Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Swyddogion Cymorth Cymunedol

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) yn cefnogi gwaith plismyn arferol. Maent yn cerdded y strydoedd ar batrôl ac yn gallu cynnig cymorth i blismyn mewn digwyddiadau mawr a safleoedd trosedd. Os hoffech chi siarad â rhywun am droseddu, gallant hwy eich helpu.

Beth mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ei wneud

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithredu’n debyg iawn i blismyn arferol, er y gall eu swyddogaethau amrywio o lu i lu. Efallai y gwelwch hwy yn ymweld ag ysgolion fel rhan o raglen addysg gwrth droseddu, neu efallai y gwelwch hwy yn gweithio mewn safleoedd trosedd.

Er nad oes ganddynt yr un pwerau â phlismyn arferol, maent yn rhannu nifer o’r pwerau hynny. Er enghraifft, gallant arestio pobl a chyflwyno hysbysiadau cosb benodol.

Gan ddibynnu ar ble maent yn gweithio, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn:

  • delio gyda mân droseddau
  • gweithio’n agos gyda phobl ifanc i atal troseddu
  • darparu cefnogaeth i heddlu ar y stryd
  • cynnal ymchwiliadau o dŷ i dŷ
  • gwarchod safleoedd trosedd
  • darparu cyngor atal troseddu

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu weithiau’n cael eu cymysgu â heddlu gwirfoddol gan eu bod yn gwisgo gwisg debyg. Fodd bynnag, yn annhebyg i heddlu gwirfoddol, nid yw Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn wirfoddolwyr. Mae ganddynt hefyd fwy o bwerau na heddlu gwirfoddol.

Ble y byddwch chi’n gweld Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn aml

Gan fod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithio fel rhan o dimau plismona cymdogaeth mae ganddynt swyddi lle mae llawer o bobl yn eu gweld, a byddwch yn aml yn eu cwrdd yn cerdded ‘ar y bît’ yn eich ardaloedd preswyl chi.

Maent yn gwisgo gwisg arbennig â ‘PCSO’ arni.

Mae eu gwaith yn gofyn iddynt gwrdd â thrigolion, felly efallai y cewch bamffledi drwy’r drws ganddynt yn eich gwahodd i gyfarfodydd plismona cymdogaeth.

Cewch wybod mwy am blismona cymdogaeth isod.

Pwy sy’n gymwys i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu?

Mae pobl o bob cefndir, rhyw a grwpiau ethnig yn gweithio fel swyddogion cymorth cymunedol. Nid yw gwaith fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi’i gyfyngu i unrhyw grŵp oedran penodol. Mewn gwirionedd, ail yrfa yw’r gwaith i nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ond gall fod yn swydd gyntaf i rai eraill.

Wedi dweud hynny, nid yw’r gwaith at ddant pawb. Er bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd, maent i gyd yn rhannu nodweddion personoliaeth penodol.

Er enghraifft, mae’n ofynnol eu bod:

  • yn hyderus, yn bwyllog ac yn aeddfed
  • yn brofiadol a hyderus wrth ddelio â phobl anodd a sefyllfaoedd cymhleth
  • sensitif, ond yn groendew
  • yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • â’r stamina ar gyfer cyfnodau maith o batrolio ar droed

Cewch wybod mwy am Swyddogion Cymorth Cymunedol ar wefan Police Could You (isod).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU