Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cipio plentyn ar y llwyfan rhyngwladol

Os bydd rhywun yn cipio'ch plentyn ac yn mynd ag ef dramor, fe'ch cynghorir i roi gwybod i'r heddlu, oherwydd efallai fod trosedd wedi'i gyflawni.

Cael eich plentyn yn ôl

Bydd eich siawns o gael eich plentyn yn ôl yn dibynnu ar arferion a chyfreithiau'r wlad yr aethpwyd â'ch plentyn iddi, yn ogystal ag agwedd y person sydd wedi cipio'r plentyn, a'ch perthynas â'r person hwnnw.

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn rhoi cyngor am beth i'w wneud ac â phwy i gysylltu os oes rhywun wedi cipio'ch plentyn ac wedi mynd ag ef dramor, neu os ydych yn ofni y gallai hyn ddigwydd. Gall hefyd roi cyngor ymarferol wrth ddelio ag awdurdodau dramor, oherwydd mae angen deall a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol.

Gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wneud y canlynol:

  • rhoi rhestr i chi o dwrneiod tramor sy'n siarad Saesneg - bydd rhai ohonynt yn arbenigwyr ym maes cyfraith teulu
  • cysylltu ag Interpol yn y DU ac awdurdodau tramor i helpu i olrhain y plentyn
  • ymweld â phlentyn i wneud yn siŵr bod y plentyn yn ddiogel pan fydd hynny'n bosib, a chyda caniatâd y rhiant arall
  • cael adroddiad lles ar ôl canfod lle mae'r plentyn, gyda chaniatâd y rhiant arall
  • rhoi pwysau ar y llysoedd dramor i ddelio ag achos llys mor sydyn ag y bo modd er lles gorau'r plentyn, a chyda caniatâd y Llys yn y DU
  • tynnu sylw'r llysoedd dramor at unrhyw orchmynion llys yn y DU, os oes rhai
  • helpu i sefydlu llinellau cyfathrebu rhyngoch chi, rhiant arall y plentyn a'ch plentyn, a chadw'r llinellau cyfathrebu hynny'n agored
  • rhoi cyngor am deithio a helpu i ddod o hyd i lety diogel yn lleol
  • darparu cyfieithiadau answyddogol o ddogfennau pwysig ambell waith, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol
  • mynd i wrandawiadau llys, mewn achosion eithriadol

Ni all y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wneud y canlynol:

  • cael eich plentyn yn ôl i chi - penderfyniad y llysoedd dramor fydd hyn
  • ymyrryd yn system gyfreithiol gwlad arall
  • rhoi cyngor cyfreithiol
  • ceisio dychwelyd plant yn anghyfreithlon
  • talu costau cyfreithiol
  • rhoi arian ar gyfer costau hedfan
  • cael gafael ar fisas

Yn yr adran hon...

Additional links

Dioddefwyr trosedd – dod o hyd i gymorth

Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd gallwch nawr chwilio am wasanaethau yn eich ardal sy’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU