Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n meddwl efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch, cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor. Cyn gwneud hynny, gallwch weld sut mae gwneud cais a lle mae cael cymorth ychwanegol i wneud eich cais yn y fan hon.
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel mae angen i chi gyflwyno cais i'ch cyngor lleol. Bydd eu hadran gynllunio'n penderfynu a gewch chi fwrw ymlaen â'ch prosiect ai peidio. Gelwir hyn yn 'rhoi caniatâd cynllunio'.
Ydych chi'n berchen ar yr eiddo?
Os nad ydych yn berchen ar yr eiddo, neu os nad ydych ond yn rhannol berchen ar eiddo, mae angen i chi roi gwybod i'r perchennog neu i'r rheini sy'n rhannu'r berchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw lesddeiliad sydd â saith mlynedd neu ragor ar ôl ar ei les, ac unrhyw denant amaethyddol. Os ydych yn meddwl y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio, cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor.
Gofyn am ffurflen gais
Os yw'r cyngor yn meddwl bod angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, gofynnwch am ffurflen gais. Fe roddant wybod i chi sawl copi o’r ffurflen y bydd angen i chi eu hanfon yn ôl a beth fydd y ffi ar gyfer gwneud y cais. Gofynnwch a ydyn nhw’n rhagweld unrhyw anawsterau, y gellid eu goresgyn drwy addasu’ch cais. Gall arbed amser neu drafferth yn nes ymlaen os bydd eich ceisiadau yn adlewyrchu’r hyn yr hoffai’r cyngor ei weld hefyd.
Dewis y cais cywir
Dewiswch y cais priodol y mae angen i chi ei wneud. Cais llawn fydd hwn gan amlaf, ond, ceir rhai amgylchiadau pan fydd arnoch, o bosib, eisiau gwneud 'cais amlinellol' – er enghraifft, os oes arnoch chi eisiau gweld beth yw barn y cyngor am y gwaith adeiladu yr ydych yn bwriadu ei wneud cyn i chi fynd i’r drafferth o wneud lluniadau manwl (ond bydd yn dal yn ofynnol i chi gyflwyno manylion yn nes ymlaen). Yn achlysurol, am resymau cynllunio, gallai'r cyngor fynnu eich bod yn gwneud cais llawn er y byddai'n well gennych wneud cais amlinellol.
Anfon y dogfennau i gyd i'ch cyngor
Ar ôl i chi eu llenwi, dylech anfon y ffurflenni cais i’ch cyngor, ynghyd â’r ffi gywir. Rhaid anfon cynllun o’r safle gyda phob ffurflen ynghyd â chopi o’r lluniadau sy’n dangos y gwaith y bwriadwch ei wneud.
Gallwch ddefnyddio'r ddolen isod a fydd yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Bydd y cyngor yn ceisio penderfynu ar eich cais o fewn wyth wythnos. Os na all wneud hynny, bydd fel arfer yn ceisio cael eich caniatâd ysgrifenedig chi i ymestyn y cyfnod. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os oes materion cymhleth i'w datrys neu os effeithir ar lawer o bobl gan y datblygiad arfaethedig.
Gallwch yn awr wneud cais cynllunio ar-lein drwy'r Porth Cynllunio (os yw'ch cyngor lleol yn cymryd rhan yn y cynllun).
Mae'n eich galluogi i greu cais cynllunio a'i anfon yn electronig i'ch awdurdod cynllunio lleol, ynghyd ag unrhyw atodiadau, neu i lenwi'r ffurflenni ar eich cyfrifiadur, ac wedyn eu hargraffu a'u hanfon drwy'r post fel rhan o gais papur traddodiadol.
Trefnir gwaith adeiladu cyhoeddus sy'n effeithio ar breswylwyr a busnesau lleol ar sail canlyniadau ymgynghori â'r cyhoedd. Gofynnwch i'ch cyngor lleol am fanylion.
Gallwch gael cyngor a chymorth gyda materion cynllunio gan ymgynghorwyr cynllunio neu Wasanaethau Planning Aid.
Cewch enwau ymgynghorwyr drwy'r Cyfeiriadur Ymgynghorwyr Cynllunio Ar-lein sy'n rhestru tua 460 o ymgynghorwyr sy'n darparu arbenigedd ym mhob maes cynllunio.
Gwasanaeth gwirfoddol yw Planning Aid sy'n cynnig cyngor proffesiynol, annibynnol a di-dâl ar faterion cynllunio trefol i grwpiau cymunedol ac i unigolion nad ydynt yn gallu fforddio cyflogi ymgynghorydd cynllunio.
Cofnodir penderfyniadau ynghylch caniatâd cynllunio yn y Gofrestr Penderfyniadau Statudol. Gosodir amodau ar nifer o geisiadau a gymeradwyir. Dylai'r gofrestr hefyd gynnig arweiniad ar yr hyn y dylech ei wneud os nad ydych chi'n hapus â'r penderfyniad. Oni bai fod y Gofrestr Penderfyniadau Statudol yn dweud fel arall, gall gwaith datblygu y cytunwyd arno yn y gorffennol ddechrau unrhyw bryd o fewn tair blynedd i'r dyddiad y rhoddwyd y caniatâd. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o fanylion am ddatblygiadau sydd wedi cael eu cymeradwyo o'r blaen.
Mae Cofrestr Penderfyniadau Statudol llawer o gynghorau lleol ar gael ar eu gwefan; fodd bynnag, dylech hefyd allu holi dros y ffôn neu fynd i'r dderbynfa gyhoeddus eich hun er mwyn holi. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os byddwch chi'n chwilio am geisiadau cynllunio yn eich ardal fe allwch chi hefyd ddefnyddio Cofrestr Ceisiadau Cynllunio Genedlaethol y Porth Cynllunio. Gyda hon, gallwch chwilio am geisiadau a phenderfyniadau cynllunio yng Nghymru a Lloegr.