Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y system gynllunio a rheoli datblygu

Mae angen y system gynllunio er mwyn rheoli datblygu yn eich ardal. Eich awdurdod cynllunio lleol sy'n gyfrifol am benderfynu a ddylai datblygiad - unrhyw beth yn amrywio o estyniad ar gartref i ganolfan siopa newydd - fynd yn ei flaen. Fel arfer yr Awdurdod Cynllunio lleol yw eich cyngor dosbarth neu fwrdeistref - nid y cyngor plwyf neu'r cyngor tref.

Rôl y cyngor lleol

O fewn y fframwaith deddfwriaeth a gymeradwyir gan y Senedd, rhaid i gynghorau geisio sicrhau bod datblygiad yn cael ei ganiatáu lle bo'i angen, gan sicrhau na fyddai'n effeithio'n andwyol ar amwynder a chymeriad yr ardal trwy adeiladau newydd neu newidiadau i'r defnydd o adeiladau neu dir.

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod angen caniatâd cynllunio gan y cyngor ar gyfer gwaith mawr, ond does dim rhaid ei gael ar gyfer llawer o fân waith. Gall y cynghorau ddefnyddio rheolaethau cynllunio i ddiogelu cymeriad ac amwynder eu hardal, tra bo gan unigolion lefel resymol o ryddid i addasu eu heiddo - yn enwedig ers cyflwyno'r newidiadau i'r rheoliadau cynllunio ym mis Hydref 2008.

Rheoli datblygu

Dim ond pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid cael adeiladu rhywbeth yn eu hardal y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod ar draws y system gynllunio.

Ar gyfer y rhan fwyaf o adeiladau newydd neu newidiadau mawr i adeiladau sydd yno eisoes neu i'r amgylchedd lleol, rhaid cael cydsyniad - a elwir yn ganiatâd cynllunio.

Bydd pob cais am ganiatâd cynllunio'n cael ei wneud i awdurdod cynllunio lleol yr ardal.

Rhaid i'r cais gynnwys digon o fanylion i'r awdurdod weld pa effaith a allai'r datblygiad ei chael ar yr ardal.

Os yw'r cais cynllunio'n unol â chynllun cymeradwy'r ardal, fel arfer gall yr ymgeisydd ddisgwyl cael caniatâd cynllunio o fewn wyth wythnos os yw'n berchennog tŷ. Gan amlaf, bydd angen mwy o amser ar gyfer cymeradwyo datblygiadau masnachol mawr.

Datblygu a ganiateir

Gan fod effaith datblygiadau o'r fath ar gymdogion neu ar yr amgylchedd yn debygol o fod yn fach, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi caniatâd cynllunio cyffredinol i'w caniatáu. Gelwir hyn yn 'ddatblygu a ganiateir'.

Mewn rhai sefyllfaoedd nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu a gall hyn gynnwys estyniadau, ystafelloedd haul, trawsnewid atig a gosod paneli solar - ar yr amod bod y prosiect yn bodloni amodau pwysig penodol (er enghraifft, y rheini sy'n cwmpasu dimensiynau a safle estyniad). Dylech ofyn am gyngor gan eich Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i chi ddechrau ar y gwaith.

Bydd rhai ardaloedd wedi'u gwarchod yn arbennig rhag datblygiadau penodol am eu bod yn cynnwys tirlun deniadol (megis parciau cenedlaethol) neu blanhigion a bywyd gwyllt diddorol, neu oherwydd bod angen atal trefi a phentrefi rhag lledu gormod i gefn gwlad (megis y llain las).

Mae rhai darnau llai o dir hefyd yn cynnwys henebion na cheir mo'u difrodi. Mae rhai adeiladau wedi'u gwarchod yn arbennig neu wedi'u rhestru oherwydd eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol.

Cael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio

Mae'r llywodraeth wedi rhoi'r prif gyfrifoldeb dros reoli datblygu yng Nghymru a Lloegr i awdurdodau cynllunio lleol - un o adrannau eich cyngor lleol. Bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau cenedlaethol ar reoli datblygu yn eu hardal, er bod rheolau ac amodau penodol yn berthnasol yn lleol.

Os ydych chi'n byw o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol, bydd awdurdod y Parc yn penderfynu a ddylai datblygiad fynd rhagddo ai peidio. Hefyd, mae'r cyngor sir yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â gwastraff a swyddogaethau cynllunio ar gyfer mwynau mewn ardaloedd awdurdodau lleol nad ydynt yn awdurdodau unedol nac yn barciau cenedlaethol.

Dan rai amodau, wrth ddefnyddio datblygiadau diwydiannol neu fasnachol mawr neu ddatblygiadau dadleuol gan amlaf, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros gynllunio yn galw'r cais i mewn.

Mae gwefan Porth Cynllunio'r llywodraeth yn cynnwys canllawiau ar y broses rheoli datblygu a gall hynny eich helpu i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ai peidio, ac os felly, sut i wneud cais amdano.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU