Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dioddefwyr troseddau dramor

Os byddwch yn teithio dramor a rhywun yn troseddu yn eich erbyn, gall Is-gennad Prydain yn y wlad honno roi cymorth a chefnogaeth i chi - beth bynnag fo'r trosedd. Cael gwybod beth y gall ac na all is-gennad ei wneud i chi.

Beth y gall is-gennad ei wneud

Gall is-gennad:

  • gysylltu â'ch perthnasau a'ch ffrindiau a rhoi gwybod iddynt beth sydd wedi digwydd, os mai dyna'ch dymuniad
  • ofyn i ffrindiau a pherthnasau roi cymorth i chi gydag arian neu docynnau
  • roi gwybod i chi sut i drosglwyddo arian
  • roi cymorth i chi gysylltu gyda chyfreithwyr, cyfieithwyr a meddygon sy'n siarad Saesneg
  • yn y rhan fwyaf o swyddfeydd post (mewn argyfwng gwirioneddol yn unig), cael hyd at £100 i chi yn yr arian lleol yn gyfnewid am siec mewn punnoedd sterling gyda cherdyn gwarantu siec ddilys
  • fel dewis olaf, a dim ond os bodlonir meini prawf llym penodol, rhoi benthyciad i'w ad-dalu i chi er mwyn dychwelyd i'r DU

Beth na all is-gennad ei wneud

Ni all is-gennad:

  • ymchwilio i drosedd neu roi cyngor cyfreithiol
  • talu costau gwesty, costau cyfreithiol, costau meddygol a chostau teithio ar eich rhan
  • cael gwell triniaeth i chi mewn ysbytai nag sy'n cael ei rhoi i ddinasyddion lleol
  • ymyrryd mewn achosion llys

Y rhif argyfwng Ewropeaidd sengl – 112

Gall unrhyw un bellach ffonio gwasanaethau argyfwng lleol unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd drwy ddefnyddio’r rhif 112. Does dim angen i chi gofio gwahanol rifau argyfwng wrth deithio yn yr UE. Y cyfan sydd angen i chi ei gofio yw 112. Mewn rhai gwledydd, 112 yw’r prif rif argyfwng bellach ond mewn y rhan fwyaf o wledydd caiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â rhifau argyfwng cenedlaethol eraill.

Cymorth yn y DU

Os byddwch chi wedi dioddef trosedd dramor, neu os bydd rhywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef marwolaeth dreisgar, mae cymorth ar gael yn y DU. Am gefnogaeth a chyngor, cysylltwch â’r meddyg teulu lleol neu’r mudiadau a restrir isod.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU