Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Arestio a charchar dramor

Os caiff dinesydd Prydeinig ei arestio neu ei gadw yn y ddalfa dramor, bydd Is-gennad Prydain lleol yn ceisio helpu. Ni all yr Is-gennad ryddhau'r person hwnnw o'r carchar, ond bydd yn cymryd camau os bydd yr awdurdodau dan sylw wedi gwadu eu hawliau neu sathru arnynt.

Os cewch eich arestio

Os cewch eich arestio dramor, y cam cyntaf yw cysylltu ag Is-gennad Prydain. Rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosib am eich sefyllfa. Er enghraifft, dylech geisio darparu:

  • cyfeiriad post llawn eich carchar
  • manylion am unrhyw gynrychiolydd cyfreithiol
  • gwybodaeth am yr awdurdodau sy'n gyfrifol am yr achos llys

Os cewch eich arestio neu eich rhoi yn y ddalfa, mae'n bwysig eich bod:

  • yn ymbwyllo ac yn cydweithredu
  • yn ymatal rhag bod yn ymosodol neu'n dreisgar, gan y bydd hynny'n gwneud pethau'n waeth
  • yn mynnu bod Is-gennad Prydain yn cael gwybod - mae gan bob dinesydd Prydeinig hawl i hyn
  • yn gofalu bod perthnasau neu ffrindiau yn cysylltu ag Is-gennad Prydain neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn Llundain drwy ffonio +44 (0) 207 008 1500

Efallai yr hoffech gysylltu hefyd â Prisoners Abroad, elusen i Brydeinwyr sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa dramor a’u teuluoedd.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU