Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn rhoi hawliau mynediad pwysig i bobl anabl at wasanaethau bob dydd. Mae gan ddarparwyr gwasanaeth ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i’w hadeilad a'r ffordd y maent yn darparu gwasanaeth. Weithiau dim ond mân newidiadau sydd eu hangen i wneud gwasanaeth yn hwylus.
Mae gwasanaethau bob dydd yn cynnwys y rhai a ddarperir gan gynghorau lleol, meddygfeydd, gwestai, banciau, tafarnau, theatrau, siopau trin gwallt, addoldai, llysoedd a grwpiau gwirfoddol megis grwpiau chwarae. Mae gwasanaethau anaddysgol a ddarperir gan ysgolion yn cael eu cynnwys hefyd.
Nid mater o fynediad corfforfol yn unig yw mynediad at wasanaethau, mae'n fater o wneud gwasanaethau'n haws i'w defnyddio i bawb.
Cyfeiriadur ar-lein gyda gwybodaeth fanwl am fynediad yn lleoliadau drwy'r DU yw DisabledGo. Gallwch chwilio drwy’r gronfa ddata, a hidlo canlyniadau fel y gallwch weld a ydy lleoliad yn addas at eich anghenion unigol chi.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae'n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaeth drin pobl anabl yn llai ffafriol nag eraill am reswm sy'n ymwneud â'u hanabledd. Mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud 'addasiadau rhesymol' i'r ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau fel y gall pobl anabl eu defnyddio.
Dyma rai enghreifftiau o addasiadau rhesymol:
Gall yr hyn a ystyrir yn 'addasiad rhesymol' i sefydliad mawr megis banc, fod yn wahanol i addasiad rhesymol i siop fach leol. Yr hyn sy'n ymarferol i sefyllfa'r darparwr gwasanaeth sy'n bwysig, a pha adnoddau sydd gan y busnes. Ni fydd yn rhaid iddynt wneud newidiadau sy'n anymarferol neu y tu hwnt i'w modd.
Oni ellir ei gyfiawnhau, mae peidio â darparu neu wrthod darparu gwasanaeth i berson anabl, a gynigir i bobl eraill, yn wahaniaethu.
Mae'n syniad da siarad gyda'r darparwyr gwasanaeth yr ydych yn eu defnyddio gan amlaf, megis eich meddygfa leol neu siop yr ydych yn defnyddio llawer, gan egluro'n union beth yw eich anghenion. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall pa addasiadau y gall fod angen iddynt eu gwneud i'r ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau.
Os yw'n anodd i chi ddefnyddio gwasanaeth lleol - er enghraifft, ni allwch ddefnyddio siop prydau parod leol oherwydd bod y cownter yn rhy uchel - dylech gysylltu â'r sefydliad a rhoi gwybod iddynt. Wedi'r cyfan, maen nhw eisiau gwneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio eu gwasanaeth.
Dylech gynnig awgrymiadau adeiladol ynghylch sut y gallai'r darparwr gwasanaeth wella'r ffordd y darperir eu gwasanaethau. Eglurwch yr anhawster yr ydych yn ei gael wrth gael mynediad at eu gwasanaeth a rhowch enghreifftiau o'r modd y mae busnesau eraill wedi datrys y broblem, os gwyddoch am unrhyw rai.
Os yw'r darparwr gwasanaeth yn cytuno i wneud addasiad, gofynnwch iddynt nodi hynny ar bapur. Bydd hyn yn help i chi holi eto am eich cais os na fydd y darparwr gwasanaeth yn cadw at ei air.
Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i gyfeirio darparwyr gwasanaeth at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am fwy o wybodaeth am sut i wneud eu gwasanaethau'n hwylus i gwsmeriaid anabl. Gallech ddweud wrthynt hefyd y gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynghori darparwyr gwasanaeth am eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac am y modd y gallant gwrdd â'r cyfrifoldebau hynny.
Mae'r ddogfen ‘Gwneud mynediad i nwyddau a gwasanaethau yn haws i gwsmeriaid anabl’ yn ganllaw defnyddiol i ddarparwyr gwasanaeth ynghylch eu cyfrifoldebau dan y Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Fe'i cyhoeddwyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd, a ddisodlwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 1 Hydref 2007.
Os nad yw siarad gyda darparwr gwasanaeth am eich anghenion yn arwain at unrhyw newidiadau, y lle cyntaf i droi ato am gymorth a chyngor yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'r comisiwn yn rhoi cymorth i bobl anabl sicrhau eu hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.