn llawer o’r un canllawiau cenedlaethol. Yma, cewch wybod beth i’w ddisgwyl ganddynt.

Beth i’w ddisgwyl mewn gorsafoedd heddlu lleol

Mae pob heddlu wedi’i rannu’n unedau, a bydd pob uned yn arbenigo mewn gwahanol bethau. Bydd ambell swyddog yn cerdded y stryd ‘ar y bît’, eraill yn ymchwilio i ddamweiniau traffig ac eraill yn ymdrin â throseddau mawr.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad â’r heddlu yn eu gorsaf leol, pan fyddant yn galw yno i riportio trosedd neu i ofyn am wybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o orsafoedd fe welwch ddesg gymorth a fydd yn cael ei rhedeg naill ai gan staff sifil yr heddlu neu gan blismyn, neu gyfuniad o'r ddau. Bydd unrhyw un sy’n gweithio y tu ôl i’r ddesg wedi cael ei hyfforddi i ddelio â'ch cwestiynau, ac i'ch helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych.

Os oes gennych gwestiynau cyffredinol am yr heddlu a sut maent yn gweithio, mae gwefan ‘Cwestiynau Cyffredin’ yr heddlu’n lle da i ddechrau.

Rhaid i’r heddlu eich trin yn deg

Mae gennych hawl i gael eich trin yn deg gan yr heddlu, ac mae’r addewid plismona cenedlaethol yn nodi eu dyletswyddau tuag atoch chi.

Mae’r addewid yn cynnwys deg safon ar gyfer y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan yr heddlu lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr.

Ymhlith pethau eraill, mae’n addo y bydd pob heddlu:

  • yn eich trin â pharch bob amser
  • yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad teg at wasanaethau'r heddlu pan fydd eu hangen arnoch
  • yn ymateb i ymholiadau a gyflwynir i’ch tîm plismona cymdogaeth o fewn 24 awr

Mae pob heddlu wedi cynhyrchu ei fersiwn ei hun o’r addewid, gan nodi’r pethau penodol y maent yn addo eu gwneud yn lleol. Fel arfer, bydd eich addewid lleol i’w weld yn yr adran plismona cymdogaeth ar wefan eich heddlu.

Eich hawliau os cewch eich arestio

Os cewch eich arestio am drosedd, mae'ch hawliau wedi'u diogelu, a rhaid i'r heddlu ddilyn y rheolau a nodir yng nghodau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE). Mae’r cod hwn yn esbonio sut mae’n rhaid i’r heddlu eich trin, a beth yw eich hawliau.

Mae’n dweud, er enghraifft, fod gennych hawl i siarad â thwrnai ac i roi gwybod i aelod o’ch teulu neu i ffrind eich bod wedi cael eich arestio.

Gallwch ddarllen am godau PACE ar wefan Heddlu’r Swyddfa Gartref.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU