Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch dalu Dirwy Llys Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) ar-lein os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Sicrhewch fod eich Hysbysiad o Dirwy wrth law a dilynwch y ddolen isod i dalu nawr drwy ddefnyddio eich cerdyn. Mae mwy o wybodaeth isod am sut i dalu dros y ffôn.
Gallwch hefyd wneud taliadau am gostau, iawndal a gorchmynion cynhaliaeth.
Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i dalu dirwyon cosb penodedig na dirwyon parcio.
Gallwch dalu eich dirwy drwy ffonio 0300 790 9980 (ar gyfer Cymru) neu 0300 790 9901 (ar gyfer Lloegr). Bydd angen i'r wybodaeth ganlynol fod gennych wrth law -
Mae'r ddau ohonynt wedi'u nodi yn y gornel dde ar frig eich llythyr Hysbysiad o Ddirwy. Os nad ydych wedi cael eich llythyr Hysbysiad o Ddirwy eto, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r dull hwn o dalu.
Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn dros y ffôn i dalu dirwyon cosb penodedig na dirwyon parcio.
Mae'n rhaid i daliadau gael eu derbyn ar neu cyn y dyddiad a orchmynnwyd. Nid oes angen i chi aros i'ch Hysbysiad o Ddirwy gyrraedd cyn i chi dalu neu wneud trefniadau talu. Os gwneir taliad ar ôl y dyddiad y mae'n ddyledus a bod camau gorfodi eisoes wedi dechrau, efallai y bydd y llys yn gwrthod eich taliad.
I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.