Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau yng ngorsaf yr heddlu ar ôl cael eich arestio

Os byddwch yn cael eich arestio, bydd yr heddlu yn mynd â chi i orsaf yr heddlu a'ch cadw yn y ddalfa a'ch holi. Mae hyn yn golygu eich bod yn colli eich hawl i ryddid nes eich bod yn cael eich cyhuddo neu eich rhyddhau. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd yng ngorsaf yr heddlu, cael cyngor cyfreithiol a beth yw eich hawliau tra byddwch yn cael eich dal.

Os byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa

Rhaid i'r swyddog cadwraeth ddweud wrthych pam rydych yn cael eich cadw yn y ddalfa ac egluro eich hawliau

Rhaid i'r swyddog cadwraeth yng ngorsaf yr heddlu ddweud wrthych pam rydych yn cael eich dal ac egluro beth yw eich hawliau. Mae gennych hawl i'r canlynol:

  • cael cyngor cyfreithiol am ddim - er enghraifft, gan gyfreithiwr
  • trefnu i roi gwybod i rywun rydych yn ei adnabod lle rydych chi
  • cael cymorth meddygol os ydych yn teimlo'n sâl - bydd yr heddlu'n trefnu hyn
  • gweld y rheolau y mae'n rhaid i'r heddlu eu dilyn - gelwir y rhain yn 'Godau Ymarfer'
  • gweld hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau - er enghraifft, cael seibiant rheolaidd i gael bwyd, ymolchi a defnyddio'r toiled

Byddwch yn cael eich chwilio a chaiff unrhyw eiddo sydd gennych ei gymryd oddi arnoch tra rydych yn y gell.

Am faint y gallwch gael eich cadw yn y ddalfa

Ni all yr heddlu eich cadw yn y ddalfa fel arfer am fwy na 24 awr heb eich cyhuddo o drosedd.

Os amheuir eich bod wedi cyflawni trosedd ddifrifol (er enghraifft, llofruddio), gall y cyfnod yn y ddalfa gael ei ymestyn i:

  • 36 awr - gan uwcharolygydd yr heddlu yng ngorsaf yr heddlu
  • 96 awr - gan lys - rhaid i'r heddlu wneud 'cais' i'r llys i wneud hyn

Ar ôl yr amser hwn, rhaid i'r heddlu naill ai eich cyhuddo chi neu eich rhyddhau.

Pan fyddwch yn cael eich holi

Bydd yr heddlu yn eich holi am y drosedd maent yn amau i chi ei chyflawni. Caiff y cyfweliad ei recordio.

Rhybudd gan yr heddlu

Cyn i'r heddlu ofyn unrhyw gwestiynau i chi, rhaid i swyddog eich rhybuddio beth y gall ddigwydd os byddwch yn penderfynu peidio ag ateb. Gelwir hwn yn 'rhybudd gan yr heddlu'. Rhybudd yr heddlu yw:

'Does dim rhaid i chi ddweud dim byd. Ond gall niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chi’n sôn, wrth gael eich holi, am rywbeth y byddwch chi’n dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.'

Os oes angen, gall swyddog yr heddlu neu gynghorydd cyfreithiol egluro beth mae hyn yn ei olygu.

Eich hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim

Tra byddwch yng ngorsaf yr heddlu, mae'r hawl gennych i gael cyngor cyfreithiol am ddim. Gweler 'Cyngor cyfreithiol os cewch eich holi gan yr heddlu neu eich cyhuddo o drosedd' i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych yn anabl neu os oes angen cymorth arnoch

Os ydych yn anabl - er enghraifft, os ydych yn fyddar neu mae gennych gyflwr iechyd meddwl - mae'r hawl gennych i gael cymorth yng ngorsaf yr heddlu.

Gweler 'Yr heddlu a phobl anabl' i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych o dan 17 oed

Os ydych o dan 17 oed, rhaid i'r heddlu ddod o hyd i riant, gwarcheidwad neu ofalwr dros 18 oed ('oedolyn priodol') i ddod i'r orsaf.

Olion bysedd, ffotograffau a samplau

Caiff gwybodaeth o olion bysedd a samplau eu storio yng nghronfa ddata'r heddlu

Mae'r hawl gan yr heddlu i gymryd eich olion bysedd, llun ohonoch a sampl o'ch DNA (er enghraifft, swab o'r geg). Ni allwch wrthod gadael iddynt wneud hyn.

Caiff gwybodaeth am olion bysedd a samplau ei storio yng nghronfa ddata'r heddlu a gellid ei defnyddio i'ch adnabod os cewch eich arestio eto.

Er mwyn cymryd mathau eraill o samplau (a elwir yn 'samplau personol') - er enghraifft, gwaed neu wrin - mae angen y canlynol ar yr heddlu:

  • awdurdod uwch swyddog yr heddlu - arolygydd
  • eich caniatâd

Gallwch wrthod rhoi caniatâd. Gall cynghorydd cyfreithiol egluro beth allai ddigwydd pe byddech yn gwrthod - yn enwedig os byddwch yn cael eich cyhuddo a rhaid i chi fynd i'r llys.

Yfed a gyrru

Os cewch eich arestio am yfed a gyrru mae gennych yr hawl i siarad â chyfreithiwr. Nid yw aros i siarad â chyfreithiwr yn caniatáu i chi wrthod rhoi samplau o anadl, gwaed neu wrin i'w profi.

Os cewch eich rhyddhau heb gyhuddiad

Pan fydd yr heddlu wedi gorffen ymchwilio efallai y byddant yn eich rhyddhau oherwydd y canlynol:

  • maent yn fodlon nad ydych yn rhan o'r drosedd
  • nid oes ganddynt ddigon o dystiolaeth i'ch cyhuddo o'r drosedd

Hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o dystiolaeth, ni fyddant o reidrwydd yn eich cyhuddo. Gallech gael rhybudd neu gerydd yn hytrach na gorfod mynd i'r llys.

Os cewch eich cyhuddo o drosedd

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, mae'n golygu bod yr heddlu o'r farn eich bod yn euog o gyflawni'r drosedd y cawsoch eich arestio amdani.

Gweler 'Beth sy'n digwydd os cewch eich cyhuddo o drosedd' i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf.

Sut i wneud cwyn

Dylai pobl sy'n gweithio yn yr heddlu ymddwyn yn broffesiynol bob amser. Os ydych o'r farn bod rhywun sy'n gweithio i'r heddlu heb fodloni'r safonau hyn, gallwch wneud cwyn.

Gallwch gwyno naill ai i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu neu i'ch AS lleol.

Mwy am eich hawliau os byddwch yn cael eich arestio

Cewch fwy o wybodaeth am eich hawliau os byddwch yn cael eich arestio a'ch dal mewn gorsaf heddlu drwy edrych ar Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.

Mae 'Cod Ymarfer C' yn egluro eich hawliau tra byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa a'ch holi.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU