Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae strydoedd yn cael eu henwi a'u rhifo

Mae cyfeiriad eiddo yn fater pwysig - rhaid i'r Heddlu, gwasanaethau brys a'r cyhoedd gael modd o gyfeirio at eiddo a dod o hyd iddo. Eich cyngor lleol yw'r awdurdod sy'n enwi a rhifo strydoedd yn eich ardal.

Gewch chi enwi'ch tŷ heb gysylltu â'r cyngor?

Ar yr amod bod rhif ar eich tŷ eisoes, yna gall perchennog yr eiddo enwi'r tŷ heb orfod cysylltu â'r cyngor. Nid oes gan gynghorau unrhyw bwerau dros enwau tai. Yr unig ganllawiau a roddant yw na ddylai perchnogion ddewis yr un enw â thŷ arall yn y cyffiniau neu enw tebyg iddo.

Gellir ychwanegu'r enw newydd at gyfeiriad post sy'n bodoli eisoes, ond ni ellir dileu'r rhif post hwnnw oddi ar y cyfeiriad. Yn yr achos yma, ni fydd enw'r eiddo yn mynd yn rhan o gyfeiriad swyddogol yr eiddo hwnnw; felly rhaid parhau i ddangos y rhif a chyfeirio ato mewn unrhyw ohebiaeth.

Beth os nad oes rhif ar y tŷ?

Ni fydd y cynghorau na'r gwasanaethau brys yn ffafrio defnyddio enwau tai yn unig oherwydd y bydd rhif yn gallu dynodi lleoliad eiddo mewn ffordd yn rhwydd. Ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol, dylai rhif tŷ gael ei arddangos mewn lle amlwg fel ei fod yn hawdd i'w ddarllen.

Mewn achosion lle nad oes rhif wedi'i ddyrannu, bydd enw'r eiddo yn ffurfio rhan o'r cyfeiriad swyddogol.

Cyfrifoldeb perchnogion eiddo yw rhoi gwybod am unrhyw newid neu ychwanegiad swyddogol mewn cyfeiriad i bobl gyfarwydd ac i'r gwasanaethau cyngor perthnasol.

Beth sy'n digwydd pan fydd angen ailenwi neu ail-rifo stryd?

Weithiau bydd angen ailenwi neu ail-rifo stryd. Digwydd hyn fel arfer pan nad oes dim arall y gellir ei wneud pan fydd un o'r sefyllfaoedd canlynol yn codi:

  • mae dryswch ynghylch enw a/neu rifau stryd
  • mae grŵp o breswylwyr yn anhapus ynghylch enw eu stryd
  • mae adeiladau newydd yn cael eu codi ac mae angen ail-rifo adeiladau sy'n bodoli eisoes er mwyn cyd-fynd â'r rhai newydd
  • mae nifer yr adeiladau mewn stryd sydd gydag enwau'n unig yn peri dryswch i ymwelwyr a gwasanaethau brys

Bydd y ddolen ganlynol yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Rhoi gwybod i'ch cyngor lleol am broblem gydag arwydd enw stryd

Eich cyngor sydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod arwyddion enw stryd ar gael a'u bod wedi'u gosod mewn lleoliadau addas. Os oes gennych chi broblem gydag arwydd enw stryd yn eich ardal neu os oes nam arno, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU