Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu

Cael awgrymiadau ar ymdopi yn yr ysgol, canfod y cymwysterau iawn, adolygu, pasio arholiadau hollbwysig a mynd i'r coleg neu i'r brifysgol. Mae'r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i fanteisio i'r eithaf ar eich addysg.

Dewisiadau rhwng 14 ac 19 oed

Pan fyddwch yn 14 oed, bydd yn rhaid i chi wneud llawer o benderfyniadau am eich addysg.

Mae mwy iddi na pha bynciau i'w hastudio ar gyfer eich TGAU; gallwch hefyd ddewis o amrywiaeth o wahanol gymwysterau, gan gynnwys y Diplomâu newydd.

Cewch yma wybod popeth y dylech ei wybod am y gwahanol gyrsiau, y cymwysterau a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael, yn ogystal â lle mae dod o hyd i gymorth.

Dod o hyd i gymwysterau a chyrsiau yn eich ardal chi

Pan fyddwch wedi dewis y pynciau yr hoffech eu hastudio, bydd angen i chi ganfod a oes ysgol, coleg neu chweched dosbarth yn eich ardal chi yn eu cynnig.

Drwy edrych ar eich prosbectws lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed, gallwch weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Os ydych yn fyfyriwr sy'n byw neu'n symud i'r Almaen neu i Gyprus gyda'r Lluoedd Arfog, cewch wybod am gyfleoedd dysgu drwy asiantaeth 'Service Children's Education'.

Mynd i brifysgol neu goleg

Os byddwch chi'n cael cyfle i barhau i astudio ar ôl i chi orffen yn yr ysgol, dyma syniad o sut fath o fywyd gewch chi mewn coleg neu brifysgol.

Sgiliau astudio

Does dim rhaid i astudio fod yn hunllefus. Yma fe gewch wybod mwy am sut i drefnu'ch amser a'ch astudio yn well drwy ddilyn cyngor defnyddiol Cross & Stitch.

Gweithgareddau allgyrsiol

Mae mwy i'r ysgol na dysgu yn y dosbarth - mae llawer o glybiau y gallwch ymuno â nhw, a nifer o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt pan nad ydych yn y dosbarth yn dysgu. Yma fe gewch weld yr hyn y gallai'ch ysgol ei gynnig ar ôl yr oriau cau.

Mynd yn wyrdd

A newid yn yr hinsawdd yn dod yn fater cynyddol bwysig, cymerwch olwg ar rai syniadau ar sut y gallwch chi helpu'r amgylchedd yn yr ysgol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU