Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwleidyddiaeth a'r llywodraeth

Dewch i ddysgu am y ffordd y caiff ein gwlad ei rhedeg a sut mae'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arnoch chi.

Teledu ar-lein ar gyfer gwleidyddiaeth

Sianel deledu ar y we sy’n cael ei rhedeg gan bobl ifanc yw Catch21.

Mae’r safle’n llawn fideos sy’n dangos sut mae’r system wleidyddol yn gweithio a beth mae Aelodau Seneddol yn ei wneud am y materion sy’n wirioneddol bwysig i chi.

Gallwch hefyd gael gwybod sut mae gwirfoddoli i fod yn rhan o’u fideos ar y we neu ychwanegu eich sylwadau ar flog Catch21.

Senedd Ieuenctid y DU

Os ydych chi am ddylanwadu ar Aelodau Seneddol ac ar y llywodraeth genedlaethol, gallwch fod yn rhan o waith Senedd Ieuenctid y DU (UKYP).

Nod UKYP yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed leisio’u barn wrth Aelodau Seneddol, gweinidogion y llywodraeth a gwleidyddion eraill.

Mae gan bob awdurdod lleol yn Lloegr o leiaf un unigolyn ifanc wedi’i ethol ar UKYP. Bob mis Gorffennaf, bydd yr holl aelodau’n dod at ei gilydd i drafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw ac i bobl ifanc eraill.

Os nad ydych yn dymuno sefyll etholiad, mae’n dal yn bosib i chi gymryd rhan yng ngwaith UKYP.

Gallwch chi wneud y pethau hyn:

  • pleidleisio yn etholiadau UKYP
  • cefnogi ymgyrchoedd UKYP
  • trafod materion a chael dadl yn eu cylch ar wefan UKYP
  • mynd i ddigwyddiad UKYP

Senedd Ieuenctid y DU y tu allan i Loegr

Os nad ydych yn byw yn Lloegr, bydd sefydliadau eraill yn trefnu’r etholiadau ar gyfer Senedd Ieuenctid y DU, sef:

  • Senedd Ieuenctid yr Alban
  • Y Ddraig Ffynci (Cymru)
  • Fforwm Ieuenctid Gogledd Iwerddon

Pleidleisio ac etholiadau

Bydd etholiadau'n caniatáu i'r cyhoedd ym Mhrydain ddweud eu dweud ynghylch pwy ddylai fod yn gwneud y penderfyniadau yn San Steffan drwy roi cyfle iddynt ethol Aelod Seneddol (AS) i'w cynrychioli.

Canfyddwch sut mae'r system bleidleisio'n gweithio a pha AS sy'n cynrychioli eich ardal leol chi.

Sut mae'r Senedd yn gweithio

Mae cannoedd o Aelodau Seneddol yn gweithio drosoch yn nau Dŷ’r Senedd, ond ydych chi'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud drwy'r dydd? Yma fe gewch gipolwg o'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan.

Hanes yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn dylanwadu llawer ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Fe gewch wybod yma sut y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi tyfu i fod yn un o sefydliadau mwyaf pwerus y byd.

Y Comisiynydd Plant

Yn 2005, penodwyd Comisiynydd Plant cyntaf Lloegr. Yma fe gewch wybod sut y cafodd ei ddewis ac am y cyfrifoldebau sydd ganddo tuag at blant a phobl ifanc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU