Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich stopio, eich holi neu eich arestio gan yr heddlu

Mae gan yr heddlu bwerau i'ch stopio, eich holi a'ch chwilio - yn dibynnu ar y sefyllfa. Os bydd angen, gallant eich arestio os byddant yn credu eich bod wedi cyflawni trosedd. Mynnwch wybod pryd y gallwch gael eich stopio gan yr heddlu, beth sy'n digwydd os cewch eich chwilio neu eich arestio a'ch hawliau.

Cael eich stopio a'ch holi gan yr heddlu

Rhaid i swyddog yr heddlu ddangos ei gerdyn adnabod i chi

Mae gan swyddogion yr heddlu neu swyddogion

cymorth cymunedol yr heddlu yr hawl i holi'r canlynol i chi:

  • beth rydych yn ei wneud
  • pam rydych mewn ardal benodol a/neu ble rydych yn mynd

Efallai y bydd y swyddog yn cofnodi eich ethnigrwydd ac efallai y cewch gofnod sy'n dangos y canlynol:

  • y dyddiad a'r amser y cawsoch eich stopio
  • enw a gorsaf heddlu'r swyddog

Nid oes angen i swyddog yr heddlu fod mewn lifrai (ond rhaid iddo ddangos ei gerdyn adnabod i chi). Rhaid i swyddog cymorth cymunedol yr heddlu fod mewn lifrai.

Cael eich stopio a'ch chwilio gan yr heddlu

Gallwch gael eich stopio a'ch chwilio pan fydd gan swyddog yr heddlu 'sail resymol' dros amau eich bod yn cario:

  • cyffuriau anghyfreithlon
  • arf - er enghraifft, cyllell
  • eiddo wedi'i ddwyn
  • rhywbeth y gellid ei ddefnyddio i gyflawni trosedd - er enghraifft, trosol

Nid yw cael eich chwilio yn golygu eich bod yn cael eich arestio.

Enghraifft o 'sail resymol' dros eich stopio a'ch chwilio

Rydych yn cael eich gweld yn hwyr y nos yn agos at ardal lle mae lladrad wedi digwydd. Mae'r heddlu yn eich gweld yn ceisio cuddio rhywbeth sy'n ymddangos fel petai o'r un maint a siâp â'r eitem a gafodd ei dwyn yn y lladrad.

Gallech gael eich stopio a'ch chwilio yn y sefyllfa hon.

Cael eich stopio a'ch chwilio heb sail resymol

Gallwch gael eich stopio a'ch chwilio heb unrhyw sail resymol os bydd swyddog yr heddlu yn credu'r canlynol:

  • y gallai trais difrifol gael ei gyflawni
  • eich bod yn cario neu wedi defnyddio arf

Cyn i chi gael eich chwilio

Cyn i chi gael eich chwilio rhaid i swyddog yr heddlu ddweud y canlynol wrthych:

  • ei enw a'i orsaf heddlu
  • beth mae'n disgwyl dod o hyd iddo - er enghraifft, cyffuriau
  • y rheswm dros eich chwilio - er enghraifft, mae'n edrych fel pe baech yn cuddio rhywbeth
  • pam fod ganddo ganiatâd cyfreithiol i'ch chwilio
  • y gallwch gael cofnod o'r chwiliad - os nad oes modd ei gael ar adeg y chwiliad, sut y gallwch gael copi

Sut y caiff y chwiliad ei gynnal

Gall swyddog ofyn i chi dynnu mwy na siaced neu fenig, ac unrhyw beth rydych yn ei wisgo am resymau crefyddol - fel gorchudd neu dyrban. Os bydd yn gwneud hynny, rhaid iddo fynd â chi i rywle allan o olwg y cyhoedd.

Os bydd y swyddog am i chi dynnu mwy na siaced a menig, rhad i'r swyddog fod o'r un rhyw â chi. Gall hyn ddigwydd mewn gorsaf heddlu (hyd yn oed os nad ydych yn cael eich arestio).

Beth sy'n cael ei nodi ar y cofnod o'r chwiliad

Ar ôl i chi gael eich chwilio (os nad ydych yn cael eich arestio) dylai'r swyddog roi cofnod i chi sy'n cynnwys y canlynol:

  • beth roedd yn chwilio amdano a ph'un a ganfuwyd unrhyw beth
  • pam y cawsoch eich chwilio
  • dyddiad, amser a lleoliad y chwiliad
  • pwy oedd y swyddog a gynhaliodd y chwiliad

Os na all roi cofnod i chi ar adeg y chwiliad, dylai roi 'derbynneb' i chi sy'n nodi sut y gallwch gael un.

Pryd y gall yr heddlu fynd i mewn i'ch cartref

Fel arfer, ni all yr heddlu fynd i mewn i'ch cartref (neu eiddo preifat) heb eich caniatâd, oni bai am yr amgylchiadau canlynol:

  • maent yn erlid rhywun sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol - fel lladrad neu ymosodiad
  • maent yn atal difrod difrifol i'ch eiddo
  • maent yn clywed rhywun yn galw am help neu'n gweld bod rhywun mewn angen
  • mae ganddynt ganiatâd gan y llys i fynd i mewn i'ch cartref

Cael eich arestio

Mae angen sail resymol ar yr heddlu dros amau eich bod yn gysylltiedig â throsedd

Gallwch gael eich arestio unrhyw le ac ar unrhyw bryd, gan gynnwys:

  • ar y stryd
  • yn eich cartref
  • yn y gwaith

Mae angen sail resymol ar yr heddlu dros amau eich bod, neu y gallech fod, yn gysylltiedig â throsedd er mwyn gallu eich arestio.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cael eich arestio

Os bydd yr heddlu yn eich arestio, rhaid iddynt wneud y canlynol:

  • nodi mai swyddogion yr heddlu ydyn nhw
  • dweud wrthych eich bod yn cael eich arestio
  • dweud wrthych pa drosedd y maent yn credu eich bod wedi'i chyflawni
  • egluro pam fod angen eich arestio
  • egluro nad oes gennych hawl i adael

Os byddwch yn ceisio dianc neu'n ymddwyn yn dreisgar, gall yr heddlu ddefnyddio 'grym rhesymol' - er enghraifft eich dal i lawr i'ch atal rhag rhedeg i ffwrdd. Gellir rhoi gefynnau ar eich dwylo hefyd.

Gall yr heddlu hefyd eich chwilio pan fyddwch yn cael eich arestio.

Ar ôl cael eich arestio, byddwch yn cael eich cymryd i orsaf yr heddlu a'ch cadw yn y ddalfa. Mae hyn yn golygu nad oes gennych hawl i adael.

Gweler 'Eich hawliau yng ngorsaf yr heddlu' i gael gwybod mwy am beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cael eich arestio, cael eich holi a'ch hawliau.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU