Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n digwydd os cewch eich cyhuddo o drosedd

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, mae'n golygu bod yr heddlu yn amau eich bod wedi cyflawni'r drosedd y cawsoch eich arestio amdani. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i chi aros yn y ddalfa neu os cewch eich rhyddhau ar fechnïaeth cyn mynd i lys ynadon.

Os cewch eich cyhuddo o drosedd

Rhoddir taflen gyhuddo i chi, sy'n nodi manylion y drosedd a amheuir

Bydd y swyddog cadwraeth yng ngorsaf yr heddlu yn dweud wrthych eich bod yn cael eich cyhuddo. Rhoddir 'taflen gyhuddo' i chi sy'n nodi manylion y drosedd a amheuir.

Bydd yr heddlu yn penderfynu p'un:

  • a allwch fynd adref hyd nes y cynhelir y gwrandawiad llys - ond efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn rheolau penodol, a elwir yn 'fechnïaeth'
  • a gewch eich cadw yn nalfa'r heddlu hyd nes y cynhelir gwrandawiad y llys, a elwir yn 'remánd'

Bydd pob achos troseddol yn cychwyn mewn llys ynadon.

Mechnïaeth - beth ydyw

Mae mechnïaeth yn golygu y cewch adael dalfa'r heddlu wrth iddynt ymchwilio ymhellach i'ch trosedd, neu tra byddwch aros am eich gwrandawiad llys.

Mae dau fath gwahanol o fechnïaeth:

  • mechnïaeth gan yr heddlu - rhoddir hwn yng ngorsaf yr heddlu ar ôl i chi gael eich cyhuddo
  • mechnïaeth gan y llys - rhoddir hwn yn eich gwrandawiad mewn llys ynadon

Mechnïaeth gan yr heddlu

Mae mechnïaeth yn gytundeb rhyngoch chi a'r heddlu a gall gynnwys amodau, fel:

  • byw mewn cyfeiriad penodol
  • ddim yn cael cysylltu â phobl benodol
  • rhoi eich pasbort i'r heddlu

Rhesymau pam na fyddwch yn cael mechnïaeth gan yr heddlu o bosibl

Byddwch yn annhebygol o gael mechnïaeth os:

  • cewch eich cyhuddo o drosedd ddifrifol - er enghraifft, lladrad arfog
  • rydych wedi cael eich collfarnu o drosedd ddifrifol yn y gorffennol

Ymhlith y rhesymau eraill pam na fyddwch yn cael mechnïaeth o bosibl mae'r canlynol:

  • rydych wedi cael mechnïaeth yn y gorffennol ac wedi torri'r amodau
  • mae'r heddlu o'r farn efallai na fyddwch yn mynd i'ch gwrandawiad llys
  • mae'r heddlu o'r farn efallai y byddwch yn cyflawni trosedd tra byddwch ar fechnïaeth

Mynd i orsaf heddlu

Fel rhan o amodau eich mechnïaeth, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'ch gorsaf heddlu leol ar adegau penodol - er enghraifft, unwaith yr wythnos a hynny er mwyn dangos nad ydych wedi gadael yr ardal.

Os na fyddwch yn troi i fyny, byddwch yn cael 'gwarant' yn y post i'ch arestio. Bydd yn nodi bod yn rhaid i chi fynd i orsaf yr heddlu.

Os byddwch yn anwybyddu'r warant, cewch eich arestio a bydd yn rhaid i chi aros am eich gwrandawiad llys yn y carchar yn hytrach nag ar fechnïaeth.

Os cewch eich cadw yn nalfa'r heddlu ar ôl cael eich cyhuddo

Mae gennych hawl i ofyn am fechnïaeth, a'r hawl i ofyn am gyngor cyfreithiol

Os cewch eich cyhuddo gan yr heddlu a'ch cadw yn y ddalfa hyd nes y cynhelir eich gwrandawiad, byddwch 'ar remánd'. Mae hyn yn golygu y gwrthodir rhoi mechnïaeth i chi.

Cewch eich anfon i lys ynadon i gael cyfle i ofyn am fechnïaeth. Bydd hyn fel arfer o fewn 24 awr (neu 48 awr ar benwythnosau).

Mae cyfraith Prydain yn nodi eich bod yn ddieuog hyd nes y cewch eich profi'n euog. Mae hyn yn golygu bod gennych fwy o hawliau nag unigolyn sydd wedi'i gollfarnu (sy'n euog) o drosedd, gan gynnwys yr hawl i:

  • ofyn am fechnïaeth - mae gennych hawl i gael cyngor cyfreithiol ar hyn
  • cadw eich swydd neu'ch cartref
  • parhau i redeg busnes (ar yr amod ei fod yn gyfreithlon)

Byddwch ar remánd hyd nes y daw eich treial i ben ac y cewch eich dedfrydu.

Cymorth cyfreithiol os cewch eich cyhuddo o drosedd

Efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth cyfreithiol am ddim cyn ac yn ystod eich gwrandawiad llys. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU