Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sinema - mynediad a chyfleusterau

Mae'r rhan fwyaf o sinemâu, yn enwedig rhai modern sy'n cynnwys sawl sgrin, yn darparu cyfleusterau da ar gyfer pobl anabl. Fel arfer, ceir manylion am gyfleusterau sinemâu ar eu gwefannau dan deitl fel 'Mynediad' (Access) neu 'Cwsmeriaid anabl' (Disabled customers).

Cerdyn Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema

Mae Cerdyn Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema (CEA) yn gerdyn cenedlaethol ar gyfer pobl anabl. Mae'n rhoi hawl i'r deilydd gael un tocyn am ddim ar gyfer rhywun sy'n dod gyda nhw i'r sinema. I fod yn gymwys, mae'n ofynnol bod y deilydd yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini neu ei fod wedi'i gofrestru'n ddall.

Mae'r cerdyn yn costio £5.50 ac yn ddilys am un flwyddyn. Gallwch gael ffurflen gais mewn unrhyw sinema sy'n rhan o'r cynllun, neu gallwch lwytho un oddi ar wefan Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema.

Hyd yn oed os nad yw sinema'n rhan o'r cynllun, mae'n werth holi a fyddent yn gadael i'ch gofalwr neu'ch cynorthwyydd fynd i mewn am bris gostyngol neu am ddim.

Cwsmeriaid dall neu gwsmeriaid â nam ar eu golwg

Mae llawer o sinemâu'n cynnig disgrifiadau llafar gyda'u ffilmiau ac mae mwy a mwy o ffilmiau'n ei gynnwys y dyddiau hyn. Gyda'r gwasanaeth hwn, mae'r digwyddiadau, y newidiadau yn y golygfeydd ac iaith gorfforol yr actorion yn cael eu disgrifio yn ychwanegol i'r ddeialog. Rydych yn gwrando ar y sylwebaeth drwy glustffonau ysgafn.

Mewn rhai sinemâu, mae'r system ganddynt ar gyfer pob un o'u sgriniau, sy'n golygu y gellir cael disgrifiad llafar gyda phob ffilm a ddangosir. Mewn rhai eraill, holwch pryd fydd ffilmiau â disgrifiad llafar yn cael eu dangos. Y naill ffordd neu'r llall, trefnwch fod y gwasanaeth ar gael i chi wrth archebu.

Ceir ar wefan Your Local Cinema restri o'r ffilmiau gyda disgrifiad llafar sy'n cael eu dangos mewn sinemâu, yn ogystal â'r DVDs â disgrifiad llafar sydd ar gael.

Mae gan rhai sinemâu gynllun o'r sinema ei hun a gwybodaeth arall mewn Braille. Fel arfer, gellir cael amseroedd y rhaglenni fel neges wedi'i recordio dros y ffôn.

Cwsmeriaid byddar a chwsmeriaid â nam ar y clyw

Mae gan y rhan fwyaf o sinemâu ddolenni sain - naill ai rhai is-goch, rhai anwythol neu'r ddau.

Bydd system dolen sain yn eich helpu i glywed yn well drwy leihau sŵn cefndir. Mewn sinema, gall dolen eich helpu i glywed y ffilm yn gliriach. Ni ellir defnyddio dolenni sain anwythol i roi sain stereo, ond gellir defnyddio systemau isgoch.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi wrth archebu a yw'r sinema'n cynnig y cyfleuster hwn ai peidio.

Mae llawer o sinemâu'n dangos ffilmiau ag isdeitlau'n rheolaidd. Bydd hyn yn cael ei nodi yn y rhestri fel arfer. Ceir ar wefan Your Local Sinema restri o'r ffilmiau ag isdeitlau sy'n cael eu dangos drwy'r wlad.

Cwsmeriaid gyda nam corfforol neu ag anawsterau symud

Os ydych yn defnyddio cadair olwyn neu os nad ydych yn gallu symud yn dda, cysylltwch â'r sinema ymlaen llaw i holi am eu cyfleusterau. Rhaid i sinemâu ddarparu lle ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Os bydd angen cadair olwyn arnoch ar ôl cyrraedd y sinema, cysylltwch â'r sinema ymlaen llaw.

Cŵn cymorth

Os oes gennych gi cymorth, archebwch eich tocyn a rhowch wybod i'r sinema ymlaen llaw er mwyn iddynt gadw'r seddi mwyaf cyfleus i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU