Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gosodir ymyl palmant isel neu groesfan i gerddwyr neu gerbydau ar draws llwybr troed cyhoeddus ac fe'u defnyddir hefyd fel y gallwch yrru'ch cerbyd i mewn i'ch eiddo o'r briffordd. Rhaid eu hadeiladu i safonau penodol a rhaid i'ch cyngor eu cymeradwyo. Mewn rhai achosion bydd angen caniatâd cynllunio hefyd.
Eich cyngor lleol, sy'n gweithredu fel yr Awdurdod Priffyrdd, sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb dros gynnal a chadw llwybrau troed. Mae'n anghyfreithlon adeiladu man croesi dros lwybr troed cyhoeddus heb gael ymyl palmant isel neu fan croesi cofrestredig. Mae hyn yn sicrhau bod y man croesi yn ddigon cryf i gynnal pwysau'r cerbyd ac nid yw'n creu perygl i gerddwyr nac i ddefnyddwyr llwybrau troed a ffyrdd. Mae gan eich cyngor y puer i gau neu gael gwared ar fan croesi i gerbyd neu ymyl palmant isel os na chafwyd caniatâd i'w hadeiladu.
Gallwch wneud cais i'ch cyngor lleol a fydd fel arfer yn gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch am y costau. Mae'n bosib y bydd rhai awdurdodau yn gadael i chi ddefnyddio contractiwr preifat o restr o gwmnïau cymeradwy neu'n mynnu bod rhaid i'r contractiwr fodloni gofynion cyfreithiol caeth.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae nifer o bethau i'w hystyried cyn i chi wneud eich cais:
Os yw eich eiddo:
yna bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio gan eich cyngor cyn y gallwch ddechrau ar y gwaith.
Ni fydd eich cais yn cael yn cael ei gymeradwyo oni fyddwch yn medru darparu ardal parcio addas o fewn eich eiddo. Rhaid cael digon o le o amgylch yr ardal i gerddwyr ei ddefnyddio. Os yw lled eich eiddo yn fwy na 8 metr efallai na fydd yr amodau hyn yn gymwys.
Os na fodlonir y meini prawf, efallai y rhoddir caniatâd, yn dibynnu ar arolwg safle gan Arolygydd Priffyrdd. Bydd penderfyniad yr Arolygwyr Priffyrdd yn derfynol.
Ni chaiff unrhyw ran o gerbyd sydd wedi ei barcio o fewn eich eiddo gymryd lle ar y briffordd.
Dim ond cerbyd nwyddau ysgafn neu un cyffelyb gaiff ddefnyddio croesfan cerbyd domestig. Ni chaiff cerbydau nwyddau trwm na chyfarpar mecanyddol eu defnyddio. Os dosbarthir rhywbeth megis sgip i'r eiddo, ac y gwneir difrod i'r groesfan wrth wneud hynny, cyfrifoldeb y deiliad fydd gwneud yr atgyweiriadau angenrheidiol.
2.44 metr yw lled croesfan safonol y tu ôl i lwybr troed cyhoeddus. Bydd hyn yn cynyddu hyd at tua 4.58 metr ar ochr y palmant. Gellir adeiladu croesfannau hyd at ddwywaith y lled hwnnw ynteu ddwy groesfan ar wahan lle bydd digon o le i adael dau fetr di-dor o le gwag heb ei ddefnyddio ar ochr y palmant. Ni chaniateir croesfannau sy'n mynd ar draws wyneb blaen yr eiddo i gyd.
Lle bydd dau eiddo'n rhannu un dreif, a'r ddau ddeiliad yn dymuno adeiladu croesfan ddwbl er mwyn diwallu anghenion y ddau le, dylai un deiliad weithredu ar ran y ddau.