Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae eich heddlu’n cael arian gan y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol bob blwyddyn. Er bod ganddynt rywfaint o ryddid i benderfynu sut i wario’r arian, ceir cyfyngiadau eithaf caeth ar wariant. Mae gennych hawl i wybod faint mae’ch heddlu lleol yn ei wario.
Nid oes gan Brydain un heddlu cenedlaethol. Yn hytrach, ceir 43 llu unigol yng Nghymru a Lloegr. Mae pob heddlu’n gweithredu'n unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref, ond mae gan bob heddlu awdurdod sy’n bennaf gyfrifol am gyllido pob heddlu.
Mae’r awdurdodau hyn yn sefydliadau annibynnol sy’n cynnwys cynghorwyr lleol, trigolion ac ynad lleol. Maent yn pennu cyfeiriad strategol yr heddlu ac yn dal prif gwnstabliaid yn atebol ar ran y gymuned leol.
Gallwch gysylltu â’ch awdurdod heddlu lleol os oes gennych fater i’w godi am eich heddlu lleol neu bryderon yn ei gylch.
Mae awdurdodau’r heddlu’n gyfrifol am y canlynol:
Mae’r arian sy’n cael ei wario gan eich heddlu lleol yn dod o gyfuniad o ffynonellau, gan gynnwys treth cyngor lleol ac arian gan y llywodraeth.
Bydd yr heddlu’n cael grantiau y Swyddfa Gartref, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Uned Cyllid yr Heddlu a Phensiynau yn y Swyddfa Gartref sy’n goruchwylio'r grantiau hynny.
Yna, bydd y Swyddfa Gartref yn rhannu’r grantiau ymhlith awdurdodau’r heddlu.
Bydd y rhan fwyaf o arian yn cael ei roi i amrywiol unedau’r heddlu ar gyfer gwaith penodol yr heddlu gan awdurdodau’r heddlu, prif gwnstabliaid ac uwch swyddogion yr heddlu.
Rhaid defnyddio rhywfaint o arian gan y Swyddfa Gartref i dalu am raglenni cenedlaethol sy’n ofynnol gan y llywodraeth, megis y Prosiect Cyfathrebu Tonnau Awyr ar gyfer gwella dulliau cyfathrebu’r heddlu.
Rhoddir gweddill yr arian i’r heddlu ar sail fformiwla ‘anghenion perthynol’, a ddefnyddir i benderfynu faint sydd ei angen ar bob heddlu mewn gwirionedd.
Bob blwyddyn, bydd y Swyddfa Gartref yn cyfrifo faint o arian sy'n cael ei wario ar blismona yng Nghymru a Lloegr.
Dyma’r ffigurau ar gyfer yr ychydig flynyddoedd diwethaf:
Mae nifer o heddluoedd yn dangos eu cyllidebau ar eu gwefannau. Edrychwch ar wefan eich heddlu lleol i weld a yw eu cyllideb yno.
Os nad ydyw, gallwch wneud cais uniongyrchol am gopi gan eich heddlu lleol.