Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn dod i gysylltiad â'r heddlu - fel tyst neu ddioddefwr trosedd o bosib neu os cewch eich dal, eich arestio a/neu eich hebrwng i orsaf yr heddlu - mae gennych yr un hawliau â phawb arall.
Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw neu gyda nam ar eich lleferydd, dylai'r heddlu drefnu i ddehonglydd fod yn bresennol. Ni ddylent eich holi hyd nes y bydd y dehonglydd yn bresennol oni fyddai oedi'n golygu bod risg o niwed i rywun yn y fan a'r lle neu risg o golli eiddo neu ddifrod difrifol i eiddo.
Dylai'r heddlu gyfweld person gydag anabledd dysgu dim ond pan fydd person cyfrifol (y cyfeirir ato weithiau fel 'oedolyn priodol') yn bresennol. Nid yr heddlu ddylai gyflogi'r person hwn a dylai fod yn brofiadol yn delio gyda phobl gydag anableddau dysgu. Gallai fod yn berthynas i'r person sy’n cael ei gyfweld neu rywun sy'n gyfrifol am eu gofal.
Os oes gennych anabledd dysgu, ni ddylai'r heddlu eich cyfweld hyd nes y bydd person cyfrifol yn bresennol oni fyddai oedi'n peri risg o anaf i eiddo neu bobl.
Os byddwch yn cael eich cadw gan yr heddlu, mae gennych hawl i gael archwiliad meddygol gan weithiwr gofal iechyd, er enghraifft, parafeddyg, nyrs neu feddyg yr heddlu - a elwir weithiau'n Archwilydd Meddygol Fforensig. Gallwch hefyd gael archwiliad gan feddyg teulu o'ch dewis chi, os bydd ar gael. Ond efallai y bydd rhaid i chi dalu am hyn. Bydd hyn yn cael ei gofnodi'n ffurfiol.
Mae gan yr elusen 'Mind' daflen ffeithiau ddefnyddiol sy'n trafod yr heddlu ac iechyd meddwl. Mae'r daflen ffeithiau ar gael fel dudalen we ac ar ffurf PDF ar wefan ‘Mind’
Symud unigolyn i 'fan diogel'
Mae rhan o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (adran 136) yn delio gyda symud person sy'n dioddef o salwch meddwl o fan cyhoeddus i fan diogel. Mae'n rhoi manylion pwerau'r heddlu a hawliau person yn y sefyllfa honno.