Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llysgenadaethau, is-genadaethau ac uwch gomisiynau yn cynrychioli'r DU mewn gwledydd eraill drwy'r Is-gennad Prydeinig. Cewch wybod yma sut y mae’r Is-gennad Prydeinig yn gweithio i warchod buddiannau dinasyddion y DU a dinasyddion sydd â chenedligrwydd deuol y DU dramor. Gallwch hefyd gael gwybod sut mae dod o hyd i lysgenhadaeth neu is-gennad Prydeinig.
Mae cenadaethau diplomyddol bob amser wedi'u lleoli mewn prifddinasoedd gwlad. Yng ngwledydd y Gymanwlad, caiff cenhadaeth ddiplomyddol ei galw'n 'uwch gomisiwn'. Mewn gwlad nad yw'n rhan o'r Gymanwlad, fe'i gelwir yn 'llysgenhadaeth'.
Gellir dod o hyd i genadaethau consiwlar unrhyw le arall yn y wlad. Mae cenadaethau consiwlar hefyd yn cael eu galw, yn dibynnu ar eu pwysigrwydd, yn:
Prif waith yr Is-gennad Prydeinig yw gwarchod buddiannau dinasyddion y DU. Gall staff yr Is-gennad gynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor ymarferol. Mae eu gwaith arferol yn cynnwys:
Maent hefyd yn defnyddio'u gwybodaeth leol i asesu'r peryglon i ddinasyddion y DU.
Os ydych chi'n ddinesydd â chenedligrwydd deuol, mae’r cymorth y gallech ei gael gan yr Is-gennad Prydeinig yn dibynnu ar ba basbort yr ydych chi’n teithio arno ac i ble yr ydych yn teithio iddo.
Os ydych chi'n teithio: