Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dod o hyd i adeilad rhestredig

Yn meddwl gwneud gwaith adeiladu? Dyma sut mae gwneud cais am ganiatâd cynllunio, dilyn trywydd ceisiadau cynllunio neu gael gwybod a yw adeilad wedi'i restru drwy eich cyngor lleol.

Dod o hyd i adeiladau rhestredig yn eich ardal

Os ydych chi am wneud gwaith adeiladu yn eich cartref neu'n symud i gartref newydd a'ch bod yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu arno yn y dyfodol dylech sicrhau nad yw'n adeilad rhestredig oherwydd os felly, bydd rheolau eraill yn berthnasol iddo.

Mae'n bosib bod gan eich cyngor restr neu gatalog o adeiladau rhestredig. Neu gallech ofyn i English Heritage am wybodaeth ynghylch adeiladau rhestredig. Adeiladau yw'r rhain y mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi penderfynu eu bod o bwys pensaernïol neu hanesyddol. Rhaid i unrhyw gynllun i'w newid a allai effeithio ar eu cymeriad arbennig gael ei gytuno arno gan y cyngor. Gall eich cyngor lleol ddweud rhagor wrthych am hyn.

Rhennir adeiladau rhestredig yn 3 chategori:

  • Gradd I - adeiladau o ddiddordeb eithriadol.
  • Gradd II* - adeiladau o ddiddordeb arbennig.
  • Gradd II - adeiladau eraill o ddiddordeb arbennig.

Mae'n bosib hefyd fod gan eich cyngor lleol restr o adeiladau lleol sydd â chymeriad iddynt neu adeiladau o bwys. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw warchodaeth gyfreithiol i'r adeiladau ond mae'n gofnod cyhoeddus o'u statws arbennig, y gellid ei ystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am adeiladau rhestredig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU