Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Beth bynnag yr ydych am ei wneud – ehangu'ch gorwelion drwy deithio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu eich car eich hun i deithio o gwmpas, mae'r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch.
Os ydych chi'n dysgu gyrru, mae llawer o bethau i'w cofio. Fe allwch chi gael gwybod popeth yma am sefyll eich prawf a sut i ddefnyddio'ch sgiliau gyrru newydd yn ddiogel ar ôl pasio.
Yma fe gewch ddod o hyd i'r hyn y cewch chi ac na chewch chi ei wneud gyda'ch trwydded yrru, sut i gael trwydded newydd neu ddiweddaru'ch trwydded, a beth fydd yn digwydd os cewch chi'ch gwahardd rhag gyrru.
Gallwch hefyd wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf ar-lein.
Yma fe gewch weld ein canllaw i deithio yn y DU. Mae modd cynllunio teithiau a chael gwybodaeth am deithio ar fysiau, ar drenau ac ar awyrennau a gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig hefyd.
Os ydych chi'n cael dipyn o anhawster teithio o gwmpas eich ardal leol a bod gennych syniadau ar gyfer gwella'r sefyllfa, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Dylai cynllunwyr trafnidiaeth holi pobl ifanc pa fathau o drafnidiaeth gyhoeddus y mae ei hangen arnynt a mynd ati i newid eu cynlluniau os nad ydynt yn gweithio.
Efallai y byddwch am awgrymu:
Dyma'r bobl orau i gysylltu â nhw yn eich awdurdod lleol ynghylch trefniadau trafnidiaeth:
Yma fe gewch gymaint o wybodaeth â phosib cyn dechrau ar eich taith, gyda chyngor am wledydd penodol, rhestri atgoffa i deithwyr a beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith.
Os oes arnoch eisiau gyrru unrhyw gerbyd ar wahân i gar, mae'r adran hon yn rhoi gwybod beth yw’ch dewisiadau os oes gennych chi drwydded yrru ddilys. Mae yma wybodaeth hefyd am sut i newid eich trwydded i yrru mathau eraill o gerbydau.
Dysgwch am wahanol ymgyrchoedd y llywodraeth sydd â'r bwriad o gadw gyrwyr ifanc a cherddwyr yn ddiogel pan fyddant yn defnyddio neu'n croesi'r ffyrdd.