Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhoi sylwadau ar geisiadau eraill

Os ydych am roi sylwadau ar gais cynllunio, dim ond hyn a hyn o amser sydd gennych i anfon sylwadau at y swyddfa gynllunio gan fod yn rhaid i'r broses gwneud penderfyniadau lynu wrth amserlenni.

Cael gwybod am ddatblygiadau

Os effeithir arnoch gan ddatblygiad newydd sydd yn yr arfaeth, efallai y byddwch yn clywed amdano gyntaf fel cymydog y bydd y datblygwr yn ymgynghori'n anffurfiol â hwy.

Ar ôl gwneud y cais cynllunio, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gosod hysbysiadau gerllaw'r safle ac/neu yn ysgrifennu llythyrau at y rhai sy'n byw'n agosaf at y datblygiad arfaethedig, gan ofyn am sylwadau.

Bydd datblygiadau mwy yn cael eu hysbysebu mewn papur newydd lleol hefyd. Mewn rhai achosion, mae awdurdodau lleol yn rhoi gwybod i gymdeithasau dinesig ac amgylcheddol lleol am bob cais yn yr ardal. Bydd manylion y cynigion, gan gynnwys lluniadau penseiri, ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd y cyngor lleol.

Rhoi eich barn

Dim ond hyn a hyn o amser fydd gennych i anfon sylwadau at y swyddfa gynllunio leol. Mae'n bwysig iawn cwrdd ag unrhyw derfyn amser neu efallai na fydd eich sylwadau'n cael eu hystyried.

Gellir mynychu cyfarfodydd pwyllgorau sy'n delio gyda cheisiadau cynllunio. Mewn sawl achos, gall aelodau'r cyhoedd siarad yn fyr i sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o'u safbwyntiau.

Fodd bynnag, dim ond aelodau etholedig o'r cyngor sy'n gallu pleidleisio ar y cais ei hun.

Ar ôl y penderfyniad gan yr awdurdod lleol

Yng Nghymru a Lloegr, ni chaiff trydydd parti apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol.

Er enghraifft, os cafodd eich cymydog ganiatâd i adeiladu estyniad, allech chi ddim apelio yn ei erbyn - hyd yn oed os oeddech wedi gwrthwynebu'r cais yn gynharach yn y broses.

Cwyno am benderfyniadau cynllunio

Mewn rhai achosion, gellir cyfeirio cwynion ynghylch sut y bu i awdurdod cynllunio lleol ddelio gyda chais cynllunio at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.

Ni chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i guyn yn erbyn penderfyniad cynllunio dim ond oherwydd nad yw'r ymgeisydd a'r awdurdod lleol yn cytuno yn ei gylch.

Nid oes gan yr Ombwdsmon buer i newid y penderfyniad, hyd yn oed os na fu gweinyddiaeth yr awdurdod lleol yn gwbl gywir.

Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'r Ombwdsmon yn penderfynu bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n anghywir wrth ddelio gyda mater cynllunio, gall yr Ombwdsmon orchymyn i'r awdurdod dalu iawndal i'r achwynwyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU