Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer pleidleiswyr anabl

Dylai fod yn hwylus i chi bleidleisio mewn etholiadau lleol a chyffredinol - pa un a ydych yn dewis pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu mewn ffordd arall (er enghraifft, drwy'r post).

Gorsafoedd pleidleisio a gwybodaeth leol

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (1995), mae gan ddarparwyr gwasanaethau ymrwymiad cyfreithiol i wneud unrhyw addasiadau 'rhesymol' i'w hadeiladau fel bod pobl anabl yn gallu'u defnyddio. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys gorsafoedd pleidleisio.

Gallwch gael gwybod am y broses bleidleisio a'ch gorsaf bleidleisio leol drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol, neu eich cyngor lleol.

Dylai cynghorau lleol roi gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio, gan gynnwys manylion am y canlynol:

  • mynediad - mannau parcio i bobl anabl a rampiau i mewn i'r adeiladau
  • blychau pleidleisio ar lefel isel
  • cyfarpar megis chwyddwydrau i bleidleiswyr gyda nam ar eu golwg

Yn aml, bydd yr wybodaeth hon ar gael ar wefan y cyngor. Dylent hefyd fod â llinell gymorth a chyfeiriad e-bost lle gallwch holi am fwy o wybodaeth.

Gall grwpiau anabledd lleol roi cyngor a chymorth i chi.

Os bydd angen cymorth arnoch ar ddiwrnod pleidleisio, gallwch wneud cais i'r swyddog llywyddol i ofyn iddynt hwy farcio'ch papur pleidleisio ar eich rhan. Neu dylent adael i chi bleidleisio gyda chymorth cydymaith.

Dyfeisiau pleidleisio drwy gyffwrdd ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall

Rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu dyfais bleidleisio drwy gyffwrdd ac arddangos o leiaf un fersiwn print bras o'r papur pleidleisio. Mae hyn yn ei gwneud yn haws pleidleisio heb gymorth person arall os ydych yn ddall neu'n rhannol ddall.

Gallwch hefyd ofyn i staff yr orsaf bleidleisio ddarllen y rhestr o ymgeiswyr a'u manylion yn uchel wrthych.

Sut mae'r dyfeisiau'n gweithio

Mae gan y ddyfais bleidleisio adlyn ar y cefn sy'n glynu'n gadarn yn y papur pleidleisio, ond gellir ei dynnu i ffwrdd heb wneud difrod i'r papur.

Mae fflapiau ar y ddyfais yn gorchuddio pob blwch ar y papur pleidleisio lle nodir y bleidlais. Bydd y rhif ymgeisydd sy'n cyfateb i'r blwch a orchuddir gan fflap penodol wedi'i foglynnu mewn du ar arwyneb y fflapiau. Mae'r rhif i'w weld yn glir yn erbyn cefdnir gwyn y papur pleidleisio ac mae'r print wedi'i godi hefyd fel y gellir ei ddarllen drwy deimlo.

I bleidleisio, rydych yn codi'r fflap priodol i ddatgelu'r blwch ar y papur pleidleisio ac yn rhoi eich marc. Gallwch wedyn dynnu'r ddyfais oddi ar y papur pleidleisio, plygu'r papur a'i osod yn y blwch pleidleisio heb gymorth.

Ffyrdd o bleidleisio

Os yw hi'n anodd i chi fynd i'ch gorsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio mewn ffordd arall.

Pleidleisio drwy'r post

Gall unrhyw un bleidleisio drwy'r post a does dim rhaid i chi rhoi rheswm am bleidleisio drwy'r post. Rhaid i chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post mewn da bryd cyn yr etholiad. Gallwch lwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post oddi ar y we, a chael mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post, ar y wefan 'About My Vote'.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch chi bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu eich bod chi'n penodi rhywun arall i fod yn ddirprwy i bleidleisio ar eich rhan. Cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol i gael ffurflen gais. Gallwch ganfod manylion eich swyddfa cofrestru etholiadol a mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar y wefan 'About My Vote'.

Atwrneiaeth a phleidleisio

Proses ydy 'atwrneiaeth' lle mae person yn rhoi hawl cyfreithiol i un neu fwy o bobl - y twrnai/twrneiod - i reoli eu materion gan nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud hynny eu hunain. Gallai hyn olygu hawl i lofnodi sieciau neu dynnu arian o gyfrif cynilo ar eu cyfer.

Nid yw atwrneiaeth yn ymestyn i'r broses etholiadol. Nid oes gan dwrnai bwerau i bleidleisio ar ran person arall, onid ydynt wedi cael eu penodi'n ddirprwy ar ffurflen sydd wedi'i llofnodi gan y person.

Gwybodaeth am bleidleisio mewn fformatau gwahanol

Mae gan y Comisiwn Etholiadol wefan 'About My Vote' sy'n cynnwys gwybodaeth y gellir ei llwytho oddi ar y we mewn print bras a fformatau iaith amrywiol, ac fel ffeiliau sain. Mae'r taflenni'n cynnwys:

  • canllaw hawdd i bleidleisio
  • cofrestru i bleidleisio
  • gwneud cais am bleidlais bost

Mae fersiynau Braille ar gael gan y swyddfa cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol.

Gwybodaeth am bleidleisio 'hawdd ei darllen'

Mae'r wefan 'Our Vote, Our Voice' wedi'i datblygu gyda chymorth pobl ag anawsterau dysgu. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am bleidleisio. Gallwch lwytho pecyn gwybodaeth oddi ar y we, neu archebu DVD am etholiadau.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal gwefan o'r enw 'Do politics'. Mae yna lyfrynnau hawdd eu darllen y gallwch eu llwytho oddi ar y we am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Gallwch hefyd archebu DVD am bleidleisio. Mae gan y DVD is-deitlau mewn 14 iaith, a fersiwn mewn Iaith Arwyddion Prydain.

Y Comisiwn Etholiadol

Corff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU ydy'r Comisiwn Etholiadol. Un o'i nodau yw ystyried sut i foderneiddio'r broses etholiadol, gan gynnwys sut i'w gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio. Mae eu gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am etholiadau a'r broses ddemocrataidd, gan gynnwys gwybodaeth sy'n arbennig o berthnasol i bobl anabl.

Rhagor o wybodaeth

Ceir gwybodaeth gyffredinol am bleidleisio, etholiadau a phleidiau gwleidyddol yn adran llywodraeth, dinasyddion a hawliau Cross & Stitch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU