Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn fwy gwyrdd yn yr ysgol

Mae nifer o bethau amgylcheddol cyfeillgar y gallwch eu gwneud yn yr ysgol neu goleg i helpu i amddiffyn y blaned ac atal newid yn yr hinsawdd. Mae'r rhain yn cynnwys sefydlu cynlluniau ailgylchu a dod o hyd i ffyrdd mwy gwyrdd o deithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

Mynd yn wyrdd

Mae newid yn yr hinsawdd a llygredd yn faterion sy'n effeithio arnon ni i gyd. Dylai pawb wneud cymaint ag sy'n bosib i helpu'r amgylchedd.

Mae 'na rai atebion sy'n gallu helpu ond mae angen i bawb wneud eu rhan os ydy'r atebion hyn yn mynd i weithio.

Ysgol

Yn ogystal â gwneud eich rhan gartref, gallwch chi a’ch ffrindiau wneud rhai pethau a allai helpu yn yr ysgol hefyd.

Cyrraedd yr ysgol

Os ydych yn cael eich gyrru i'r ysgol fel arfer, gallech weld a oes ffordd arall o gyrraedd yno. Gallwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu fws ysgol. Oherwydd eu bod yn gallu cludo llawer o bobl, mae cymryd bws neu drên yn lleihau maint y CO2 sy'n gollwng i'r aer. Os ydych chi’n byw’n agos i’ch ysgol, pam na fyddwch yn cerdded neu seiclo yno? Yn ogystal â bod yn well i'r amgylchedd, mae'n ffordd wych o gael rhywfaint o ymarfer corff.

Os defnyddio car yw'r unig ffordd o fynd i'r ysgol, gallech holi a allech chi a'ch ffrindiau sefydlu cynllun rhannu car lle gallech fynd i'r ysgol gyda'ch gilydd mewn un car yn hytrach na mynd mewn nifer o wahanol rai.

Yn y dosbarth

Ar gyfartaledd, mae pob person yn y DU yn defnyddio 200 cilogram o bapur bob blwyddyn. Os gallwch, ceisiwch ddefnyddio dwy ochr i ddarn o bapur cyn ei daflu. Mae hefyd yn syniad da sicrhau eich bod yn defnyddio papur wedi'i ailgylchu.

Os ydych mewn dosbarth TG neu yn yr ystafell gyfrifiaduron yn gwneud rhywfaint o ymchwil, meddyliwch cyn argraffu rhywbeth. A oes angen copi papur arnoch o'r hyn yr ydych yn edrych arno?

Hefyd, gallwch ailgylchu neu ail-lenwi cetris argraffu. Siaradwch ag athro a gwnewch yn siŵr nad yw eich ysgol yn eu taflu i'r bin pan fyddant yn dod i ben.

Bwyd a diod

Bwyd a diod

Pa un ai eich bod yn bwyta pecyn bwyd o’r cartref neu’n prynu rhywbeth o’r ysgol, mae’n syndod beth y gallwch eu gwneud amser cinio i helpu’r amgylchedd. Er enghraifft:

  • os nad oes gan eich ysgol finiau ailgylchu yn y ffreutur neu'r neuadd fwyta, siaradwch â'ch pennaeth i weld a oes modd cael rhai
  • os ydych yn yfed dŵr o boteli plastig, beth am eu hail-lenwi yn hytrach na'u taflu
  • holwch a allai eich ysgol droi eu gwastraff bwyd yn gompost yn hytrach na'i daflu

Cymryd yr awenau

Os ydych eisiau sicrhau bod eich ysgol yn gwneud popeth posibl er budd yr amgylchedd, gwnewch restr o'r pethau yr hoffech eu gweld.

Gall athro gyflwyno'ch syniadau yn yr ysgol. Gallant hefyd gofrestru'ch ysgol gyda chynllun amgylcheddol cenedlaethol megis y rhaglen eco-ysgolion neu'r ymgyrch Cerdded i'r Ysgol.

Ar ôl i'r gwersi orffen

Nid yn yr ysgol yn unig y mae bod yn wyrdd. Gallwch wneud eich rhan er lles y blaned pan rydych chi gartref neu o amgylch y lle.

Allweddumynediad llywodraeth y DU